Manylion y penderfyniad

School Modernisation – 21st Century Schools Capital Programme

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To update members on the School Modernisation Programme.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts adroddiad diweddaru ar brosiectau o fewn Band B Rhaglen Gyfalaf Ysgolion yr 21ain Ganrif fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn ysgolion i wella'r amgylchedd dysgu i ddisgyblion yn Sir y Fflint.

 

Wrth symud yr argymhellion, esboniodd y Cynghorydd Roberts fod y prosiectau ar gyfer datblygu adeilad newydd ar gyfer Ysgol Croes Atti yn y Fflint a strategaeth ymgynghori ar gyfer model diwygiedig o addysg gynradd ac uwchradd yn ardal Saltney/Brychdyn. Ceisiwyd cymeradwyaeth hefyd i ymgysylltu â phartner strategol Llywodraeth Cymru (LlC) ar gyfer prosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol a enwebwyd gan y Cyngor i gydleoli darpariaeth gynradd ac uwchradd yn Mynydd Isa.  Nodwyd y prosiect hwn fel yr un mwyaf addas ar gyfer prosiect braenaru LlC a fyddai'n elwa o well cyfraddau ymyrraeth Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Roberts na fyddai unrhyw ymgynghoriad yn digwydd yn ystod y cyfnod hwn oherwydd y cyfyngiadau sydd ar waith.

 

Eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Thomas a chroesawodd y camau a gymerwyd gan y Cyngor i wella adeiladau ysgolion, a fyddai hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar allyriadau carbon.

 

Croesawodd y Cynghorydd Banks y cynnig ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg gyntaf mewn adeilad newydd yn Sir y Fflint, a manteisiodd ar y cyfle i dalu teyrnged i LlC am weithio gyda'r Cyngor ar foderneiddio ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Mynd ymlaen ag ymgynghoriad statudol trwy'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, ar gyfer adleoli Ysgol Croes Atti, y Fflint i safle newydd ar ddatblygiad tai Croes Atti;

 

 (b)      Bod prosiect Model Buddsoddi Cydfuddiannol a enwebwyd gan y Cyngor fel y prosiect arfaethedig ar gyfer ardal Mynydd Isa yn cael ei ddiwygio a thrwy wneud hynny caniatáu i swyddogion ymgysylltu â Phartner Strategol LlC ar gyfer Model Buddsoddi Cydfuddiannol, pan fyddant ar gael yn nhymor yr Hydref 2020;

 

 (c)      Ymgynghori trwy'r cod Trefniadaeth Ysgolion ar y cynnig i gyfuno darpariaeth ysgolion cynradd a gynhelir gan awdurdodau lleol yn ardal Saltney - Ysgol Gynradd Saltney Ferry ac Ysgol Gynradd Goffa Saltney Wood; ac

 

 (d)      Ymgynghori'n anffurfiol â budd-ddeiliaid allweddol yn Saltney a Brychdyn mewn perthynas â datblygu cynnig newydd o addysg uwchradd sy'n fodern, o ansawdd uchel ac sy'n denu disgyblion lleol o bob rhan o'r ardal leol, ac sy'n gynaliadwy.

Awdur yr adroddiad: Damian Hughes

Dyddiad cyhoeddi: 12/08/2020

Dyddiad y penderfyniad: 17/03/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/03/2020 - Cabinet

Yn effeithiol o: 26/03/2020

Dogfennau Atodol: