Manylion y penderfyniad
Schedule of Remuneration for 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
For Council to approve the schedule of remuneration for elected and co-opted Members for 2020/21 for publication, now all appointments have been made.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd Atodlen o Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2020/21 i’w gymeradwyo cyn ei gyhoeddi.Roedd yr adroddiad yn ceisio awdurdod i ddiweddaru’r Atodlen drwy ychwanegu enwau Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a’r aelod cyfetholedig a enwebwyd gan y Pwyllgor Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar ôl i’r apwyntiadau hynny gael eu cadarnhau.
Fel y cytunwyd yng nghyfarfod diweddaraf Pwyllgor Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, byddai’r Cyngor yn cydymffurfio â Phenderfyniadau 9 a 10 Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol trwy gynnig gliniaduron i Aelodau ynghyd â lwfans band eang neu ddyfais ‘MiFi’.
Cafodd yr argymhellion eu cynnig gan y Cynghorydd Phillips a ddiolchodd i’r Prif Swyddog a Phennaeth y Gwasanaethau Democrataidd.Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Michelle Perfect.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod yr Atodlen o Gydnabyddiaeth Tâl ar gyfer 2020/21 sydd ynghlwm yn yr adroddiad, yn cael ei gymeradwyo i’w gyhoeddi; a
(b) Bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd yn cael ei awdurdod i ychwanegu enwau Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio ar iddynt gael eu penodi a’r aelod cyfetholedig ar Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant ar ôl iddynt gael eu henwebu.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 21/12/2020
Dyddiad y penderfyniad: 20/10/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 20/10/2020 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: