Manylion y penderfyniad
The Council’s Response to the Challenge of Climate Change and the Achievement of Carbon Neutrality by 2030
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To outline the work already undertaken to address the challenges of climate and carbon reduction and agree a programme so that the Council will be in a position to achieve Welsh Government’s requirement for the public sector to be carbon neutral by 2030.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Roberts yr adroddiad ar Ymateb y Cyngor i’r Her o Newid Hinsawdd a Llwyddo i fod yn Garbon Niwtral erbyn 2030 a dywedodd fod gan y Cyngor ymrwymiad tymor hir i ddiogelu’r amgylchedd. Roedd cynlluniau gweithredu yn eu lle ers rhai blynyddoedd i leihau ‘ôl troed carbon’ y Cyngor fel rhan o’r ymrwymiad hwnnw.
Fel rhan o’r ymgyrch rhyngwladol i wneud mwy, ac i gefnogi her Llywodraeth Cymru i’r sector cyhoeddus fod yn garbon niwtral erbyn 2030, roedd y Cyngor yn adolygu ei gynllun gyda pheth brys. Dyma sydd wedi’i gynllunio ar gyfer 2020:
· Datblygu’r trydydd a’r pedwerydd parc solar;
· Ystyried adeiladu gorsaf trosglwyddo gwastraff newydd ym Mwcle wedi’i phweru gan ynni adnewyddadwy i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach ac osgoi anfon gwastraff i safle tirlenwi;
· Parhau i sicrhau bod fflyd cerbydau’r Cyngor yn ‘wyrdd’;
· Parhau i osod rhwydwaith o bwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan drwy’r Sir;
· Parhau i fuddsoddi mewn mesur effeithlonrwydd ynni ar draws holl adeiladau’r Cyngor;
· Cyfrifo cyfanswm ôl troed carbon y Cyngor i allu blaenoriaethu camau tymor byr, canolig a hir i’w leihau ymhellach;
· Gan weithio gyda LlC a Thrafnidiaeth Cymru, bydd y Cyngor yn datblygu atebion cludiant aml fodel ar gyfer rheilffyrdd, llwybrau bysiau a beicio, ynghyd â chyfleusterau Parcio a Theithio; a
· Bydd yn gweithredu strategaeth Coed a Choetiroedd Trefol 15 mlynedd i gynyddu nifer y coed drwy’r Sir o 4% erbyn 2033.
Roedd Sir y Fflint mewn sefyllfa dda i sicrhau ei bod yn garbon niwtral erbyn 2030 a gofynnodd am gefnogaeth y cyhoedd i helpu i gyflawni’r nodau a amlinellwyd.
Cyfeiriodd Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a’r Economi) at bwysigrwydd y 12 maes, a amlinellwyd yn yr adroddiad, a fyddai’n helpu i lunio ymateb y Cyngor i her LlC. Roedd y Cyngor yn gwneud cynnydd yn y rhan fwyaf o’r meysydd hyn.
Croesawodd bob aelod yr adroddiad a chyfeiriwyd at bwysigrwydd gweithio gyda chyrff y sector cyhoeddus a’r angen i fonitro lefelau gostwng carbon. Diolchwyd i bob swyddog dan sylw am y gwaith a wnaed hyd yma.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi’r cam o sefydlu Bwrdd Strategaeth Ymateb i Newid Hinsawdd;
(b) Cefnogi bod Rheolwr Rhaglen yn cael ei recriwtio i gydlynu ymateb y Cyngor i Newid Hinsawdd;
(c) Cefnogi’r cynnydd a wnaed hyd yma i leihau ôl troed y Cyngor; a
(d) Bod y datganiad cyhoeddus o ymrwymiad a bwriad o ran safiad y Cyngor, y gweithgareddau hyd yma a’r camau y bwriedir eu cymryd, e.e. lleihau carbon, lleihau plastigau, ynni adnewyddadwy, bod yn wyrdd yn cael ei gyhoeddi.
Awdur yr adroddiad: Andrew Farrow
Dyddiad cyhoeddi: 17/04/2020
Dyddiad y penderfyniad: 17/12/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/12/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 04/01/2020
Dogfennau Atodol: