Manylion y penderfyniad
Aura – Renewal of Service Contract
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the proposed extension of the
service contract with Aura
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad i ystyried y bwriad i ymestyn y contract gwasanaeth gydag Aura. Rhoddodd wybod bod y contract gwasanaeth cychwynnol gydag Aura am gyfnod o dair blynedd, gan ddod i ben 31 Awst 2020. Roedd y cytundeb rhwng y Cyngor ac Aura’n cynnwys opsiwn i ymestyn y contract am ddwy flynedd arall drwy gytundeb ar y ddwy ochr. Mae’r adroddiad yn argymell gweithredu cytundeb o’r fath ac yn ymdrin â phrif delerau’r cytundeb hwnnw.
Rhoddodd y Prif Swyddog wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.
Yn ystod trafodaeth, ymatebodd Arweinydd y Cyngor a’r Prif Swyddog i’r cwestiynau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Tudor Jones
Cynigiodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn nodi ac yn cefnogi’r bwriad i ymestyn y contract gwasanaeth gydag Aura am ddwy flynedd arall (1 Medi 2020 tan 31 Awst 2022); a
(b) Bod Aura’n cael eu gwahodd i gyflwyno’r iteriad nesaf o’u cynllun busnes i Drosolwg a Chraffu ddechrau blwyddyn ariannol 2020/21, a chynnwys datganiad penodol o amcanion gwerth cymdeithasol yn unol â Strategaeth Gwerth Cymdeithasol sydd newydd ei mabwysiad gan y Cyngor.
Awdur yr adroddiad: Kara Bennett
Dyddiad cyhoeddi: 14/04/2020
Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 27/01/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol