Manylion y penderfyniad
Safeguarding Adults and Children
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To provide Members with statistical
information in relation to Safeguarding- Adults and
Children
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch-reolwr Diogelu a Chomisiynu adroddiad oedd yn rhoi gwybodaeth am ddarpariaeth Diogelu Oedolion a Phlant o fewn ffiniau’r Sir. Eglurodd bod yr adroddiad yn darparu gwybodaeth allweddol am ystadegau a pherfformiad mewn perthynas â phlant ac oedolion dan fygythiad, y mae gan yr Awdurdod gyfrifoldebau diogelu sylweddol a diogelu corfforaethol amdanynt. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlygu amrywiaeth o waith a gyflawnwyd gan yr Uned Ddiogelu a’r gweithgareddau a gyflawnwyd gan grynhoi rai o’r dysgeidiaethau allweddol o Adolygiadau Ymarfer Plant ac Oedolion ac Adolygiadau Dynladdiad Domestig.
Adroddodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu ar y prif ystyriaethau, fel y nodwyd yn yr adroddiad, o ran gweithgareddau’r Uned Ddiogelu a chyfeiriodd at y gwaith yn ymwneud â’r cyfrifoldebau craidd o amgylch Amddiffyn Plant, Diogelu Oedolion, Oedolion dan Fygythiad, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid, a Phlant Sy'n Derbyn Gofal.Roedd tîm yr Uned Ddiogelu hefyd yn rhan o grwpiau rhanbarthol, grwpiau cyflawni, darparu hyfforddiant i oedolion a phlant, adolygiadau ac ymchwiliadau i ymarfer plant ac oedolion.Roedd y negeseuon allweddol o gyfarfodydd y Bwrdd Rhanbarthol yn y chwarter olaf ar gael yn yr atodiadau i’r adroddiad.
Dywedodd Rheolwr Gwasanaeth yr Uned Ddiogelu bod yr Uned Ddiogelu wedi cael dau arolygiad thematig llwyddiannus gan Arolygiaeth Gofal Cymru eleni; cafodd y gwasanaeth Diogelu Oedolion a Phlant ei arolygu ym mis Chwefror a chafod y Gwasanaeth Plant dan Ofal ei arolygu ym mis Hydref ynghyd â meysydd eraill o’r Gwasanaethau Plant.
Yn ystod y drafodaeth, ymatebodd y Swyddogion i’r sylwadau a godwyd gan y Cadeirydd mewn perthynas â darpariaethau diogelu ar gyfer oedolion ifanc sy’n gadael y gwasanaethau gofal.
Cynigiodd y Cynghorydd Andy Dunbobbin yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad ar Uned Ddiogelu Sir y Fflint ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019;
(b) Bod y Pwyllgor yn rhoi sylw dyledus i’r amrywiaeth o weithgareddau ar draws yr Uned Ddiogelu a datblygiad a gwelliannau parhaus o ran darpariaeth gwasanaeth ac effaith y gofynion ychwanegol.
Awdur yr adroddiad: Neil Ayling
Dyddiad cyhoeddi: 13/10/2020
Dyddiad y penderfyniad: 16/12/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/12/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: