Manylion y penderfyniad

Actuarial Valuation Update and Funding Strategy Statement.

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Penderfyniadau:

            Nododd Mr Middleman bod y Datganiad Strategaeth Gyllido drafft wedi cael ei drafod yn y cyfarfod ym mis Medi ac aeth yr ymgynghoriad gyda chyflogwyr rhagddo ym mis Tachwedd (gan gynnwys y Cyd-Gyfarfod Ymgynghorol Blynyddol a chyfarfodydd gyda chyflogwyr unigol) a gwahoddwyd sylwadau.Nid oes unrhyw newidiadau materol i’r drafft ond mae rhai mân newidiadau o ganlyniad i drafodaethau gyda chyflogwyr ac hefyd oherwydd diffyg cynnydd ar faterion cenedlaethol penodol a newidiadau strwythurol.

 

            Rhoddodd Mr Middleman y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar sefyllfa’r ymgynghoriadau ar y gylchred prisiad 4 mlynedd a Bargen Deg a oedd i fod i gyflwyno statws gwarchodedig i aelodau a’r llwybr Cyflogwr Tybiedig.Ni dderbyniwyd unrhyw ymateb i’r ymgynghoriad prisiad 4 mlynedd ac nid yw’r ymgynghoriad Bargen Deg wedi symud ymlaen.Ni ragwelir y bydd y naill na’r llall yn symud ymlaen cyn y bydd angen arwyddo’r Datganiad Strategaeth Gyllido, felly mae’r geiriad cysylltiedig wedi cael ei dynnu o’r Datganiad Strategaeth Gyllido.Bydd y rhain yn cael eu cynnwys eto yn ôl yr angen a’i ddychwelyd i’r Pwyllgor unwaith y bydd diweddariad gan yr ymgynghoriadau.

 

             Gwnaeth Mr Middleman y pwyntiau allweddol canlynol;

-       Pan mae Mercer yn gosod rhagdybiaethau, yn arbennig o ran chwyddiant, mae Mercer yn edrych ar yr amcangyfrif gorau o RPI o elw’r farchnad ar Fondiau Llywodraeth. Yna mae Mercer yn amcangyfrifo chwyddiant CPI (y cynnydd a roddir ar ddyledion) trwy dynnu 1% y flwyddyn o’r RPI (h.y. bwlch RPI-CPI o 1% y flwyddyn).

-       Yn dilyn y newid arfaethedig i RPI i fod yn debycach i’r CPIH yng nghyhoeddiad mis Medi 2019, roedd chwyddiant RPI wedi newid.Er nad yw hyn yn effeithio ar y rhagdybiaethau ar y dyddiad prisio (31 Mawrth 2019), mae’n bwysig bod y Gronfa yn cydnabod y diweddariad hwn yn y Datganiad Strategaeth Gyllido.Pe na byddai cydnabyddiaeth i hyn, gallai arwain at ddefnyddio rhagdybiaeth ar gyfer CPI (yn seiliedig ar y bwlch RPI / CPI presennol) sy’n rhy isel ac felly’n tanbrisio atebolrwyddau mewn cyfrifon yn y dyfodol.  Nodwyd y byddai hyn yn cael ei drafod mewn mwy o fanylder yn yr eitem nesaf ond y cynnig yw lleihau’r bwlch CPI i RPI i 0.7% y flwyddyn i wneud iawn am hyn. Disgwylir i’r ymgynghoriad ar y newid fod yn rhan o’r Gyllideb ar 11 Mawrth 2020 a bydd y sefyllfa’n cael ei gadw dan adolygiad.

-       Roedd y lefel cyllido cyffredinol yn 91% ar y dyddiad prisio, gyda diffyg ariannol o £175 miliwn.

-       Roedd costau buddion parhaus o ganlyniad i’r prisiad yn 17.3% o dâl pensiynadwy.

-       Bydd cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr yn cael ei weithredu ar y sail hon o 1 Ebrill 2020.

           

            Ar dudalen 25, gofynnodd y Cadeirydd pam fod y cyfnod adfer diffyg cyfartalog wedi cynyddu o 12 mlynedd yn y Datganiad Strategaeth Gyllido i 13 mlynedd.Nododd Mr Middleman mai cyfartaledd oedd hwn a bod gan gyflogwyr gwahanol (gan gynnwys y Cynghorau) gyfnodau gwahanol sy’n briodol i’w hamgylchiadau a bod y mwyafrif wedi lleihau 3 mlynedd ond roedd 2 Gyngor Unedol wedi lleihau 2 flynedd. Nodwyd hefyd mai’r cyfres cyffredinol o baramedrau sy’n cyfrif h.y. mae rhagdybiaethau eraill megis cyfradd gostyngiad yn gallu bod yn bwysicach.Yn ogystal â hynny, cafwyd trafodaethau dwys mewn perthynas â hyn, fforddiadwyedd y cyfraniadau yn gyffredinol gan gynnwys lwfans a gyfer costau McCloud.Rhaid cael cydbwysedd cytunedig wrth osod cynllun ariannu oherwydd bod angen iddo fod yn deg i holl drethdalwyr (cenedlaethau’r dyfodol a phresennol) a gan fod y cyfnod adfer ar gyfer y Gronfa yn eithaf byr, roedd Mr Middleman yn gyfforddus ar y cyfan bod hwn yn sefyllfa deg.Ychwanegodd Mr Everett y penderfynwyd ymestyn cyfnod adfer Cyngor Sir y Fflint o flwyddyn er mwyn helpu i gydbwyso’r cyllidebau, a credai bod hyn yn gam rhesymol a gytunwyd gyda’r Actiwari ar ôl cyfnod o drafodaethau gwybodus.

 

            O ran dyfarniad McCloud, nododd Mr Middleman bod rhan allweddol o osod y strategaeth yn edrych ar ganiatáu costau posibl dyfarniad McCloud yn y cyfraniadau a dalwyd i’r Gronfa a’i peidio.Gan fod y cyflogwyr wedi penderfynu ei gynnwys yn uniongyrchol (yn hytrach na’i ystyried fel risg i’r gyllideb yn y dyfodol) roedd hyn yn rhoi mwy o goel i’r casgliad bod y cyfnod adfer yn deg.

 

            Holodd Mrs McWilliam pam nad oedd y cysylltiad rhwng RPI a CPI wedi cael ei restru fel un o’r risgiau i’r Datganiad Strategaeth Fuddsoddi. Dywedodd Mr Middleman ei fod yn newid strwythurol ond heb wahaniaeth gwirioneddol o unrhyw newid arall i chwyddiant (oedd wedi cael eu cynnwys). Nid yw Mercer yn gwybod sut fydd hyn yn cael ei amlygu eto, ac er nad oes dim drwg i’w gynnwys yn y Datganiad Strategaeth Fuddsoddi nid ydynt yn credu bod angen ei gynnwys ar y pwynt hwn.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r gweithgarwch ers cyfarfod ac ymgynghoriad mis Medi 2019.

(b)  Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r Datganiad Strategaeth Cyllido Terfynol.

 

 

Awdur yr adroddiad: Janet Kelly

Dyddiad cyhoeddi: 23/11/2020

Dyddiad y penderfyniad: 11/02/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/02/2020 - Pwyllgor Cronfa Bensiwn Clwyd

Accompanying Documents: