Manylion y penderfyniad
Council Fund Revenue Budget 2020/21 Stage Two
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present an update on the Council Fund Revenue Budget 2020/21 following receipt of the Welsh Local Government Provisional Settlement leading to the budget-setting meeting in February for approval.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor 2020/21 a oedd yn nodi’r strategaeth ar gyfer cyrraedd cyllideb gyfreithiol a chytbwys.Roedd y Setliad Dros Dro allan i ymgynghoriad cyhoeddus a byddai’n cael ei derfynu ar 25 Chwefror cyn cymeradwyaeth Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer pob gwasanaeth cyhoeddus.
Mae'r adroddiad yn trafod:
· Y rhagolwg ariannol lleol diweddaraf ar gyfer 2020/21;
· Crynodeb o waith cam un y gyllideb;
· Asesiad o’r Setliad Dros Dro a’r effeithiau a'r goblygiadau i’r Cyngor;
· Y gwaith sy’n cael ei wneud ar yr ystod o ddewisiadau lleol ar gam dau i gyfrannu tuag at gyflawni cyllideb gytbwys ar gyfer 2020/21;
· Y risgiau agored a oedd angen eu hystyried wrth osod y gyllideb; a
· Y camau i gau’r gyllideb a'r gwaith parhaus ar gyfer y tymor canolig.
Cynghorodd yr adroddiad bod graddfa uchel o hyder y byddai cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn cael ei argymell i'r Cyngor yn y cyfarfod ar 18 Chwefror.Trefnwyd cyfarfod arbennig o Arweinwyr Gr?p i’w gynnal cyn Cyfarfod y Cyngor.
Ers y cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr, effaith y newidiadau diweddar oedd cynyddu bwlch y gyllideb i fodloni gofyniad y gwariant ar gyfer 2020/21 o £0.181 miliwn i £16.355 miliwn.
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion llawn ar y Setliad Dros Dro, fel y manylwyd yn yr adroddiad.Esboniodd bod yr AEF dros dro (Grant Cefnogi Refeniw a chyfran o Gronfa Cyfraddau Cenedlaethol) ar gyfer 2020/21 yn £199.386 miliwn, wrth gymharu â'r ffigwr diwygiedig 2019/20 o £192.212 miliwn a oedd yn cynrychioli cynnydd o 3.7%. Cynnydd Cymru gyfan ar gyfartaledd oedd 4.3%. Mae’r dyraniad dros dro yn cynrychioli cynnydd ariannol o £10.406 miliwn dros ddyraniad 2019/20 o £188.980 miliwn.
Roedd tri throsglwyddiad i’r Setliad:
· Grant Pensiwn Athrawon (£1.978 miliwn);
· Gofal Nyrsio (£0.081 miliwn); a
· Cyflog Athrawon (£0.608 miliwn).
Nid oes cyllid ychwanegol wedi’i gadarnhau ar y cam hwn i gefnogi cyllid ‘gwaelodol’.Mae cyllid gwaelodol yn lefel sicr o nawdd i gynghorau a ddaeth o dan y newid yng nghyfartaledd Cymru gyfan yn y Setliad blynyddol.Roedd lefel waelodol yn nodwedd o'r Setliad am sawl blwyddyn.Oherwydd yr amrywiadau yn y cynnydd blynyddol o gyngor i gyngor, galwyd am lefel waelodol gan nifer o gynghorau.Os caiff ei gymeradwyo, byddai’n cael ei noddi gan Llywodraeth Cymru yn ogystal â’r swm a oedd wedi ei fuddsoddi yn y Setliad ar gyfer 2020/21 hyd yma.Fe wnaeth gr?p o Arweinwyr Gogledd Cymru’r achos i osod lefel waelodol ar 4%.Os yw’n cael ei gymeradwyo, byddai hynny’n gwella safle Sir y Fflint o 0.3%.Fe gefnogodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) y galw am lefel waelodol hefyd.Roedd disgwyl penderfyniad ac ni ellir tybio ar y cam hwn, cyn i'r gyllideb gael ei therfynu a'i chymeradwyo gan LlC.
Roedd manylion grantiau penodol i’w dyfarnu wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad. Byddai’r rhan fwyaf o grantiau ar yr un lefel â 2019/20, neu’n cael eu cynyddu ar gyfer chwyddiant. Byddai sawl cynnydd sylweddol i grantiau penodol o fewn Addysg a Gofal Cymdeithasol.Roedd y dyraniadau manwl ar gyfer Sir y Fflint yn anhysbys, gan gynnwys a fyddai telerau ac amodau’r grant yn ddigon hyblyg i’r Cyngor allu dyrannu arian yn erbyn gwariant cyllideb a gynlluniwyd i helpu gyda chau bwlch y gyllideb sy'n weddill - byddai manylion pellach ar gael yng nghyfarfod y Cyngor ar 18 Chwefror.
Roedd effaith blwyddyn lawn o Gyfraniadau Cyflogwr Pensiynau Athrawon yn gynnydd o £3.391 miliwn a byddai angen eu cynnwys yng nghyfrifiadau'r gyllideb a bodloni cynnydd yn y nawdd a dderbyniwyd yn y Setliad. Nid oedd y pwysau hwnnw ar gostau wedi cael ei ariannu yn y tarddiad gyda chyllidebau sylfaenol y Llywodraeth fel yr ofynnwyd. O ran cyflog athrawon, roedd y costau ychwanegol a ysgwyddir yn 2019/20 o’r dyfarniad cyflog blynyddol yn effeithiol o fis Medi 2018 wedi cael ei ariannu’n rhannol gan un grant penodol gan LC.Gwnaed y grant hwnnw ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol yn unig, ac nid oedd wedi ei osod i’w barhau i 2020/21. Byddai angen cynnwys £0.375 miliwn yng nghyfrifiadau’r gyllideb, ac i'w fodloni gan y cynnydd.Nid oedd y pwysau costau wedi cael ei noddi yn y tarddiad o fewn cyllidebau sylfaenol y Llywodraethau.Roedd y dewis yn parhau i rannu baich y costau gydag ysgolion, fel cyflogwyr athrawon, yn safle i ddisgyn yn ôl arno.Mae swm o £0.081 miliwn ar gyfer Gofal Nyrsio wedi’i Ariannu wedi cael ei drosglwyddo i’r Setliad ar gyfer gofal nyrsio wedi’i ariannu, a oedd yn gyfrifoldeb yn y gorffennol i’r Bwrdd Iechyd, ond oedd wedi cael ei drosglwyddo i’r Cyngor.
Darparwyd manylion hefyd o’r gwaith sy’n parhau ar ystod gyfyngedig o ddatrysiadau lleol i gyfrannu at gau bwlch y gyllideb ynghyd â'r cyfraniad a wnaed gan Setliad Llywodraeth Leol gwell. Roedd 'rhain yn cynnwys cyfraniadau pensiwn cyflogwr, comisiynu gofal cymdeithasol a disgownt person sengl – adolygiad o hawl.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai buddion ychwanegol yn y Setliad, ond byddai angen eu hychwanegu i’r gronfa wrth gefn i fodloni’r risgiau o fewn y flwyddyn, fel yr amlinellwyd. Rhoddodd fanylion o’r amserlen ar gyfer camau olaf y broses o osod y gyllideb flynyddol, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad.Ychwanegodd bod adolygiad llawn o Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar waith, a fyddai'n nodi rhagolygon y gyllideb a'r gofynion ar gyfer 2022/23- 2023/24. Byddai'r wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei adrodd i Aelodau ar ddechrau’r haf gyda ymgysylltiad cynnar wedi’i gynllunio mewn cyfres o weithdai.
Cynigodd y Cynghorydd Roberts yr argymhellion a diolchodd i bob Aelod o’r Cyngor am y ffordd yr aethpwyd ati i osod y gyllideb, gan gynnwys gwaith y gweithgor trawsbleidiol a oedd yn sail i nifer o gyflwyniadau CLlLC i Lywodraeth Cymru.Adroddwyd y gyllideb i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a ni chafwyd cynigion pellach yn dilyn y cyfarfodydd hynny.Diolchodd i’r swyddogion am eu gwaith ar y gyllideb a’r gwaith parhaus ar y datrysiadau lleol; diolchodd bawb hefyd oedd wedi eu cynnwys yn y gwaith a wnaed ar adolygiad gwirioneddol o Gronfa Bensiynau Clwyd.Diolchodd LlC am y gwelliant i'r Setliad, yn ogystal â Llywodraeth y DU am ddarparu Setliad gwell i LC.Cefnogodd y cais am gyllid 'gwaelodol’ a gefnogwyd hefyd gan Arweinwyr Gogledd Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC). Roedd risgiau sylweddol o hyd i’r gyllideb, cyfraniadau pensiynau athrawon a dyfarniad cyflog athrawon yn benodol, a dywedodd mai pwy bynnag sy'n cyhoeddi'r cynnydd ddylai ariannu'r cynnydd.
Bwriad y Cabinet oedd cynnig cynnydd o lai na 5% i Dreth y Cyngor.
Eiliodd y Cynghorydd Banks yr argymhellion.Talodd deyrnged i dalwyr treth y cyngor yn Sir y Fflint, a oedd wedi sefyll gyda’r Cyngor yn ei frwydr i warchod y gwasanaethau rheng flaen.Fodd bynnag, nid oedd disgwyl parhaus iddynt dalu diffyg y setliad o arian Llywodraeth y DU.Galwodd am ragolwg tair blynedd gan LC i helpu gyda rhoi sefydlogrwydd a chynnig cymorth i'r Cyngor gyda chynllunio tymor hir.
Roedd y Cynghorydd Peers yn croesawu’r cydweithio a ddangoswyd wrth weithio ar y gyllideb.Fe wnaeth sylw ar yr adroddiad, lle y nodwyd 'efallai bydd LlC yn ariannu’r dyfarniad cyflog athrawon nesaf yn llawn’ ac ailadrodd sylwadau’r arweinydd bod LlC wedi cyhoeddi’r dyfarniad, ond nid ydynt yn darparu’r arian ar ei gyfer.O ran y £10.406 miliwn ychwanegol y byddai Sir y Fflint yn ei dderbyn, unwaith y byddai cyflogau athrawon a chyfraniadau pensiynau athrawon y cyflogwr wedi cael eu tynnu o’r ffigwr hwnnw, roedd wedi gostwng o £3.76 miliwn, i gynnydd gwirioneddol o £6.54 miliwn, felly nid oedd yn gynnydd o 3.7%.Disgwyliwyd y byddai cyflog athrawon a chyfraniadau pensiynau athrawon y cyflogwr yn cael eu hariannu’n llawn gan LC.Gwnaeth sylw ar adran yr adroddiad a oedd yn nodi nad oedd gan y Cyngor ddewis yn y gorffennol ond i osod Treth y Cyngor ar lefel uwch na'r hynny a gynlluniwyd yn y ddwy flynedd blaenorol, a dywedodd mai dyma'r unig ffordd i gydbwyso’r gyllideb oherwydd y diffyg nawdd gan LC.
O ran Treth y Cyngor, dywedodd bod LlC wedi gosod canllawiau ar gynnydd cyfartalog o 7.1% ar draws Cymru fel rhan o’i gyfrifiadau ar y gyllideb am nawdd digonol ar gyfer llywodraeth leol, a chwestiynwyd ai strategaeth LlC oedd rhoi baich ychwanegol ar y trethdalwr.Croesawodd y nawdd o ganlyniad i’r adolygiad actiwaraidd o Gronfa Bensiynau Clwyd.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones bod Llywodraeth y DU wedi rhoi £592 miliwn i LC, ac roedd Sir y Fflint yn disgwyl 2%, a oedd yn £12 miliwn ac nid £10.406 miliwn.Ailadroddodd ei sylwadau blaenorol bod disgwyl i LC dalu am gyflogau athrawon a chyfraniadau pensiynau athrawon y cyflogwr, nad oedd wedi digwydd. Dywedodd na chafwyd cyfarfod ffurfiol rhwng arweinwyr Gogledd Cymru a'r Gweinidog, ac ni wnaed newidiadau i fformiwla'r nawdd.Yn ei farn o, roedd Llywodraeth y DU wedi gwneud beth oedd disgwyl iddynt wneud, ond bod LlC heb.
Siaradodd am y sylwadau ar eitem y gyllideb o gyfarfod y Cyngor Sir ym mis Rhagfyr, pan nododd yr Arweinydd nad oedd yn dymuno gweld cynnydd Treth y Cyngor uwchben 5%, ac nid oedd am i bwysau costau gael eu rhannu gyda chyflog athrawon a chyfraniadau pensiwn.Mewn ymateb i sylw ar y nifer o gronfeydd newydd ar gael i helpu gyda chydbwyso’r gyllideb o £6.54 miliwn, cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y mai £6.646 miliwn y dylai’r ffigwr fod.Gofynnodd y Cynghorydd Jones am gadarnhad bod y 0.3% ychwanegol o gyllid gwaelodol ar gyfer safle Sir y Fflint yn gweld gwelliant o £580 mil, a roddwyd.Roedd yn cytuno gyda’r sylwadau blaenorol na fyddai disgwyl i breswylwyr lleol barhau i noddi’r bwlch yn y gyllideb drwy gynnydd sylweddol i Dreth y Cyngor.
Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai data dadansoddi Treth y Cyngor yn cael ei ddarparu yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Sir, gan gynnwys cymariaethau gydag awdurdodau lleol eraill.
Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhellion.
PENDERFYNWYD:
(a) Ail nodi rhagolygon y gyllideb ar gyfer 2020/21, yn ogystal â nodi’r risgiau agored a oedd angen eu hystyried wrth osod y gyllideb;
(b) Nodi effeithiau a goblygiadau Setliad Cyllideb Dros Dro y Llywodraeth Leol;
(c) Nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud ar y dewisiadau lleol sy'n weddill i gyfrannu at gyrraedd cyllideb gytbwys ar gyfer 2020/21;
(d) Yn ôl cyngor proffesiynol, yn seiliedig ar y strategaeth ariannol yr ydym wedi bod yn gweithio arni i gael ei nodi, bod graddfa uchel o hyder y gellir argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i’r Cyngor ar 18 Chwefror; a
(e) Bod adroddiad llawn a therfynol gydag argymhellion i osod cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn cael ei adrodd i gyfarfod y Cyngor ar 18 Chwefror.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2020
Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 28/01/2020 - Cyngor Sir y Fflint
Dogfennau Atodol: