Manylion y penderfyniad

Council Fund Revenue Budget 2020/21 Stage Three - Setting a Legal and Balanced Budget

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To set a legal and balanced budget for 2020/21 on the recommendation of Cabinet.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i dderbyn argymhellion gan y Cabinet i’r Cyngor i osod Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2020/21. Cyfeiriodd at Ddatganiad y Gyllideb a roddwyd i Aelodau oedd wedi cael ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd yn syth cyn cyfarfod y Cyngor, ac fe soniodd am argymhellion y Cabinet i gydbwyso’r gyllideb ar gyfer 2020/21. 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw gyflwyniad ar y cyd oedd yn trafod y materion allweddol canlynol: 

 

  • gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys
  • diweddariad am ragolwg ariannol ar gyfer 2020/21
  • Datrysiadau cyllideb 2020/21
  • cronfeydd wrth gefn (heb eu clustnodi/wedi eu clustnodi)
  • cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol
  • risgiau agored
  • Treth y Cyngor
  • barn broffesiynol a sylwadau i gloi
  • edrych ymlaen a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Prif Weithredwr a’r Swyddogion am eu cyflwyniad a’r gwaith i osod cyllideb gytbwys. Diolchodd hefyd i Aelodau am ymgysylltu a chydweithio fel Cyngor unedig trwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ofyn bod Llywodraeth Cymru yn ceisio datrysiadau i’r ansicrwydd am gyllid ar gyfer Llywodraeth Leol a phwysleisiodd yr angen am sefydlogrwydd.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at y tywydd gwael diweddar ac fe achubodd ar y cyfle i ddiolch i’r Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) a’r tîm gwasanaethau Strydwedd am eu gwaith paratoi a’u hymroddiad i ddelio ag unrhyw faterion brys.  Gan gyfeirio at osod Treth y Cyngor, fe soniodd am y 0.25% cynnydd yn ardoll Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, ac fe soniodd am yr amrywiaeth o wasanaethau oedd yn cael eu darparu, dywedodd fod gan y Cyngor ddyletswydd i sicrhau gwytnwch. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at yr arbedion roedd Cronfa Bensiynau Clwyd wedi’i gyflawni trwy ostwng cyfraniadau cyflogwr (Adolygiad Tair Blynedd) ar gyfer Sir y Fflint ac ailgyfrifo sefyllfa yn ystod y flwyddyn ar gyfraniadau pensiwn blynyddol cyflogwr, a diolchodd i bawb oedd yn rhan o hynny. 

 

Wrth symud argymhellion 1 i 8 y Cabinet i’r Cyngor fel y manylir yn adroddiad y Cabinet oedd yn atodiad i’r adroddiad, fe dynnodd y Cynghorydd Ian Roberts sylw at argymhelliad 8: “Mae’r Cabinet yn galw ar y ddwy Lywodraeth i ymrwymo i gynllunio cyllideb tymor canolig o dair blynedd gyda setliadau llywodraeth leol yng Nghymru ar lefel isafswm o 4% ym mhob un o’r blynyddoedd hynny, a bod dyfarniadau tâl cenedlaethol a diwygiadau a diwygiadau pensiwn ac adbrisiad i’r cyllid yn llawn ar lefel genedlaethol yn y tarddiad”.  

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Cyngor yn ystyriol o’r effaith uniongyrchol roedd Treth y Cyngor yn ei gael ar bobl ac roedd yn falch mai’r Treth y Cyngor roedd y Cabinet yn ei argymell oedd 4.5%.   Er y byddai hyn yn cynyddu i 4.75% pan fyddai’r ardoll ar gyfer Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei ychwanegu, dywedodd y byddai dal i fod yn is nag ymrwymiad y Cyngor i gapio cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor i 5.0%. Dywedodd y Cynghorydd Roberts mai’r cynnydd cyfartalog yn Nhreth y Cyngor ar gyfer aelwyd Band D – unwaith i braesept yr Heddlu a phraesept Cynghorau Cymuned a Thref gael eu cynnwys – fyddai 4.68%. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Roberts bod Treth y Cyngor yn dod yn anghynaladwy yn y tymor canolig a’r hir dymor ac ni ddylai Llywodraethau ddibynnu arni i wneud iawn am setliadau cyllid cenedlaethol annigonol.  Cyfeiriodd at y Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd David Healey mewn cyfarfod blaenorol o’r Cyngor oedd yn galw am ddiwygio system Treth y Cyngor.  Wrth gloi, diolchodd y Cynghorydd Roberts unwaith eto i Swyddogion ac Aelodau am gydweithio i ddod â’r Setliad ymlaen.

 

Fe eiliodd y Cynghordd Mike Peers y cynnig i dderbyn argymhellion 1 i 8 yn adroddiad y Cabinet. Siaradodd i gefnogi’r gwaith caled oedd wedi cael ei wneud er mwyn gosod cyllideb gytbwys ar gyfer 2020/21 a dywedodd fod angen parhau i adolygu gwariant yn y flwyddyn ariannol bresennol tra’n ystyried y risgiau ac ansawdd y gwasanaethau roedd y Cyngor yn eu darparu. Fe aeth y Cynghordd Peers yn ei flaen i ddweud fod angen sicrhau fod LlC yn darparu cyllid digonol i’r Cyngor ac yn ariannu dyfarniadau tâl y sector gyhoeddus yn llawn. Fe soniodd am yr amser a’r ymdrech y mae’n ei gymryd flwyddyn ar ôl blwyddyn i chwilio am arbedion effeithlonrwydd i gau’r ‘bwlch’ yn y gyllideb yn sgil ariannu annigonol gan Lywodraethau.

 

Gan siarad i gefnogi argymhellion 1 i 8, dywedodd y Cynghorydd Tony Sharps fod Sir y Fflint a phob cyngor arall yng Nghymru angen sicrwydd am gyllidebau yn y dyfodol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.  Dywedodd fod yna angen i adolygu pwrpas LlC a’r ffordd y mae llywodraethau lleol yn cael eu hariannu. 

 

Fe soniodd y Cynghorydd Richard Jones am y byrdwn annerbyniol y mae cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn ei roi ar breswylwyr lleol. Dywedodd fod LlC yn symud y cyfrifoldeb dros ariannu llywodraeth leol ar Dreth y Cyngor lleol a chyfeiriodd at ddata a ffigurau er mwyn egluro’r newid o gyllid LlC trwy drethiant i drethiant cyngor lleol. 

 

Talodd y Cynghorydd Billy Mullin deyrnged i Swyddogion a Rheolwyr Buddsoddi Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd am y sefyllfa well yn gyffredinol yn dilyn yr adolygiad tair blynedd, a dywedodd fod y gostyngiad o 4% yng nghyfraniadau cyflogwr yn gyfartal â gostyngiad o £2.646 miliwn o gyfraniadau i’r Cyngor oedd wedi cael eu defnyddio tuag at gau’r bwlch yn y gyllideb. Dywedodd y Cynghorydd Mullin fod hyn hefyd yn sicrhau aelodaeth Cronfa Bensiynau Clwyd o dan Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

Siaradodd y Cynghorydd Kevin Hughes i gefnogi’r gyllideb ac fe anogodd Arweinydd y Cyngor, y Prif Weithredwr ac Arweinwyr Grwpiau i barhau i lobïo LlC er mwyn sicrhau setliad gwell i Gymru. 

 

Cefnogodd y Cynghorydd Heesom yr argymhellion. Mynegodd bryderon yngl?n â lefel y diffyg yng nghyllidebau ysgolion uwchradd ac fe awgrymodd y dylai hyn gael ei drafod mewn gweithdy. Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod rhaglen dreigl o gyfarfodydd yn cael eu cynnal gydag ysgolion uwchradd oedd mewn safle diffyg trwyddedig ac fe fyddai yna ddealltwriaeth fwy clir yn y misoedd nesaf am y cam gweithredu i’w gymryd ar gyfer y flwyddyn nesaf.  Roedd y Cynnghorydd Ian Roberts yn cydnabod y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Heesom yngl?n â chyllid ysgolion, a rhoddodd sicrwydd y byddai’r mater yn cael sylw wrth i bolisïau gael eu datblygu ymhellach ar gyfer ysgolion.

 

Fe ailadroddodd y Cynghorydd Derek Butler y farn a fynegwyd gan Aelodau yngl?n â’r byrdwn roedd cynydd yn Nhreth y Cyngor yn ei gael ar breswylwyr lleol, anghydraddoldeb y system dreth leol bresennol, yr angen am ddyfarniadau tâl i gael eu hariannu’n llawn gan lywodraeth genedlaethol a’r angen am ragolygon tair blynedd o gynlluniau gwariant cyhoeddus.

 

Fe dynnodd y Cynghorydd Paul Shotton sylw at gyflawniadau parhaus y Cyngor, a chyfeiriodd at welliannau yn narpariaeth cartrefi gofal, gwasanaethau cymdeithasol, tai cyngor newydd, rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a’r cyfleuster digartref yng Nglan yr Afon yn Queensferry.  Dywedodd fod yna angen am adolygiad sylfaenol o fformiwla gyllido llywodraeth leol ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol.

 

Cefnogodd y Cynghorydd David Healey y cynnig a chefnogodd Swyddogion am lwyddo i osod cyllideb gytbwys yn erbyn yr heriau ariannol mwyaf difrifol mewn degawd. Fe soniodd am farn Swyddfa Archwilio Cymru sef ‘Mae’r Cyngor yn cymryd agwedd risg uchel at ei strategaeth ariannol, ac nid yw’n fodlon cyfaddawdu ar amrywiaeth, ansawdd na diogelwch gwasanaethau’.  Canmolodd y Cynghorydd Healey waith y gweithgor trawsbleidiol yn lobïo am setliad gwell. O ran Treth y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Healey fod yna deimlad cyffredinol ymysg preswylwyr lleol nad yw’r system bresennol yn deg gan nad yw’n gysylltiedig â’r incwm ym mhob alewydd Fe awgrymodd y dylai LlC ystyried dewis radical i’r system dreth y cyngor presennol, er mwyn gallu gweithredu proses wahanol yng Nghymru.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Ian Dunbar at y tâl o 0.25% ar Dreth y Cyngor yn Sir y Fflint ar gyfer Awdurodd Tân ac Achub Gogledd Cymru, a gofynnodd a oedd yr un ardoll yn cael ei godi ar awdurdodau lleol eraill yng Nghymru.  Fe eglurodd y Prif Weithredwr fod yr ardoll blynyddol yn cael ei osod gan Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru a’i fod yn gymesur â’r boblogaeth ar draws y rhanbarth.  Fe gadarnhaodd y byddai awdurdodau eraill yn gosod eu cynnydd hefyd.    

 

Siaradodd y Cynghorydd Glyn Banks am bwysigrwydd amddiffyn gwasanaethau rheng flaen a llwyddo i osod cyllideb gytbwys. Fe soniodd am yr angen i barhau â chyllid ‘gwaelodol’ ar yr egwyddor a chynsail ac wedi’i ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â swm y setliad. Fe awgrymwyd gosod y cyllid gwaelodol ar 4%.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts for yr argymhelliad pellach canlynol yn cael ei ychwanegu at yr argymhellion roedd y Cabinet wedi’u gwneud i’r Cyngor:‘Bod y Cyngor yn gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru i osod cyllid gwaelodol ar 4.0% fel rhan o Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2020/21. Caiff cyllid gwaelodol ei gyfiawnhau gan gynsail ac angen. Nid oedd modd cyfiawnhau’r amrywiad yn y cynydd blynyddol o fewn y Setliad o 3.0% i 5.4% ar draws Cymru ac roedd Sir y Fflint yn cael ei gosbi gan y fformiwla ariannu eto’. Dywedodd y Cynghorydd Roberts y  byddai hyn yn rhoi adnoddau ychwanegol i’r Cyngor a fyddai’n cael eu rhoi i falansau.

 

Cafodd yr argymhellion canlynol eu cynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’u heilio gan y Cynghorydd Mike Peers. 

 

(1)       Bod y Cyngor yn nodi a derbyn y rhagolygon cyllideb diwygiedig ar gyfer 2020/21 (mae’r rhagolygon yn nodi gofyniad y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol a’r bwlch yn y gyllideb sydd i’w gau yng ngham tri);

 

(2)       Bod y Cyngor yn nodi bod (1) y rhagolygon diwygiedig yn seiliedig ar strategaeth rheoli risg a (2) bod y ‘risgiau agored’ sy’n weddill yn cael eu rheoli yn ystod 2020/21;

 

(3)       Bod y Cyngor yn nodi’r dadansoddiad o’r Setliad Cyllideb Llywodraeth Leol Dros Dro, a chyfraniad y bydd y cyllid cenedlaethol ychwanegol yn ei wneud i gau’r bwlch yn y gyllideb;

 

(4)       Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r cynigion ar opsiynau cyllido corfforaethol er mwyn cyfrannu at gau’r bwlch gweddillol yn y gyllideb;

 

(5)       Bod y Cyngor yn cymeradwyo’r gyllideb gyfreithiol a chytbwys yn seiliedig ar y cyfrifiadau o fewn yr adroddiad gan gymryd i ystyriaeth (1) cyfraniad y gallai’r cyllid cenedlaethol ychwanegol ei gael a (2) y cynigion o’r gwaith a gwblhawyd ar ddewisiadau ariannu corfforaethol

 

(6)       Bod y Cyngor yn argymell y lefel o Dreth y Cyngor ar gyfer 2020/21 yn 5% neu is.

 

(7)       Bod y Cyngor yn nodi’r rhagolygon tymor canolig fel sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

(8)       Bod y Cyngor yn galw ar y ddwy lywodraeth i ymrwymo i gynllunio cyllideb tymor canolig o dair blynedd gyda setliadau llywodraeth leol yng Nghymru ar lefel isafswm o 4% ym mhob un o’r blynyddoedd hynny, ac ar gyfer dyfarniadau tâl cenedlaethol a diwygiadau a diwygiadau pensiynau ac adbrisiadau i gael eu hariannu’n llawn ar lefel genedlaethol yn y tarddiad.

 

(9)       Bod y Cyngor yn gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru i osod cyllid gwaelodol ar 4.0% fel rhan o Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2020/21. Caiff cyllid gwaelodol ei gyfiawnhau gan gynsail ac angen.  Nid oedd modd cyfiawnhau’r amrywiad yn y cynydd blynyddol o fewn y Setliad o 3.0% i 5.4% ar draws Cymru ac roedd Sir y Fflint yn cael ei gosbi gan y fformiwla ariannu eto.

 

Ar ôl pleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo argymhellion y Cabinet, fel y manylir uchod ar gyfer cyllideb gytbwys ar gyfer 2020/21; a

 

 (b)      Bod lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2020/21 fel yr argymhellir gan y Cabinet yn cael ei gymeradwyo.

 

Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson

Dyddiad cyhoeddi: 05/01/2021

Dyddiad y penderfyniad: 18/02/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/02/2020 - Cyngor Sir y Fflint

Accompanying Documents: