Manylion y penderfyniad
Schedule of Meetings 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To approve the draft schedule of meetings for 2020/21.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) yr amserlen o gyfarfodydd ar gyfer 2020/21 yn dilyn ymgynghoriad. O ran amserlen 2020/21, dywedodd fod cyfres o gyfarfodydd wedi’u cynnwys ym mis Medi er mwyn i’r holl Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu ystyried y Strategaeth Adfer a byddai’n rhaid cynnal cyfarfodydd arbennig yn yr hydref i ystyried cynigion ar gyfer Cyllideb 2021/22. Tynnodd y Prif Swyddog sylw at gyfarfod y Gr?p Strategaeth Cynllunio ar 17 Medi a dywedodd ei fod wedi cael ei ganslo.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at ymweliadau â safleoedd cynllunio a dywedodd nad oeddent i’w gweld ar yr Amserlen o Gyfarfodydd ar gyfer 2020/21 ac fe awgrymodd y dylid eu cynnwys dros dro nes iddynt ailddechrau. Cytunodd y Prif Weithredwr y dylid ychwanegu dyddiadau dros dro yr ymweliadau â safleoedd cynllunio at yr Amserlen. Esboniodd fod asesiad risg yn cael ei gynnal ar ymweliadau safle ac yn dibynnu ar ganlyniad y gwaith hwnnw roedd yn disgwyl y dylent barhau yn y dyfodol agos lle bo angen. Yn y cyfamser, byddai’r trefniadau presennol yn parhau a byddai adborth ar yr asesiad risg yn cael ei ddarparu i’r Aelodau cyn gynted â phosibl.
Cymeradwyodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Carolyn Thomas.
PENDERFYNWYD:
Cymeradwyo’r amserlen ddrafft o gyfarfodydd ar gyfer 2020/21, yn amodol ar y newidiadau arfaethedig.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 05/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2020 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: