Manylion y penderfyniad

Recovery Strategy Update (Streetscene and Transportation Portfolio)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Information Only

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide oversight on the recovery planning for the Committee’s respective portfolio(s)

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) adroddiad yn rhoi trosolwg o’r gwaith cynllunio adferiad ar gyfer maes portffolio’r Pwyllgor. Cyflwynodd wybodaeth gefndir ac esboniodd fod y fersiwn ddiweddaraf o’r gofrestr risg a set o gamau i liniaru risg ar gyfer y portffolio Strydlun a Thrafnidiaeth ynghlwm â’r adroddiad. 

 

Hefyd, dywedodd y Prif Swyddog fod diweddariad yn yr adroddiad ar gyfer pob un o 9 amcan adferiad y portffolio. Cyfeiriodd at gynnydd ym mherfformiad ailgylchu, datblygu seilwaith gwastraff i gefnogi’r potensial i gynyddu ailgylchu, a chynnal y rhwydwaith priffyrdd dros y gaeaf.

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog adroddiad ar y newidiadau yn y gofrestr risg ddiweddaraf a fyddai’n cael ei chylchredeg i aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod, a chyfeiriodd at arian gan Lywodraeth Cymru am golli incwm o feysydd parcio oherwydd cyfyngiadau Covid-19; lles gweithwyr cyflogedig, materion yn ymwneud â chydymffurfiaeth wrth ailgylchu defnyddiau gwastraff, a pharatoadau i ymateb i sefyllfaoedd brys.

 

Diolchodd y Cynghorydd Carolyn Thomas i’r holl staff yn yr adran Strydlun a Thrafnidiaeth am eu gwaith caled yn ystod y pandemig. Roedd y Cadeirydd hefyd yn dymuno diolch i’r Prif Swyddog a’i staff am eu gwaith o dan amodau anodd iawn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson am ddiweddariad ar yr Orsaf Trosglwyddo Gwastraff Safonol, a dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r tir yn wag cyn y Nadolig gyda’r gobaith o gael adeilad  newydd erbyn mis Mehefin/Gorffennaf a fyddai’n weithredol cyn diwedd yr haf 2021. Byddai’r cyfleuster newydd yn cynnwys canolfan addysg a byddai Aelodau’r Pwyllgor yn cael eu gwahodd i ymweld â’r ganolfan ar ôl iddi gael ei chwblhau.

 

Mewn ymateb i bryderon pellach a godwyd gan y Cynghorydd Hutchinson yngl?n â marciau ffordd, esboniodd y Prif Swyddog y byddai unrhyw ddiffygion yn cael eu nodi gan gydlynwyr stryd lleol yn ystod archwiliadau o’r priffyrdd ac y byddai contractwr arbenigol yn dod i mewn i gyflawni rhaglen waith. Awgrymodd y dylai’r Cynghorydd Hutchinson godi’r diffygion penodol roedd yn gwybod amdanynt gyda’i gydlynydd Strydlun lleol er mwyn gweithredu arnynt. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd George Hardcastle, rhoddodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar drefniadau cynnal y gaeaf, a chadarnhaodd fod stoc o halen carreg yn weddill ar gyfer cyfnod y gaeaf. Diolchodd y Cynghorydd Hardcastle i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith caled yn ystod misoedd y gaeaf.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Christopher Dolphin ac eiliwyd gan y  Cynghorydd Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd a wnaed i gefnogi Strategaeth Adferiad y portffolio Strydlun a Thrafnidiaeth.

 

Awdur yr adroddiad: Debbie Betts

Dyddiad cyhoeddi: 31/03/2021

Dyddiad y penderfyniad: 08/12/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 08/12/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: