Manylion y penderfyniad
Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 10)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
This regular monthly report provides the latest revenue budget monitoring position for 2019/20 for the Council Fund and Housing Revenue Account. The position is based on actual income and expenditure as at Month 10, and projects forward to year-end.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ar sefyllfa monitro cyllideb refeniw Cronfa'r Cyngor a Chyfrif Refeniw Tai fel ym Mis 10. Roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa'r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol pe bai popeth yn aros yr un fath. Ni chodwyd unrhyw faterion ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.
Y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn, heb gamau gweithredu newydd i leihau pwysau o ran costau a/neu wella’r elw wrth gynllunio arbedion effeithlonrwydd a rheoli costau, oedd:
Cronfa’r Cyngor
· Roedd y diffyg gweithredol o £1.625m sy’n symudiad ffafriol o £0.041m o’r ffigwr diffyg £1.666m a adroddwyd ym Mis 9; a
· Rhagamcanwyd y bydd balans y gronfa wrth gefn at raid ar 31 Mawrth 2020 yn £3.244m.
Y Cyfrif Refeniw Tai
· Rhagwelir y bydd gwariant refeniw net yn ystod y flwyddyn yn £0.062m sydd yn is na’r gyllideb a oedd yn symudiad cadarnhaol o £0.165m o’r ffigur diffyg o £0.103m a adroddwyd ym Mis 9; a
· Rhagwelwyd mai’r balans terfynol ar 31 Mawrth 2020 fydd £1.385m.
Roedd y mesurau a gyflwynwyd i liniaru'r sefyllfa gorwario a ragwelir yn gyffredinol wedi cael effaith gadarnhaol a byddai'r gwaith hwn yn parhau gyda meysydd penodol o dan adolygiad tactegol fel y manylir yn yr adroddiad. Gallai'r potensial ar gyfer dyfarniadau grant hwyr gan Lywodraeth Cymru (LlC) hefyd wella'r canlyniad ar ddiwedd y flwyddyn.
O ran yr amrywiannau sylweddol, arhoswyd am gadarnhad ynghylch dyraniad y Cyngor o arian grant Pwysau Gaeaf Ychwanegol i'w ddosbarthu trwy'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.
O ran Cronfeydd wrth Gefn a Balansau, y balans a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn ar Gronfeydd wrth Gefn oedd £3.244m.
Roedd un cais am ddwyn arian ymlaen ar gynllun grant Seilwaith Mewn Ysgolion Hwb yr oedd angen ei hawlio cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Byddai’r arian hwn yn cael ei ddyrannu i gefnogi rhwydweithiau TGCh ysgolion yn erbyn gwariant presennol yn ystod y flwyddyn, gan ofyn am gymeradwyaeth i'r tanwariant o ganlyniad gael ei ddwyn ymlaen i'r flwyddyn ariannol nesaf i ariannu'r cam gweithredu.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd disgwyl unrhyw newid sylweddol i sefyllfa diwedd blwyddyn a bod oedi mewn gwariant yn codi o fynd i’r afael â materion llifogydd yn bosibilrwydd. Ni ddisgwylid unrhyw wariant brys ychwanegol mewn ymateb i'r Coronafeirws, ond roedd swyddogion yn gweithio ar gyllidebau wrth gefn ar gyfer 2020/21. Byddai unrhyw wybodaeth am gyllid cenedlaethol i gefnogi gwasanaethau ac incwm coll yn cael ei rhannu pan fyddai ar gael.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r adroddiad cyffredinol a’r swm wrth gefn a ragamcanwyd ar gyfer Cronfa’r Cyngor ar 31 Mawrth 2020;
(b) Nodi'r lefel derfynol o falansau a ragamcanwyd yn y Cyfrif Refeniw Tai; a
(c) Cymeradwyo’r cais i ddwyn ymlaen ym mharagraff 1.22.
Awdur yr adroddiad: Rachel Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 12/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 17/03/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/03/2020 - Cabinet
Yn effeithiol o: 26/03/2020
Dogfennau Atodol: