Manylion y penderfyniad

Bus Network Review Update

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide an update on the progress for reintroducing Local Transport Arrangements.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad ac eglurodd nad oedd gan y Cyngor rwymedigaeth i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol nag unrhyw ffurf arall o gludiant cyhoeddus. Fodd bynnag, roedd gan y Cyngor ddyletswydd statudol i adolygu’r rhwydwaith bysus ac ymyrryd pan mae’n teimlo bod hynny’n briodol.

 

Mae wedi bod yn flaenoriaeth gan Gyngor Sir y Fflint i ymdrechu i gynnal gwasanaeth cludiant bysiau cyhoeddus gan fydd effaith eu colli yn effeithio ar y rhai mwyaf diamddiffyn yn y gymdeithas. Ym mis Gorffennaf 2018 cymeradwyodd y Cabinet fodel cludiant newydd ar gyfer gwasanaethau bysiau, a oedd yn cynnwys rhwydwaith bysiau craidd wedi’i gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy. Mae’r rhwydwaith craidd yn cynnwys nifer o gyrchfannau (canolfannau) allweddol, fel prif drefi neu gyfnewidfeydd cludiant cyhoeddus / gorsafoedd rheilffordd â chysylltiad uniongyrchol a rheolaidd gyda gwasanaethau bysiau sy’n rhedeg rhwng y canolfannau i gysylltu teithwyr â chyrchfannau allweddol eraill i gael mynediad at addysg, cyflogaeth, siopau a chyfleusterau iechyd, cymdeithasol a hamdden. Mae’r rhwydwaith craidd yn cynnwys gwasanaethau bysiau masnachol yn bennaf. Fodd bynnag, mae rhywfaint o gefnogaeth yn parhau i gael ei ddarparu i sicrhau bod cysylltiadau yn cael eu cadw a bod gwasanaethau rheolaidd o ansawdd uchel yn parhau i gysylltu’r canolfannau allweddol ar hyd y rhwydwaith. Mae’r rhwydwaith craidd yma yn cael ei gefnogi gan Drefniadau Teithio Lleol cynaliadwy sydd wedi’u cyflwyno’n llwyddiannus mewn sawl ardal yn y sir.

 

Wrth i fwy o wasanaethau masnachol gael eu hatal gan weithredwyr, roedd angen cynnal adolygiad o'r gwasanaethau cludiant lleol presennol er mwyn gallu defnyddio'r gwasanaethau hynny’n well i ddarparu cysylltiadau cludiant hanfodol i breswylwyr wedi'u heffeithio gan golli’r gwasanaethau masnachol hyn.  Mae COVID-19 yn amlwg wedi amharu ar yr adolygiad o’r Trefniadau Teithio Lleol. Ers i’r cyfnod clo ddod i ben, rydym ni wedi gorfod cael llai o deithwyr ar gerbydau a chyhoeddi amserlenni diwygiedig i fodloni gofynion teithwyr, ond mae pethau i’w gweld yn gweithio’n dda. Er ein bod ni yn y cyfnod adfer, mae gweithredwyr wedi adrodd cynnydd yn hyder defnyddwyr cludiant.

 

Roedd adolygiad o’r gwasanaethau Trefniadau Teithio Lleol yn Nhreffynnon a’r cymunedau cyfagos i fod i ddechrau heddiw, gan gynnwys treialu gwasanaeth Trafnidiaeth Seiliedig Ar Alw Fflecsi sydd yn cael ei dreialu hefyd yn Sir Ddinbych ac ardaloedd eraill o Gymru. 

 

            Roedd y Cynghorydd Thomas yn falch o adrodd bod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer dau fws trydan i’w ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau LT7 a LT4. Byddant yn cael eu cadw ym Mwcle a bydd y cerbydau hynny yn cael eu pweru gan ffynhonnell ynni'r haul y Cyngor ei hunain.

 

Mae adolygiad y Cyngor o Drefniadau Teithio Lleol yn parhau i fod yn broses barhaus ac mae cynigion pellach yn cael eu harchwilio ar gyfer y misoedd nesaf. Roedd yn sefyllfa sy’n newid ac yn achosi pryder gan fod mwy o weithredwyr yn cael trafferthion i wneud i deithiau weithio’n fasnachol ac roeddynt yn dod â chontractau i ben.

 

Roedd Llywodraeth Cymru yn edrych i Drafnidiaeth Cymru oruchwylio gwasanaethau bysiau fel un rheol sengl, ac wedi cefnogi gweithredwyr bysiau gyda chynllun argyfwng bysiau, ond nid oedd yn gynaliadwy ac roedd dewis amgen yn cael ei geisio.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod canlyniad yr adolygiad o Drefniadaeth Teithio Leol a oedd wedi bod yn angenrheidiol oherwydd y pandemig yn cael ei gymeradwyo, a bod y golled bellach o wasanaethau bysiau masnachol yn cael ei nodi.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 19/01/2021

Dyddiad y penderfyniad: 22/09/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet

Accompanying Documents: