Manylion y penderfyniad

Flintshire Local Development Plan - Update on Progress and Position with the Plan's Timetable

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To provide an overview of the main issues raised by respondents to the recent public consultation exercise relating to the Flintshire Deposit LDP, and to agree the Councils’ response.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell Gynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint – Y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd a’r sefyllfa gydag adroddiad Amserlen y Cynllun.

 

            Roedd gwaith ar Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) y Cyngor wedi’i arwain gan Gytundeb Darparu oedd yn rhaid i Weinidog perthnasol o Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo. Rhan o’r cytundeb hwnnw oedd amserlen oedd yn ymrwymo’r Cyngor i gyrraedd cerrig milltir allweddol wrth baratoi cynllun erbyn dyddiadau penodol. 

 

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ddaeth i ben ym mis Tachwedd, roedd y Cynllun wedi aros ‘ar y trywydd iawn’. Fodd bynnag, roedd sefyllfa’r argyfwng presennol a diffyg mynediad i’r cyhoedd i adeiladau cyhoeddus allweddol fel swyddfeydd y Cyngor, Canolfannau Cyswllt a llyfrgelloedd yn atal rhestr lawn o’r holl sylwadau a dderbyniwyd rhag bod ar gael i’w harchwilio gan y cyhoedd, fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Yn ogystal, anallu’r Cyngor i gyfarfod i gytuno ar yr ymatebion a chyflwyno’r Cynllun i’w archwilio wedi golygu bod angen adolygu amserlen y Cynllun a chynnig newidiadau.

 

Roedd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) wedi egluro bod yr adroddiad wedi amlygu’r cynnydd da a wnaed gyda’r Cynllun; y rhesymau am yr angen i adolygu’r amserlen; sut y trafodwyd hynny gyda Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio; a’r oblygiadau o ran amserlen ddiwygiedig ar gyfer y cynllun, gan gynnwys ystyriaeth a phenderfyniadau’r Cyngor angen eu cymryd a phryd. Roedd prif bwyntiau oedd yn codi o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Ni fyddai’n ymarferol cyhoeddi sylwadau tan fis Gorffennaf ar y cynharaf. Byddai hyn yn golygu cyfarfod o’r Cyngor Sir ym mis Medi ac roedd dyddiad dros dro sef 29ain wedi’i drefnu. Byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno ar gyfer ei archwilio felly yn mis Hydref ac yn cynnwys penodiad ffurfiol Arolygydd a pharatoi ar gyfer Archwiliad ar ddiwedd Ionawr 2021.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Thomas ar lyfrgelloedd a sylwadau ar gael i’r cyhoedd, eglurodd y Prif Weithredwr na fu cytundeb cenedlaethol i lyfrgelloedd agor.  Ychwanegodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi gwahodd y Cyngor i ddatblygu strategaeth ar gyfer sylwadau i fod ar gael, gyda’r wefan yn rhan o hynny. 

 

Roedd y Cynghorydd Heesom, fel Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd wedi mynegi barn ar effaith llifogydd a pherygl llifogydd. Dywedodd y Prif Swyddog bod yr adroddiad gerbron Aelodau’r Cabinet yngl?n â newidiadau i’r dyddiadau darparu, nid i edrych ar fanylder y CDLl.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Cabinet yn nodi cynnydd cadarnhaol parhaus a wneir gyda’r Cynllun Datblygu Lleol; a

 

(b)      Bod yr amserlen ddiwygiedig a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad ar gyfer y camau allweddol sy’n weddill cyn cymeradwyo’r cynllun, a chais ffurfiol i Lywodraeth Cymru i gytuno ar adolygu’r amserlen i gytuno ar gyflawni’r Cynllun Datblygu Lleol.

Awdur yr adroddiad: Andy Roberts

Dyddiad cyhoeddi: 26/08/2020

Dyddiad y penderfyniad: 16/06/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/06/2020 - Cabinet

Dogfennau Atodol: