Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 5)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
This regular monthly report provides the
latest revenue budget monitoring position for 2020/21 for the
Council Fund and Housing Revenue Account. The position is based on
actual income and expenditure as at Month 5, and projects forward
to year-end.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y risgiau a’r materion hysbys ar gyfer 2020/21 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Roedd yr adroddiad yn rhagamcanu beth fyddai sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros heb ei newid. Roedd hefyd yn ystyried y safle ddiweddaraf ar gyhoeddiadau Cyllido Grant Brys Llywodraeth Cymru.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
- Diffyg gweithredol o £0.921 miliwn (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei dalu o gronfeydd wrth gefn)
- Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.418 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
- Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.364 miliwn yn is na’r gyllideb
- Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2021 fydd £2.537 miliwn.
Er mwyn cynorthwyo i liniaru’r gorwariant cyffredinol a ragwelir roedd adolygiad o wariant dianghenraid a phroses rheoli unedau gwag wedi cael ei rhoi ar waith. Roedd hyn wedi arwain at ostyngiad dros dro mewn gwariant o -£0.316 miliwn ym Mis 5, oedd wedi helpu i leihau’r gorwariant cyffredinol. Roedd hyn ychwanegol at y £0.319 miliwn a ganfuwyd ym Mis 4 gyda chyfanswm arbedion hyd yn hyn o £0.635 miliwn.
Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn ar y sefyllfa a ragwelir ym mhob portffolio; amrywiadau sylweddol; risgiau agored; risgiau newydd; cyllid at argyfwng; cyflawni arbedion effeithlonrwydd sydd wedi’u cynllunio yn ystod y flwyddyn; a chronfeydd wrth gefn a balansau.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd ar y Cyfrif Refeniw Tai.
Awdur yr adroddiad: Rachel Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 20/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cabinet
Yn effeithiol o: 29/10/2020
Dogfennau Atodol:
- Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 5) PDF 177 KB
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 5) PDF 39 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 5) PDF 161 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 5) PDF 83 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 5) PDF 45 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 5) PDF 54 KB