Manylion y penderfyniad

Clwyd Pension Fund Annual Report and Accounts 2019/20

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

Nododd Mr Vaughan y pwyntiau allweddol canlynol ar yr eitem hon ar y rhaglen:

·         Mae perfformiad buddsoddi’r Gronfa yn adfer wrth i’r Gronfa symud drwy 2020/21.

·         Mae’r Gronfa wedi parhau i weithio gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru a byddant yn trosglwyddo asedau ymhellach yn 2021.

·         Diweddarwyd y strategaeth weinyddu i alluogi cyflogwyr ac aelodau i dderbyn gwybodaeth mewn ffordd well.

·         Yn dilyn effaith COVID-19, roedd y Gronfa wedi parhau i ddarparu busnes fel arfer yn llwyddiannus.

 

Nododd Mr Vaughan fod Mr Ferguson wedi arwyddo’r cyfrifon, fel swyddog Adran 151. Mae Pwyslais Mater wedi’i gynnwys yn yr adroddiad, sy’n ymwneud yn benodol ag ansicrwydd ym mhrisiad buddsoddiadau Eiddo Cyfun oherwydd effaith COVID-19. Dogfen arall sydd ei hangen eleni yw’r Llythyr Sylwadau, bydd yn rhaid i’r Pwyllgor gadarnhau i Archwilio Cymru fod yr holl wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn y datganiadau ariannol yn wir, yn gywir ac wedi’i datgan, yn ogystal â llythyr ymateb sy’n ateb rhai cwestiynau mewn perthynas ag ymholiadau archwilio.

 

Cadarnhaodd Mr Monkhouse, ers rhannu’r adroddiad, fod y gwaith maes ar gyfer archwilio’r cyfrifon wedi’i gwblhau. Diolchodd i Mrs Fielder, Mr Vaughan a’r tîm am gynhyrchu’r cyfrifon ac am eu cymorth parhaus i’r archwiliad yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

Mae Archwilio Cymru yn gweithio ar sail cyfyngiadau materoliaeth, gyda’r bwriad o geisio nodi a chywiro camddatganiadau a allai fel arall achosi i ddefnyddiwr y cyfrifon gael eu camarwain. Y cyfyngiad materoliaeth a ddefnyddiwyd ar gyfer yr archwiliad eleni yw tua £17.8 miliwn. Roedd disgwyl i’r archwiliad gael ei gymeradwyo erbyn 13 Hydref a bydd angen llofnodion electronig gan y Pwyllgor.Yn sgil y cyfyngiadau COVID-19, roedd Mr Monkhouse a’r tîm wedi bod yn gweithio o bell ac wedi mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio gyda’i gilydd, megis cyfarfodydd wythnosol, a oedd wedi bod yn llwyddiannus.

 

            Yn Atodiad 3 o’r adroddiad, gwnaethpwyd diwygiad o oddeutu £19.4 miliwn oherwydd fod yr asedau net wedi’u gorddatgan gan y swm hwn.

 

Nododd Mr Everett fod yr Adroddiad Blynyddol yn llawn gwybodaeth ac yn addawol, diolchodd y tîm a’r ymgynghorwyr am eu gwaith ardderchog yn datblygu’r adroddiad yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

 

Diolchodd Mr Ferguson i bawb am eu cyfranogiad a’u cymorth ac argymhellodd y dylid cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Cronfa Bensiynau Clwyd 2019/20

(b)  Bod y Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Archwilio.

(c)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Llythyr Sylwadau.

(d)  Bod y Pwyllgor yn nodi llythyr ymholiadau ac ymatebion Archwilio.

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 13/01/2021

Dyddiad y penderfyniad: 07/10/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 07/10/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: