Manylion y penderfyniad
Review of Dispensation Procedures at Anglesey and Gwynedd Councils
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Safonau
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Dirprwy Swyddog Monitro’r adroddiad ac eglurodd nad oedd unrhyw weithdrefnau statudol wedi’u sefydlu ar gyfer ymdrin â cheisiadau am oddefebau a bod pob Pwyllgor Safonau yn gweithredu ei drefniadau ei hun.
Credai Pwyllgor Safonau Cyngor Sir y Fflint y byddai’n fuddiol ymchwilio i’r prosesau hynny a ddefnyddiai Cynghorau eraill yng ngogledd Cymru wrth ymdrin â cheisiadau am oddefebau. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar adolygu’r prosesau a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â goddefebau yng Nghyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd, gan ganolbwyntio ar geisiadau a wnaed yn 2019/20 ynghyd â nifer y ceisiadau yr ymdriniodd pob awdurdod â hwy.
Roedd Cyngor Sir Ynys Môn yn debyg iawn i Gyngor Sir y Fflint, ond roedd ganddo Is-bwyllgor Safonau a ymdriniai â goddefebau. Yng nghyfarfodydd y Pwyllgorau Safonau llawn, cyflwynid adroddiad penodol i egluro unrhyw oddefebau a fu dan ystyriaeth.
Mewn ymateb i gwestiwn gan Julia Hughes yngl?n â sut roedd pob awdurdod yn hyrwyddo’r broses er mwyn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau am oddefebau, dywedodd y Dirprwy Swyddog Monitro bod yr wybodaeth yn yr adroddiad yn deillio o wefannau pob awdurdod. Cafwyd trafodaeth a phenderfynwyd cysylltu ag awdurdodau eraill gan ofyn y cwestiwn penodol hwnnw.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r prosesau a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â cheisiadau am oddefebau gan Gynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref a Chymuned yng Nghynghorau Ynys Môn a Gwynedd, a
(b) Chysylltu ag awdurdodau lleol eraill i gasglu’r un wybodaeth ag Ynys Môn a Gwynedd, gan ofyn yn benodol sut roeddent yn hyrwyddo’r broses er mwyn annog unigolion i gyflwyno ceisiadau am oddefebau.
Awdur yr adroddiad: Tracey Cunnew
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2022
Dyddiad y penderfyniad: 21/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 21/09/2020 - Pwyllgor Safonau
Accompanying Documents: