Manylion y penderfyniad
Minimum Revenue Provision Policy 2020/21
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To approve the policy on Minimum Revenue Provision
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth i osod polisi blynyddol y Cyngor ar osod Isafswm Darpariaeth Refeniw er mwyn ad-dalu’r ddyled ar gyfer blwyddyn ariannol 2020/21. Darparodd wybodaeth gefndir a dywedodd fel rhan o’i strategaeth y gyllideb, fod y Cyngor wedi cynnal adolygiad manwl o’i bolisi Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2016/17 a 2017/18, a’i fod wedi diwygio’r polisi o ganlyniad. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i awdurodau lleol osod polisi ar gyfer pob blwyddyn ariannol ac fe awgrymwyd fod polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw 2020/21 yn aros yr un fath ag oedd yn 2019/20.
Cynigiodd y Cynghorydd Glyn Banks y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad a chafodd hyn ei eilio gan y Cynghorydd Billy Mullin.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at y pryderon roedd wedi’u mynegi mewn cyfarfod blaenorol am yr Isafswm Darpariaeth Refeniw a dywedodd ei fod yn teimlo ei bod hi’n annheg trosglwyddo byrdwn taliadau uwch ar genedlaethau'r dyfodol. Fe awgrymodd fod y Cyngor yn cyfeirio yn ôl at y graff ‘llinell syth’ er mwyn ysgafnhau pwysau yn y dyfodol a gofynnodd a oedd modd i Swyddogion ddweud wrtho faint fyddai’r gost o wneud hynny. Cytunodd y Prif Weithredwr y gellir ystyried hyn wrth ystyried y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cronfa'r Cyngor
- Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ym mlwyddyn ariannol 2020/21 ar gyfer cydbwyso gwariant cyfalaf sy’n ddyledus wedi ei gyllido o fenthyca cefnogol wedi ei osod ar 31 Mawrth 2017. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dal’ dros 49 mlynedd.
- Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca cefnogol o 1 Ebrill 2016 ymlaen. Bydd yn cael ei gyfrif yn ôl y dull ‘blwydd-dâl’ dros y nifer briodol o flynyddoedd, yn ddibynnol ar y cyfnod o amser y mae’r gwariant cyfalaf yn debygol o greu buddion.
- Opsiwn 3 (Dull Oes Ased) i’w ddefnyddio i gyfrif yr Isafswm Darpariaeth Refeniw yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf wedi ei ariannu gan fenthyca (darbodus) nad yw wedi ei gefnogi neu drefniadau credyd.
(b) Cymeradwyo’r canlynol ar gyfer Cyfrif Refeniw Tai:-
- Bod Opsiwn 2 (Dull Nawdd Cyfalaf Gofynnol) yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfrif Isafswm Darpariaeth Refeniw'r Cyfrif Refeniw Tai yn 2020/21 ar gyfer yr holl wariant cyfalaf sy’n cael ei ariannu gan ddyled.
(c) Cymeradwyo fod yr Isafswm Darpariaeth Refeniw ar fenthyciadau gan y Cyngor i NEW Homes i adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy’r Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (sy’n gymwys fel gwariant cyfalaf yn nhermau cyfrifeg) fel a ganlyn:-
- Ni wneir Isafswm Darpariaeth Refeniw yn ystod y cyfnod adeiladu (sy’n fyr) gan nad yw’r ased mewn defnydd ac nad oes unrhyw fudd o’i ddefnydd.
- Unwaith mae’r asedau’n cael eu defnyddio, bydd ad-daliadau cyfalaf yn cael eu gwneud gan NEW Homes.Bydd Isafswm Darpariaeth Refeniw’r Cyngor yn gyfartal â’r ad-daliadau a wnaed gan NEW Homes. Bydd yr ad-daliadau a wneir gan NEW Homes yn cael eu dosbarthu, yn nhermau cyfrifeg, fel derbyniadau cyfalaf, ac ni ellir defnyddio’r rhain ddim ond i ariannu gwariant cyfalaf neu ad-dalu dyled.Bydd yr ad-daliad cyfalaf/derbyniadau cyfalaf yn cael eu neilltuo i ad-dalu dyled, a dyma yw polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw y Cyngor i ad-dalu'r benthyciad.
Awdur yr adroddiad: Liz Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 05/01/2021
Dyddiad y penderfyniad: 18/02/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 18/02/2020 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents: