Manylion y penderfyniad
Alternative Delivery Model Update (Social Care - Learning Disability Day and Work Opportunities)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide an update on the newly built and
opened day centre Hwb Cyfle and to update the Committee in relation
to partnership working arrangements with HFT.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y ganolfan ddydd newydd, Hwb Cyfle, a’r trefniadau gweithio mewn partneriaeth gyda Hft. Darparodd wybodaeth gefndir a rhoddodd wybod fod contract gwasanaeth yr Awdurdod gyda Hft yn cynnwys elfennau allweddol o gyfleoedd gwaith, cyflogaeth a gefnogir a chanolfan ddydd. Symudodd Hft o Ganolfan Ddydd Glanrafon i’r ganolfan ddydd newydd, Hwb Cyfle, ym mis Mehefin 2019 gan gefnogi 272 o unigolion. Adroddodd yr Uwch Reolwr ar y prif bwyntiau y manylwyd arnynt yn yr adroddiad. Cyflwynodd ddefnyddiwr gwasanaeth a’i wahodd i roi cyflwyniad byr ar ei brofiad personol yn defnyddio’r gwasanaeth Cyfleoedd Dydd Anableddau Dysgu i Aelodau.
Rhoddodd yr Uwch Reolwr wahoddiad i Jordan Smith, Rheolwr y Ganolfan HFT, ac Andrew Horner, Uwch Reolwr Gweithredol Hft, i roi gwybod am gynnydd y gwaith partneriaeth gyda Hft. Rhoddwyd gwybod i’r Pwyllgor bod Hft wedi parhau i ddatblygu nifer o bartneriaethau buddiol ar draws y sir i ddarparu cyfleoedd newydd a gweithgareddau amrywiol i bobl sy’n derbyn cefnogaeth. Rhoddwyd gwybod bod Project Search yn rhaglen gyflogaeth a gefnogir ar gyfer pobl ifanc ag anableddau dysgu. Dechreuwyd y rhaglen ym mis Medi 2019 gyda naw o hyfforddeion gan weithredu yn y Fflint mewn partneriaeth â Thai Clwyd Alun fel y prif gyflogwr ar gyfer lleoliadau gwaith. Coleg Cambria oedd yr arweinydd addysg a phartner cyflenwi gwasanaeth y Cyngor ar gyfer anableddau dysgu. Darparodd Hft gefnogaeth hyfforddwr swydd. Darparwyd lleoliadau gwaith gan Hamdden a Llyfrgelloedd Aura, Mcdonalds a’r Cyngor.
Diolchodd Aelodau i’r defnyddiwr gwasanaeth am rannu ei brofiad gyda’r Pwyllgor a llongyfarchwyd ef am ei gyflawniadau. Rhoddodd Aelodau ganmoliaeth i swyddogion a Rheolwyr Hft ar lwyddiant y Model Darparu Amgen ar gyfer Cyfleoedd Dydd Anableddau Dysgu a’r gwasanaeth a’r cymorth rhagorol a ddarparwyd i unigolion gan Hft.
Cyflwynodd y Cynghorydd Christine Jones sylwadau ar ddigwyddiad busnes diweddar a dywedodd fod cyflogwyr yn edmygu llwyddiannau, brwdfrydedd a moeseg gwaith cadarnhaol defnyddwyr gwasanaeth Hft.
Awgrymodd Uwch Reolwr y Gwasanaethau Integredig y dylid trefnu taith o amgylch Hwb Cyfle i Aelodau pan fo’n addas.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger a’u heilio wedi hynny gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r cynnydd a wnaed drwy’r partneriaeth gwasanaeth â Hft, a gweddnewidiad llwyddiannus y gwasanaeth canolfan ddydd o Glanrafon i Hwb Cyfle; a
(b) Bod y Pwyllgor yn llongyfarch Hft ar ddarpariaeth Project Search.
Awdur yr adroddiad: Susie Lunt
Dyddiad cyhoeddi: 05/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 16/03/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Newid Sefydliadol
Dogfennau Atodol: