Manylion y penderfyniad
Update on Garden Waste charges in Flintshire
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Scrutiny with an update on the number of green waste permits sold in the 2020 season.
Penderfyniadau:
Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Rheoleiddio ddiweddariad ar dymor casglu gwastraff gardd 2020 ers i’r newidiadau gael eu gweithredu fel rhan o’r adolygiad o ffioedd blynyddol a chyflwyno system tag newydd sydd wedi disodli’r sticer. Fe bwysleisiodd nad oedd yna ddyletswydd ar y Cyngor i gasglu gwastraff gardd; serch hynny roedd gwastraff gardd yn cyfrannu’n sylweddol at berfformiad ailgylchu cyffredinol a’i fod yn wasanaeth taladwy yn ôl disgresiwn sy’n cael ei gynnig i leihau gwastraff tirlenwi a chreu refeniw er mwyn darparu gwasanaethau statudol eraill fel yr argymhellir gan Glasbrint Casgliadau Gwastraff Llywodraeth Cymru (2011).
Wrth ymateb i gwestiynau am y ffioedd a sut roedd y gwasanaeth yn cael ei hyrwyddo ymysg y rhai nad oedd wedi tanysgrifio eto, cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod y ffi gostyngedig o £32 dal ar gael ar gyfer taliadau ar-lein. Byddai modd i aelodau’r cyhoedd oedd methu gwneud taliad ar-lein wneud hynny yn un o swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu a bydd aelod o staff yn eu cwblhau ar-lein iddynt. £35 oedd y ffi ar gyfer taliadau a wnaed ar ôl 1 Mawrth 2020 dros y ffôn neu mewn ciosg talu yn Sir y Fflint yn Cysylltu ar gyfer taliadau arian parod. Mae gwaith yn mynd rhagddo er mwyn cyflwyno taliadau Debyd Uniongyrchol y flwyddyn nesaf. Gwnaed dadansoddiad o sut roedd taliadau’n cael eu gwneud a hyd yn hyn, roedd 70% yn digwydd ar-lein a 30% yn digwydd yn bersonol.
Cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i roi cyfarwyddiadau i bob criw i gasglu biniau brown hyd yn oed os oedd y tagiau wedi cael eu gosod ben uchaf isaf gan ymateb i fater a godwyd gan y Cynghorydd Hardcastle.
Cynigiwyd argymhellion yr adroddiad gan y Cynghorydd Dave Wisinger ac eiliwyd gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
Bod y gwaith sydd wedi cael ei wneud ar gynllun casglu gwastraff gardd 2020 yn cael ei nodi.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 10/03/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Dogfennau Atodol: