Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 4)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
This regular monthly report provides the
latest revenue budget monitoring position for 2020/21 for the
Council Fund and Housing Revenue Account. The position is based on
actual income and expenditure as at Month 4, and projects forward
to year-end.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad oedd yn rhoi manylion y risgiau a’r materion hysbys ar gyfer 2020/21 ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai.
Roedd y sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 4 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Roedd y risgiau posibl a phwysau o ran costau yn amrywio rhwng £2.8miliwn a £5.4miliwn (gan eithrio’r effaith o’r dyfarniad cyflog). Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Diffyg gweithredu o £0.983miliwn (gan eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n cael ei fodloni gan gronfeydd wrth gefn)
· Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2021 yn £1.418 miliwn.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelid y byddai gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn £0.295 miliwn yn is na’r gyllideb; a
· Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2021 fydd £2.468.
Darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn o’r sefyllfa ragamcanol gan y portffolio; amrywiaethau sylweddol; risgiau agored; cyllid argyfwng; cyflawniad o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn; a chronfeydd wrth gefn a balansau.
Argymhellwyd trosglwyddiad cyllideb i fynd i’r afael â darparu gwasanaeth o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol, am y swm am £0.300 miliwn i’w drosglwyddo o fewn y gwasanaethau oedolion o’r cyllideb Ardaloedd, o fewn y gwasanaeth Pobl H?n, i’r gwasanaethau Adnoddau a Rheoledig (o fewn y Gwasanaeth Pobl H?n hefyd). Roedd y ddau bennawd cyllideb yn cynnwys darpariaeth o wasanaethau ar gyfer pobl h?n megis gofal preswyl a gofal cartref. Fodd bynnag, roedd un cyllideb ar gyfer y gofal a gomisiynwyd gan ddarparwyr gofal lle’r oedd y gyllideb arall ar gyfer darpariaeth gofal yn uniongyrchol gan y Cyngor. Dros amser roedd darpariaeth mewnol o ofal wedi cynyddu mewn cymhlethdod lle’r oedd gofal a gomisiynwyd wedi lleihau.
Yn ogystal argymhellwyd bod y swm o £0.134M yn cael ei ddyrannu gan y Gronfa Hapddigwyddiad Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer pwysau hysbys yn 2020/21. Bydd y cyllid yn dod â chynhwysedd ychwanegol i drefniadau cefnogaeth busnes a chydymffurfiaeth gyda gofynion diogelu o fewn y Gwasanaethau Plant.
Cafwyd drafodaeth ar ffioedd maes parcio ac eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod Llywodraeth Cymru wedi cynghori lle mae’r Cyngor wedi gwneud penderfyniad i gael gwared ar newidiadau i feysydd parcio, a oedd yn argymhelliad mewn adroddiad i’w ystyried yn y cyfarfod hwn, ni fyddent yn ad-dalu costau o’r Ail Chwarter. Roedd y colled incwm net y maes parcio yn £0.550M. Trafododd yr Aelodau’r ffaith nad oedd y golled oherwydd bod codi ffioedd wedi dod i ben, ond roedd llai o bobl yn ymweld â chanol trefi ar hyn o bryd. Cytunwyd bod yr hawliau am yr Ail Chwarter a’r Drydydd Chwarter yn cael eu ymlid gyda Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer arian at raid Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2021;
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragwelwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai (CRT);
(c) Bydd trosglwyddiad cyllideb o £0.300M rhwng cyllideb Prynu Gwasanaethau Pobl H?n (Ardaloedd) a’r cyllideb darparwyr Gwasanaethau Pobl H?n (Gwasanaethau Rheoledig ac Adnoddau) yn cael eu cymeradwyo;
(d) I gymeradwyo dyraniad o £0.134m o’r Gronfa Arian At Raid ar gyfer ariannu ‘Pwysau Drws Ffrynt’ Gwasanaethau Plant o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol; a
(e) Bod yr hawliadau am golled incwm meysydd parcio ar gyfer yr Ail Chwarter a’r Trydydd Chwarter yn cael ei ymlid gyda Llywodraeth Cymru.
Awdur yr adroddiad: Rachel Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 19/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 22/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/09/2020 - Cabinet
Dogfennau Atodol:
- Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 4) PDF 133 KB
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 4) PDF 159 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 4) PDF 83 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 4) PDF 46 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 4) PDF 64 KB