Manylion y penderfyniad
External Regulation Assurance
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Archwilio
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To endorse the summary of all external regulatory reports received during 2018/19 along with the Council’s responses.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad cryno i roi sicrwydd bod yr adroddiadau gan reoleiddwyr ac arolygwyr allanol yn 2018/19 wedi cael eu hystyried yn unol â’r protocol adrodd mewnol cytunedig, a bod y camau gweithredu wedi eu cyflawni mewn ymateb i’r argymhellion. Roedd yr adroddiad wedi cael ei ddal yn ôl ers dechrau’r sefyllfa argyfwng.
Roedd gwybodaeth ar adroddiadau a gyflwynwyd gan Archwilio Cymru (Swyddfa Archwilio Cymru gynt) yn ystod y cyfnod yn dangos bod y camau gweithredu un ai’n wyrdd (ar y trywydd iawn/wedi’u cwblhau) neu’n oren (ar y trywydd iawn ond o fewn y cyfyngiadau derbyniol, yn hirdymor) heb unrhyw faterion neu risgiau sylweddol wedi’u canfod.
Gofynnodd Sally Ellis am gynnydd monitro camau gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion yn benodol ar ddefnydd Llywodraeth Leol o adroddiad lleol data. Dywedodd y Prif Weithredwr bod y rhain yn ffurfio rhan o gynllunio busnes, megis datblygu Strategaeth Adferiad. Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) esiamplau ar reoli data mewn perthynas â’r Strategaeth Rheoli Gwybodaeth, Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol a’r Strategaeth Ddigidol. Rhoddwyd esiamplau eraill ar y defnydd o ddata i wella gwasanaethau ar gyfer unigolion oedd yn ‘gwarchod eu hunain’ yn ystod y pandemig ac i dargedu pobl ifanc oedd yn gymwys i bleidleisio yn yr Etholiadau nesaf.
Roedd y pwyllgor yn cefnogi’r argymhelliad yn yr adroddiad.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd dros ymateb y Cyngor i ddarnau o waith rheoleiddio allanol.
Awdur yr adroddiad: Jay Davies
Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2020
Dyddiad y penderfyniad: 09/09/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 09/09/2020 - Pwyllgor Archwilio
Dogfennau Atodol: