Manylion y penderfyniad
Capital Programme 2020/21 – 2022/23
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
Present the Capital Programme 2020/21 –
2022/23 for recommendation to Council.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) yr adroddiad ynghylch y Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 i'w argymell i'r Cyngor.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf yn cynnwys buddsoddi mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn galluogi darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel a gwerth am arian. Roedd yr asedau yn cynnwys adeiladau, megis ysgolion a chartrefi gofal, isadeiledd, megis priffyrdd, rhwydweithiau TG a gorsafoedd trosglwyddo gwastraff, ac asedau nad oedd yn eiddo i’r Cyngor. Roedd y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau busnes y gwasanaeth portffolio a Chynllun y Cyngor.
Roedd gan y Cyngor adnoddau cyfalaf cyfyngedig gan Lywodraeth Cymru a ffynonellau eraill i gefnogi blaenoriaethau, anghenion ac atebolrwyddau’r Cyngor. Fodd bynnag, roedd ganddo’r grym i ariannu cynlluniau cyfalaf drwy fenthyca dros dro, ac yn y pen draw, roedd cost ac ad-daliad unrhyw arian a fenthycwyd yn cael ei ychwanegu at gyllideb refeniw’r Cyngor. Ystyriwyd y cynlluniau a ariannwyd drwy fenthyca yn ofalus oherwydd yr effeithiau hirdymor ar gyllideb refeniw’r Cyngor.
Roedd yr adroddiad yn rhannu Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor yn dair rhan:-
1. Statudol / Rheoleiddiol – dyraniadau i ddarparu ar gyfer gwaith statudol a rheoleiddiol;
2. Asedau a Gedwir – dyraniadau i ariannu gwaith isadeiledd sy’n angenrheidiol i sicrhau darpariaeth gwasanaeth a pharhad busnes; a
3. Buddsoddiad – dyraniadau i ariannu gwaith sy’n angenrheidiol i ailfodelu gwasanaethau i gyflawni’r arbedion effeithlonrwydd a amlinellwyd o fewn cynlluniau busnes Portffolio a buddsoddi mewn gwasanaethau fel yr amlinellwyd yng Nghynllun y Cyngor.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys manylion o gynlluniau posibl ar gyfer y dyfodol, gan nodi bod rhaid i bob cynllun cyfalaf gael ei ystyried yng nghyd-destun sefyllfa Strategaeth Ariannol Tymor Canolig y Cyngor.
Diolchodd yr Aelodau i’r swyddogion am y gwaith a wnaethpwyd ar y Rhaglen Gyfalaf. Croesawyd y dyheadau a’r cynlluniau gweledigaethol er gwaetha’r caledi parhaus a wynebir gan y Cyngor.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y dyraniadau a chynlluniau yn Nhabl 3 ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau a Gedwir y Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2020/21 - 2022/23 yn cael eu cymeradwyo;
(b) Bod y cynlluniau wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 ar gyfer adran Buddsoddi y Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2020/21 - 2022/23 yn cael eu cymeradwyo;
(c) Bod y diffyg mewn cyllid i ariannu yn Nhabl 5 ar hyn o bryd yn y broses gymeradwyo cynlluniau yn 2020/21 a 2021/22 yn hyblyg. Bydd opsiynau gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ar gael), benthyca darbodus neu gynlluniau fesul cam yn cael eu hystyried yn ystod 2020/21, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a
(d) Bod y cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 ar gyfer yr adran a ariennir yn benodol o Raglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor a fydd yn cael eu hariannu’n rhannol drwy fenthyca, yn cael eu cymeradwyo.
Awdur yr adroddiad: Liz Thomas
Dyddiad cyhoeddi: 06/01/2020
Dyddiad y penderfyniad: 19/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/11/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 28/11/2019
Dogfennau Atodol: