Manylion y penderfyniad
Capital Programme – Final Outturn 2019/20
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To advise of the Capital Final Outturn position for the financial year 2019/20.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks y Rhaglen Gyfalaf – adroddiad Canlyniad Terfynol 2019/20 oedd yn crynhoi’r sefyllfa derfynol ynghyd â newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf yn ystod y chwarter diwethaf.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld gostyngiad net o £6.348M yn ystod y chwarter diwethaf oedd yn cynnwys:
· Gostyngiad cyllideb net yn y rhaglen o £0.494m - Cronfa Gyngor o £0.948m, Cyfrif Refeniw Tai £0.454 miliwn; a
· Cario Ymlaen i 2020/21 - £4.034miliwn, Grant Cynhaliaeth Ysgol ychwanegol £2.185miliwn wedi’i osod yn erbyn yn rhannol drwy wrthdroad Cario Ymlaen o £0.365miliwn.
Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y gwariant gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn yn £63.014miliwn. Roedd gweddill arian terfynol o 2019/20 – 2021/22 Rhaglen Gyfalaf yn £1.145miliwn.
Cafodd Rhaglen Gyfalaf 2020/21 – 2022/23 ei chymeradwyo ar 28 Ionawr 2020, gyda diffyg mewn cyllid o £2.264miliwn. Byddai’r gweddill fyddai’n cael ei gario ymlaen yn arwain at ddiffyg sefyllfa ariannol agoriadol o £1.119miliwn, cyn gwireddu derbyniadau cyfalaf ychwanegol ac/neu ffynonellau cyllid eraill.
Roedd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn gwneud y sylwadau canlynol:
“Yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn, mae staff y Cyngor i’w llongyfarch am eu cyflawniadau ariannol wrth gadw uwchben heriau COVID-19 na ddisgwyliwyd chwe mis yn ôl.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;
(b) Bod yr addasiadau dwyn ymlaen yn cael eu cymeradwyo; a
(c) Bod ariannu cynlluniau o’r ‘hyblygrwydd’ presennol yn cael ei gymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 26/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2020 - Cabinet
Dogfennau Atodol: