Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring – Final Outturn 2019/20
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To advise of the Revenue Final Outturn position for the financial year 2019/20.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks adroddiad Monitro’r Gyllideb Refeniw – y Sefyllfa Derfynol 2019/20 oedd yn darparu’r sefyllfa ar gyfer Cronfa Gyngor a Chyfrif Refeniw Tai
Bydd y Datganiad o Gyfrifon yn destun archwiliad dros yr haf a bydd y cyfrifon terfynol wedi’u harchwilio’n cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Archwilio ym mis Medi i gael cymeradwyaeth ffurfiol.
Fel yr adroddwyd yn flaenorol, roedd meysydd penodol yn cael eu hadolygu’n dactegol i leihau’r sefyllfa gorwariant ymhellach, gyda chanlyniad y rhai nad ydynt yn gwbl hysbys nes yn hwyr yn rhaglen cau’r cyfrifon. Y prif feysydd oedd yn destun adolygiad oedd sefyllfa derfynol Cynllun Disgownt Person Sengl ac adolygiad parhaus o Fenthyciadau Canolog a Chyfrif Buddsoddiadau cymhleth.
Cyflwynwyd mesurau i adolygu a herio gwariant dianghenraid a recriwtio i swyddi gwag gyda’r nod o leihau gwariant yn y flwyddyn er mwyn lleddfu rhywfaint ar y gorwariant a gafodd ei ddarogan ar y pryd. Mae’r gwaith hwnnw wedi arwain at effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.
Roedd yr ymateb i sefyllfa’r argyfwng gyda Covid-19 yn uniongyrchol ac yn effeithio ar wasanaethau’r Cyngor. Gostyngiadau mewn gwariant rhagamcanol ddim yn ofynnol mwyach yng nghanol Mawrth, gan fod rhai gwasanaethau wedi eu haddasu mewn ymateb, hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar y sefyllfa derfynol.
Ychwanegodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, fel mewn blynyddoedd blaenorol, roedd yna grant hwyr gan Lywodraeth Cymru, y Bwrdd Iechyd a sefydliadau trydydd parti eraill. Roedd y symudiadau cadarnhaol ar gyfer eitemau i’w hadolygu a chyllid grant ychwanegol yn gyfanswm o £1.108miliwn. Roedd effaith cronnus symudiadau eraill yn effaith gadarnhaol pellach o £0.855miliwn ar y sefyllfa derfynol.
Y sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn:
Cronfa’r Cyngor
· Arian dros ben gweithredol o £0.439 miliwn (£1.524 miliwn o ddiffyg ym Mis 11)
· Balans cronfa hapddigwyddiad arfaethedig o £2.370 miliwn ar 31 Mawrth 2020.
Cyfrif Refeniw Tai (CRT)
· Roedd gwariant net yn ystod y flwyddyn £0.686 miliwn yn is na’r gyllideb;
· Roedd balans terfynol heb ei neilltuo o £2.008 miliwn ar 31 Mawrth 2020.
Wrth ystyried sefyllfa derfynol ar ddiwedd y flwyddyn, cydnabuwyd y bu newid sylweddol ers Mis 10. Fodd bynnag, fel cyfran, roedd symudiad cadarnhaol £1.963miliwn o Fis 10 i ddiwedd y flwyddyn ond yn 0.72% o’r Gyllideb Flynyddol o £271.350miliwn.Roedd yna nifer o ffactorau yn dylanwadu ar y symudiad a manylwyd hyn yn yr adroddiad.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr ei bod yn bwysig nodi bod y mwyafrif o’r symudiadau cadarnhaol yn y gyllideb ond yn cynnwys budd unwaith yn unig ac ni fyddai wedi bod yn berthnasol i’r broses gosod cyllideb ar gyfer 2020/21. Pe bai’r symudiadau hyn yn hysbys adeg gosod y gyllideb byddai’r Cyngor wedi’i gynghori i gynyddu’r Arian Wrth Gefn i ddiogelu yn erbyn y peryglon agored sylweddol yr adroddwyd arnynt ar y pryd.
Roedd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yn amlygu rhannau o’r adroddiad: y sefyllfa gyffredinol; symudiadau sylweddol; cyflawni arbedion effeithlonrwydd yn ystod y flwyddyn; cronfeydd a balansau; a chronfeydd a glustnodwyd o gronfa gyngor 2019/20.
Roedd y Cynghorydd Carver, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yn gwneud y sylwadau canlynol:
“Yn ystod y cyfnod anodd a heriol hwn, mae staff y Cyngor i’w llongyfarch am eu cyflawniadau ariannol wrth gadw uwchben heriau COVID-19 na ddisgwyliwyd chwe mis yn ôl.
Fodd bynnag, rwy’n bryderus bod Amrywiant Blynyddol ar gyfer Cludiant yn 11.35% o’r Gyllideb Gymeradwy.
Mewn perthynas â Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, mae fy marn yn parhau fel yr awgrymais yn flaenorol, y dylai costau ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, sydd mor anrhagweladwy, gael eu gwasanaethu o gyllideb ganolog Llywodraeth Cymru, yn hytrach nag o adnoddau’r Cyngor. Byddai hynny wrth gwrs angen newid polisi/deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn oedd yng Nghronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020; a
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau ar y Cyfrif Refeniw Tai ar 31 Mawrth 2020.
Awdur yr adroddiad: Dave Ledsham
Dyddiad cyhoeddi: 26/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2020 - Cabinet
Dogfennau Atodol:
- Revenue Budget Monitoring – Final Outturn 2019/20 PDF 154 KB
- Enc. 1 for Revenue Budget Monitoring – Final Outturn 2019/20 PDF 50 KB
- Enc. 2 for Revenue Budget Monitoring – Final Outturn 2019/20 PDF 174 KB
- Enc. 3 for Revenue Budget Monitoring – Final Outturn 2019/20 PDF 104 KB
- Enc. 4 for Revenue Budget Monitoring – Final Outturn 2019/20 PDF 47 KB
- Enc. 5 for Revenue Budget Monitoring – Final Outturn 2019/20 PDF 216 KB
- Enc. 6 for Revenue Budget Monitoring – Final Outturn 2019/20 PDF 123 KB