Manylion y penderfyniad

Local Government & Elections (Wales) Bill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To present a response to the Local Government & Elections Bill which is at the Committee Scrutiny stage within the National Assembly for Wales for approval.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a oedd yn crynhoi darpariaethau'r Bil a manylion ymatebion y Cyngor. Cafwyd trafodaethau ar sawl agwedd o’r Bil yn flaenorol gan Aelodau yn ystod eu camau drafft.

 

            Wedi’i atodi i’r adroddiad oedd papurau Cyngor Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel corff cynrychioli’r Cyngor.

 

            Cefnogodd y Cynghorydd Roberts farn CLlLC a’r safle blaenorol fel yr amlinellwyd gan y Cyngor, a ddylai ffurfio sail i'r ymateb, a eiliwyd gan y Cynghorydd Carolyn Thomas. Dywedodd y byddai angen mynd i’r afael ag agweddau penodol pan cafodd y Bil ei gyhoeddi.Roedd yn croesawu darpariaeth yn y Bil a fyddai'n caniatáu i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed bleidleisio, yn benodol.

 

            Roedd y Cynghorydd Bithell yn cytuno gyda sylwadau’r Arweinydd a dywedodd y byddai’n croesawu'r agwedd o gyflwyno addysg wleidyddol mewn ysgolion. 

 

            Dywedodd y Cynghorydd Tudor Jones bod Sir y Fflint yn awdurdod lleol blaengar, a oedd wedi cael ei brofi yn Siambr y Cyngor drwy gydol y prynhawn. Fodd bynnag, mynegodd ei bryderon petai’r adroddiad yn cael ei gymeradwyo heddiw, y byddai'n atal y cyngor rhag rhoi sylwadau ar y system bleidleisio yn y dyfodol.Cefnogodd ymestyn y bleidlais i bobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed, ond dywedodd y byddai disgwyl defnyddio dwy system bleidleisio ar wahân.Cytunodd gyda’r system bleidleisio drosglwyddadwy ond rhoddodd sylw ar y system ar gyfer etholiadau'r Cyngor Sir pan mai’r sawl sy'n derbyn mwyafrif y pleidleisiau sy'n ennill. Fodd bynnag, roedd gan rhai o’r seddi hynny fwyafrif isel iawn, er enghraifft, Cynghorydd yn cael ei ethol gyda 24% o'r bleidlais; teimlodd y byddai hyn yn anodd ei esbonio i bobl ifanc. Byddai pleidlais sengl drosglwyddadwy yn gweld cyflawni mwyafrif o 50%. Nid oedd yn teimlo y dylai'r Cyngor alinio ei hun i farn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). 

 

            Dywedodd y Prif Weithredwr bod hwn yn bwnc a oedd yn ysgogi ystod eang o farn yn Siambr y Cyngor yn ogystal â CLlLC. Roedd CLlLC a’r Cyngor yn credu y dylid cael system bleidleisio unffurf i bob awdurdod lleol ni waeth pa system bleidleisio a ddefnyddiwyd, a fyddai o gymorth i osgoi dryswch.Dywedodd y Cynghorydd Jones ei fod yn anghytuno gyda’r farn honno, oherwydd bydd pobl yn cymryd sylw o’r system sydd ar waith lle maent yn byw yn unig. 

 

            Gwnaeth y Cynghorydd Richard Jones sylw ar y newid yn enw'r Pwyllgor Archwilio i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a dywedodd ei fod yn teimlo y dylai adrodd mesurau perfformio aros yr un fath, sef yn y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol. Esboniodd y Prif Weithredwr y gallai dau Bwyllgor weithredu swyddi tebyg a byddai ystyriaeth bellach yn cael ei roi i elfen honno’r Bil.

 

            Dywedodd y Cynghorydd Roberts y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal ar y system bleidleisio unwaith mae’r Bil wedi cael ei gyhoeddi.

           

            Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y byddai'r Cyngor yn ymateb i Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), gan adeiladu ar safleoedd sydd eisoes wedi cael eu cymryd ac alinio gyda safle a Barn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Awdur yr adroddiad: Robert Robins

Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2020

Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2020

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2020 - Cyngor Sir y Fflint

Dogfennau Atodol: