Manylion y penderfyniad

Forward Work Programme and Action Tracking

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To consider the Forward Work Programme of the Environment & Economy Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd yr Hwylusydd y Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol bresennol.   Cyfeiriodd at yr eitemau oedd wedi'u rhestru ar gyfer eu hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor a oedd i'w gynnal ar 8 Rhagfyr 2020 a dywedodd y byddai eitem ychwanegol yn cael ei chynnwys ar ddogfen ymgynghori ar y Gymraeg y Cyd-bwyllgor Corfforaethol a oedd yn gofyn am ymatebion erbyn 4 Ionawr 2021.    

 

Dywedodd yr Hwylusydd bod gweithdy ar Gynnal Ffosydd a Chyrsiau D?r wedi’i gynllunio ar gyfer mis Rhagfyr a hefyd bod y Bwrdd Uchelgais Economaidd yn cynllunio gweithdy ar y Strategaeth Ddigidol.     Byddai cyfarfod rhithiol ar Parc Adfer yn cael ei gynnal yn y Flwyddyn Newydd. Byddai’r aelodau’n cael gwybod ar ba ddyddiadau fyddai’r digwyddiadau’n cael eu cynnal ar ôl iddynt gael eu cadarnhau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom cadarnhaodd yr Hwylusydd fod eitemau ar y Cynllun Cludiant Integredig a Newid Hinsawdd wedi’u cynnwys yn y Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol er ystyriaeth y Pwyllgor yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorwyr Owen Thomas a George Hardcastle, eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) y byddai diweddariad ar lwybrau seiclo sydd i’w roi gerbron y cyfarfod ar 8 Rhagfyr yn cynnwys yr holl gynigion am lwybrau beicio ar draws y sir ac y byddai ymgynghoriad llawn yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd.  Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas a’r Cynghorydd Chris Bithell y byddent yn rhoi diweddariad i'r Cynghorydd Thomas ar y llwybr beicio o'r Wyddgrug i Rydymwyn ar ôl y cyfarfod.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at waith yn ymwneud â chlefyd Coed Ynn a gofynnod bod cofnod yn cael ei gadw o berchnogion tir er mwyn sicrhau y gellir cysylltu â hwy yn y dyfodol er mwyn sicrhau fod gwaith cynnal a chadw'n cael ei wneud i atal tarfu ar lwybrau cyhoeddus a phriffyrdd. Cydnabu’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y sylwadau a dywedodd y byddai diweddariad ar waith yn ymwneud â chlefyd coed ynn yn cael ei ddarparu mewn cyfarfod o'r Pwyllgor yn y dyfodol. 

 

Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Patrick Heesom ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd George Hardcastle. 

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol; ac

 

(b)       Awdurdodi’r Hwylusydd, ar ôl ymgynghori â Chadeirydd y Pwyllgor, i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen;a

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran cwblhau’r camau gweithredu sydd heb eu cau.

Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones

Dyddiad cyhoeddi: 16/12/2020

Dyddiad y penderfyniad: 10/11/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/11/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Accompanying Documents: