Manylion y penderfyniad

Recovery Strategy

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide oversight on the recovery planning for the Committee’s respective portfolio(s) and to rebuild the forward work programme for the remainder of the 2020/21 Council year with a specific focus on recovery planning.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn. Byddai adborth o bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestri risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi’r Strategaeth Adferiad llawn.

 

Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:

 

·         Argymhellion gan y Cabinet

·         Amcanion y Strategaeth Adferiad

·         Amcanion yr ymateb

·         Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth ymateb

·         Adferiad – trefniadau trosglwyddo

·         Strwythurau adferiad rhanbarthol a lleol

·         Amcanion adferiad - Gwasanaethau

·         Gweithgareddau adferiad

·         Adferiad cymunedol

·         Cynllun a pherfformiad y Cyngor

·         Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd

 

Ymysg y prif gyflawniadau yn ystod y cyfnod ymateb, oedd dosbarthu cyfarpar diogelu personol, diolch i ymdrechion Vanessa Johnson, Steve Featherstone a’u tîm.O ran Adferiad Cymunedol, byddai adroddiadau am waith cydweithredol ar Anghydraddoldeb, Plant a Phobl Ifanc ac Iechyd Meddwl a Lles yn dod nôl i’r Pwyllgor iddynt gael eu hystyried.O ran perfformiad, er na fu hi’n bosibl mabwysiadau Cynllun y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn sgil sefyllfa’r argyfwng, mae gwaith wedi parhau ar y Cynllun treigl er mwyn tynnu’r blaenoriaethau allweddol allan i’w mabwysiadu i gefnogi’r adferiad. Gofynnir i Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ail-lunio eu rhaglenni gwaith i’r dyfodol ar gyfer gweddill blwyddyn 2020/21 gyda ffocws penodol ar gynllunio adferiad i gefnogi ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd am wasanaethau maethu a mabwysiadu, rhoddodd yr Uwch Reolwr:Plant sicrwydd am waith parhaol a buddsoddiad yn y gwasanaethau hynny sy’n ffurfio rhan o fusnes craidd y portffolio.

 

Diolchodd y Cynghorydd Gladys Healey i’r Prif Weithredwr a thîm swyddogion am eu gwaith.Gan ymateb i gwestiwn, rhoddodd swyddogion wybodaeth am barhad gwasanaethau ar gyfer gofalwyr ifanc a’r fenter i ddatblygu cerdyn adnabod ar gyfer mynediad blaenoriaeth i wasanaethau fel rhan o’u rôl.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) gyflwyniad am y gofrestr risg ar gyfer portffolio’r gwasanaeth oedd yn ymdrin â’r canlynol:

 

·         Risgiau Gwasanaethau Cymdeithasol

·         Ariannol

·         Gweithlu

·         Rheoleiddio Allanol

·         Gwasanaethau Oedolion

·         Gwasanaethau Plant

·         Gwasanaethau Oedolion a Phlant

 

Roedd y sefyllfa risg gyffredinol yn bositif gyda gostyngiad yn nifer y risgiau coch ers mis Mehefin a chynnydd yn nifer y risgiau oedd yn gostwng neu wedi dod i ben.Tra bod gwariant ar leoliadau y tu allan i’r sir wedi parhau yn faes blaenoriaeth, mae cydweithio gyda phartneriaid a datblygu datrysiadau amgen wedi helpu i leihau gwariant yn ystod y cyfnod.Cafodd rhai risgiau eu nodi sydd yn allweddol i adferiad, megis bodloni anghenion cleientiaid sydd wedi’u rhyddhau o’r ysbyty oedd yn dangos tueddiad gwell gan fod cleifion sy’n cael eu rhyddhau o’r ysbyty bellach yn cael eu prosesu’n effeithiol gan gydweithwyr ym maes Iechyd.Yng Ngwasanaethau Plant, parhaodd y tîm i weithio gyda’r adran Addysg i gefnogi’r rhai sydd wedi cael eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod oedd yn parhau i fod yn risg coch, serch hynny fe nodwyd y gostyngiad mewn atgyfeiriadau diogelu ar gyfer plant.

 

Fe awgrymodd y Prif Weithredwr fod Aelodau yn ystyried risgiau o bryder parhaus a sut orau i’w hadrodd i’r Pwyllgor er mwyn dylanwadu ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol.

 

Rhoddodd y Prif Swyddog ac Uwch Reolwyr drosolwg o’r blaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adferiad a gafodd eu hargymell i’w cynnwys yn y Strategaeth Adferiad.Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau i ymestyn darpariaeth gofal cartref uniongyrchol a gwella’r cynnig llety i ymadawyr gofal trwy gydweithio gyda chydweithwyr yn yr adran Tai.

 

Gan ymateb i sylw gan y Cynghorydd Hinds, fe soniodd swyddogion am barhad prosiect Mockingbird a menter newydd i adnabod galw am dai yn y dyfodol i gefnogi ymadawyr gofal wrth iddynt drosglwyddo i’r gymuned.

 

Yn unol â chais gan y Cadeirydd, rhoddodd yr Uwch Reolwr: Diogelu a Chomisiynu, ddiweddariad am brofi mewn cartrefi gofal yn Sir y Fflint a’r broses o ganiatáu ymwelwyr gan ddilyn canllawiau cenedlaethol. Dywedodd bod nifer yn mynychu cyfarfodydd aml asiantaeth rheolaidd gyda darparwyr gofal a’u bod yn effeithiol er mwyn rhannu gwybodaeth ac arfer orau.Fe aeth ymlaen i roi manylion am y grwp gorchwyl ar gyfer prosiect gweddnewid i ddatblygu cyfleusterau seibiant mewn cartrefi gofal unigol wrth ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Hinds.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor gefnogi’r argymhellion yn cynnwys y blaenoriaethau adferiad nesaf a nodwyd yn yr adroddiad, ochr yn ochr â chytuno â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru. Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y set llawn o flaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adfer y portffolio fel y nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu nodi, ynghyd â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru ar gyfer y rhai presennol a’r rhai sydd wedi’u cynllunio; a

 

 (b)      Bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn cael ei ail-lunio ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda chynllunio adferiad yn ganolbwynt.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 02/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 22/09/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Accompanying Documents: