Manylion y penderfyniad
North East Wales Community Equipment Service (NEWCES)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Members with an overview of the
current service provided by the Community Equipment Service for
North East Wales, based in Hawarden
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig adroddiad i ddarparu trosolwg o’r gwasanaeth cyfredol a ddarparwyd gan NEWCES. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dweud bod y Gwasanaeth wedi darparu a gosod dros 30,000 o gyfarpar y flwyddyn ledled Gogledd Ddwyrain Cymru ac wedi ail-ddefnyddio 90% o’r offer a gafodd ei ddychwelyd.
Eglurodd yr Uwch Reolwr bod darparu offer cymunedol yn hanfodol ar gyfer hyrwyddo annibyniaeth pobl anabl o bob oed. Roedd darparu’r cyfarpar yn aml yn golygu bod unigolyn yn gallu ymdopi’n annibynnol heb fod angen gwasanaethau eraill ac yn cynyddu cyfraddau rhyddhau o’r ysbyty yn arw ac yn cefnogi osgoi gorfod mynd i’r ysbyty. Roedd y Gwasanaeth hefyd yn galluogi darparu gwasanaethau eraill yn ddiogel ac yn effeithiol gan gynnwys cefnogaeth gyda gofal personol gan gynnwys gofal gartref, ail-alluogi, gofal canolradd, gofal cartref nyrsio a phreswyl. Mae NEWCES yn darparu cyfarpar i unigolion yn y gymuned gan gefnogi bob ysbyty yng Ngogledd Ddwyrain Cymru sy’n cynorthwyo rhyddhau cyflym ac yn helpu gyda throsglwyddiadau wedi’u hoedi mewn gofal. Dywedodd yr Uwch Reolwr bod NEWCES yn cael ei gydnabod fel arweinydd ar lefel Cymru gyfan ac yn rhagori ar y Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Cyfarpar Cymunedol yng Nghymru.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, eglurodd yr Uwch Reolwr bod angen i unrhyw un oedd yn gwneud cais am gyfarpar cymunedol angen cael asesiad proffesiynol i ddechrau. Cafodd y Gwasanaeth 21,000 o atgyfeiriadau yn y flwyddyn ddiwethaf.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey os oedd NEWCES yn gweithio gyda’r GIG i gyflawni arbedion ar gyfarpar, a nododd enghraifft bod y GIG wedi llogi gwelyau bariatrig gan gwmni preifat lle gellid cyflawni arbedion drwy ddefnyddio’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan NEWCES. Awgrymwyd y gellid codi hyn gyda chynrychiolwyr BIPBC yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor sy’n cael ei gynnal ar 10 Chwefror.
Siaradodd yr Aelodau i gefnogi’r gwasanaethau rhagorol sy’n cael eu darparu gan NEWCES a chanmol yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig a’r Rheolwr Gwasanaeth, NEWCES am eu cyflawniadau. Awgrymodd y Cynghorydd Cindy Hinds bod angen codi mwy o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd am waith y NEWCES a’r cyfleusterau sy’n cael eu darparu yno. Cytunwyd y byddai’r Hwylusydd yn cysylltu gyda’r Prif Swyddog a Chyfathrebu Corfforaethol i gyhoeddi datganiad i’r wasg.
Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r gwaith llwyddiannus y mae NEWCES yn ei wneud i gefnogi osgoi gorfod mynd i’r ysbyty a dychwelyd yn ddiogel o’r ysbyty; a
(b) Bod y gwaith arwyddocaol a wnaed mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth gan gynnwys cefnogi’r rhaglen rhanbarthol, yn cael ei gydnabod.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 02/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 30/01/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 30/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: