Manylion y penderfyniad

Recovery Strategy Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide oversight on the recovery planning for the Committee’s respective portfolio(s).

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) adroddiad i roi’r newyddion diweddaraf i’r Pwyllgor am Gofrestr Risg y Portffolio Corfforaethol a mesurau lliniaru yn rhan o gynllunio adferiad, yn dilyn yr eitem yn y cyfarfod blaenorol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog, Rheolwr Cyllid Corfforaethol ac Uwch Reolwr Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol gyflwyniad ar y cyd am y prif newidiadau a’r materion presennol am risg ac adferiad o fewn eu portffolios fel a ganlyn:

 

·         Tueddiad risg gyfredol ac wedi dod i ben

·         Dadansoddiad o’r statws risg gyfredol

·         Dadansoddiad o statws tueddiad risg

·         Cyllid

·         Gweithlu

·         Llywodraethu

 

Cyllid

 

Er mwyn osgoi unrhyw ddryswch, dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y dylai’r data wahaniaethu rhwng gwella tueddiadau risg a thueddiadau sefydlog, felly dylai tueddiadau risg oedd yn sefydlog gael eu hanodi gyda’r saeth briodol, ond gallai aros yn goch, oren neu wyrdd yn y cyflwr sefydlog hwnnw. Dywedodd y Prif Swyddog bod y data’n cael ei gyflwyno i ddarparu cyd-destun ar y statws presennol ochr yn ochr â’r duedd, ond fe allai gael ei adolygu os oedd Aelodau eraill yn rhannu’r un pryder. Cynigiodd y Cynghorydd Jones ei awgrym fel argymhelliad, ac roedd yn cwestiynu teitl y Strategaeth Adfer am ei fod yn teimlo nad oedd hyn yn adlewyrchu cam presennol y pandemig. Dywedodd y Prif Swyddog bod y tri cham yn dilyn y terminoleg genedlaethol a bod y cam Adfer yn edrych ar gynllunio at y dyfodol. Yn anochel, fe allai pob cam newid ar unrhyw adeg.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at y newid yng ngraddfa risg ar gyllid cenedlaethol er mwyn disodli incwm sy’n cael ei golli (CF01), dywedodd y byddai’n cael ei anodi er mwyn adlewyrchu’r diweddariad yn y mis hwnnw. Gan ymateb i gwestiynau, siaradodd y Prif Swyddog am yr agwedd ragweithiol y mae’r tîm Refeniw wedi’i gymryd i ymgysylltu â chwmnïau preifat i gael gafael ar gyllid grant Llywodraeth Cymru (LlC) a darparu cefnogaeth trwy gytundebau ad-dalu lle y bo’n bosibl. O ran cadw Canolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy fel ysbyty brys, dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y trafodaethau yn mynd rhagddynt o ran cefnogaeth ariannol ar gyfer cwmnïau preifat sy’n gweithredu yn yr adeilad.

 

O ran risgiau ariannol, gofynnodd y Cynghorydd Johnson am yr effaith posibl ar osod Treth y Cyngor. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod yr adroddiad cyllideb ar gyfer cyfarfod y Cabinet a fyddai’n cael ei gynnal yn fuan yn sôn am ystod o bwysau costau oedd yn hysbys a’r datrysiadau cyfyngedig oedd ar gael i’r Cyngor i’w bodloni.  Byddai dechrau’r broses o ymgynghori ar y gyllideb ym mis Tachwedd yn rhoi cyfle i’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu adolygu a herio’r pwysau costau hynny ochr yn ochr â’r dull ehangach er mwyn adnabod arbedion effeithlonrwydd. Yn ychwanegol, roedd Cynghorau yng Nghymru yn gweithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar effaith ariannol y sefyllfa argyfyngus.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Dunbobbin, cytunodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol i drafod gyda’r Prif Swyddog (Tai ac Asedau) i ddarparu rhagor o wybodaeth am werth a rhesymau am y cynnydd mewn ôl-ddyledion rhent. Byddai adroddiad am ôl-ddyledion rhent yn cael ei ystyried gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu cyn y Cabinet.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Bateman, cadarnhawyd er nad oedd colli incwm meysydd parcio o Chwarter 2 yn bodloni’r meini prawf cymhwyso ar gyfer cyllid LlC, roedd swyddogion wrthi’n edrych ar hawliad posibl am nifer llai o ymwelwyr. Fe eglurodd y Cynghorydd Roberts bod Llywodraeth Cymru yn ystyried mai penderfyniad lleol oedd penderfynu rhoi’r gorau i godi tâl yn ystod y cyfnod yma.

 

Fe atgoffodd y Cynghorydd Banks yr Aelodau mai’r sail resymegol y tu ôl i benderfyniad y Cyngor oedd cefnogi canol trefi lleol. Dywedodd y Cynghorydd Jones bod modd dangos y dystiolaeth yma i LlC. Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd i Aelodau bod y Cyngor yn gwneud popeth posibl i fanteisio ar gyllid sydd ar gael gan LlC i gefnogi’r broses adfer.

 

Gweithlu

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Jones am argaeledd gweithlu yn sgil cyfrifoldebau gofalu, fe amlinellodd yr Uwch Reolwr y trefniadau sydd ar waith i gefnogi gweithwyr sydd methu gweithio o adref.  Fe gyfeiriodd hi hefyd at yr effaith ar y gweithlu sy’n deillio o’r risg o ran y gadwyn gyflenwi ar gyfer cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn cael ei fonitro gan Caffael.  Dywedodd y Prif Swyddog bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i gaffael y lefelau priodol o PPE ar gyfer gofal cymdeithasol a chynghorau yn ystod y gaeaf sydd i ddod.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Dunbobbin yngl?n â’r risg o ran argaeledd gweithwyr yn y sector addysg, dywedodd yr Uwch Reolwr bod hyn yn isel ac mai disgyblion oedd yn cael eu heffeithio’n bennaf, gydag ysgolion yn mabwysiadu dulliau creadigol i ddelio â’r sefyllfa. Darparodd wybodaeth hefyd am barhau â’r ymgysylltu cadarnhaol gyda chydweithwyr Undeb Llafur yn ystod y cyfnod o argyfwng.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson, siaradodd yr Uwch Reolwr am newidiadau sydd wedi’u gwneud at y broses recriwtio gan ddefnyddio dulliau digidol oedd yn ddull effeithlon.  Fe roddodd eglurhad hefyd am recriwtio i swyddi critigol yn cynnwys y broses gymeradwyo.

 

Llywodraethu

 

Diolchodd y Cynghorydd Dunbobbin i swyddogion am yr ymateb i’r achos diweddar o fynediad diawdurdod at ddata, ac fe awgrymodd y gellir ei ddefnyddio fel cyfle hyfforddiant ar gyfer gweithwyr.  Rhoddodd y Prif Swyddog enghreifftiau o gamau a roddwyd ar waith er mwyn sicrhau na fyddai’n digwydd eto. Gan ymateb i bryderon am gynnydd mewn seibr-drosedd ar draws y rhanbarth, rhoddodd drosolwg am raglen cynnal a chadw ac adnewyddu er mwyn diweddaru caledwedd a meddalwedd TGCh a byddai’n darparu ymateb ar wahân am y math o feddalwedd wal dân roedd y Cyngor yn ei ddefnyddio.

 

Gan ddiolch i swyddogion am yr adroddiad, fe achubodd y Cynghorydd Heesom ar y cyfle i fynegi pryderon am swyddogaeth Gynllunio. Gan fod y mater y tu allan i gylch gwaith y Pwyllgor, roedd y Prif Swyddog yn mynd i ofyn i’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i drafod yn uniongyrchol gyda Chynghorydd Heesom.

 

Fe ailadroddodd y Cynghorydd Jones ei gynnig blaenorol a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn derbyn y gofrestr risg ddiweddaraf a mesurau risg o fewn y portffolios corfforaethol; ac

 

 (b)      ar gyfer diweddariadau yn y dyfodol, bod y Pwyllgor yn gofyn pan fydd risg yn sefydlog, fe ddylid ei anodi gyda’r saeth briodol ond gall aros yn goch, oren neu wyrdd yn y cyflwr sefydlog hwnnw.

Awdur yr adroddiad: Kara Bennett

Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 15/10/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 15/10/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: