Manylion y penderfyniad
Recovery Strategy
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To provide oversight on the recovery planning
for the Committee’s respective portfolio(s) and to rebuild
the forward work programme for the remainder of the 2020/21 Council
year with a specific focus on recovery planning.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i roi trosolwg i’r Pwyllgor o gynllunio adferiad ar gyfer ei feysydd portffolio yn rhan o’r strategaeth er mwyn ailgychwyn y broses lywodraethu ddemocrataidd llawn. Byddai adborth gan bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am y cofrestru risg, y blaenoriaethau adferiad a thargedau dangosydd perfformiad diwygiedig ar gyfer eu meysydd yn cael eu hadrodd i’r Cabinet cyn cyhoeddi’r Strategaeth Adferiad llawn.
Cafwyd cyflwyniad oedd yn dangos y trosglwyddiad o ymateb i adferiad am y pwyntiau canlynol:
· Argymhellion gan y Cabinet
· Amcanion y Strategaeth Adferiad
· Amcanion yr ymateb
· Enghreifftiau o gyflawniadau lleol wrth ymateb
· Adferiad – trefniadau trosglwyddo
· Strwythurau adferiad rhanbarthol a lleol
· Amcanion adferiad - Gwasanaethau
· Gweithgareddau adferiad
· Adferiad cymunedol
· Cynllun a pherfformiad y Cyngor
· Llywodraethu adferiad yn ddemocrataidd
Rhoddodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) a’r Uwch Reolwyr gyflwyniad manwl ar y gofrestr risg ar gyfer y portffolio gwasanaeth oedd yn cynnwys y canlynol:
· Risgiau Asedau a Thai
· Dyrannu Risg
· Tuedd Risg
· Ariannol
· Gweithlu
· Eiddo ac Asedau
· Llywodraethu a’r Gyfraith
· Gwasanaethau Atal Digartrefedd
Fe awgrymodd yr Hwylusydd fod Aelodau yn ystyried risgiau o bryder parhaus a sut orau i’w hadrodd i’r Pwyllgor er mwyn dylanwadu ar y rhaglen gwaith i’r dyfodol. Dywedodd y byddai’n cysylltu â’r Cadeirydd, Prif Swyddog a’r Uwch Dîm Rheoli i gyfrannu at y rhaglen waith i’r dyfodol i’w gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor.
Wrth ymateb i gwestiwn am eiddo gwag fe gynghorodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau fod yna ystod eang o eiddo gwag ar draws y Sir, eiddo 1 a 2 lofft yn bennaf.
Mewn ymateb i gwestiwn am grantiau cyfleusterau i’r anabl fe gynghorodd y Rheolwr Budd-daliadau fod gwaith wedi ail-ddechrau ar brosiectau canolig a mawr. Fe sicrhaodd y Pwyllgor fod yr achosion mwyaf brys wedi parhau yn ystod y sefyllfa o argyfwng ond fe amlinellodd pa mor betrusgar oedd rhai pobl o gael gweithwyr yn gweithio ar eu cartrefi felly roedden nhw’n cydweithio’n agos gyda’r bobl hyn. Hefyd darparodd ddiweddariad ar y gwaith sydd wedi’i wneud â’r Tîm Caffael i sicrhau mwy o ymrwymiad gyda chontractwyr cyn dechrau ar y gwaith ar yr eiddo.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor gefnogi’r argymhellion yn cynnwys y blaenoriaethau adferiad nesaf a nodwyd yn yr adroddiad, ochr yn ochr â chytuno â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru. Cafodd y rhain eu cynnig gan y Cynghorydd Ron Davies a’u heilio gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y gyfres lawn o flaenoriaethau strategol nesaf ar gyfer adfer y portffolio fel y nodwyd yn yr adroddiad yn cael eu nodi, ynghyd â’r dadansoddiad risg a chamau gweithredu lliniaru ar gyfer y rhai presennol a’r rhai sydd wedi’u cynllunio; a
(b) Bod rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor yn cael ei ail-lunio ar gyfer gweddill blwyddyn y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda chynllunio adferiad yn ganolbwynt.
Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton
Dyddiad cyhoeddi: 17/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 25/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 25/09/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymuned, Tai ac Asedau
Accompanying Documents:
- Recovery Strategy PDF 89 KB
- Appendix 1 – Housing & Assets Portfolio - Risk Register - Published 16.09.2020 PDF 134 KB
- Appendix 2 – Housing & Assets Portfolio - Risk Mitigation Actions - Published 16.09.2020 PDF 132 KB
- Appendix 3 – The full set of strategic priorities for recovery recommended for extraction from the draft Council Plan for 2020/21 and inclusion in the Recovery Strategy PDF 93 KB
- Appendix 4 – The full set of revised performance indicator targets for 2020/21 PDF 148 KB