Manylion y penderfyniad
Regulated Services Engagement and Consultation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To consider the draft consultation.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion adroddiad i ystyried yr ymgynghoriad drafft. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd bod y broses a ddisgrifir yn yr adroddiad yn cael ei gyd-gynhyrchu gyda phobl a oedd yn defnyddio'r gwasanaethau, ac wedi'i ddylunio i fod yn gynhwysfawr, cadarn a chynaliadwy, yn bodloni gofynion rheoliadol, a hefyd yn darparu’r wybodaeth sydd ei angen i sicrhau bod gwasanaethau’r Awdurdod o ansawdd uchel ac yn parhau i fodloni anghenion yr unigolion sy’n cael eu cefnogi.
Roedd y prosesau ymgysylltu a drafodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys gofal preswyl pobl h?n mewnol, gofal ychwanegol, gofal cartref a byw â chymorth, a gofal tymor byr i bobl gydag anableddau dysgu. Amcan cyffredinol oedd gweithredu proses adolygu o ansawdd ar draws y gwasanaeth gyfan a dysgu a rennir ar draws y sector mewn perthynas â'r hyn sydd wedi gweithio'n dda ac unrhyw wersi neu adlewyrchiadau i wella. Gwahoddodd yr Uwch Reolwr y Rheolwr Gwasanaeth, Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno'r adroddiad.
Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth bod gofyniad dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol newydd (Cymru) 2016 (RISCA) i’r Unigolyn Cyfrifol i ymgysylltu ac ymgynghori gydag unigolion sydd yn defnyddio gwasanaethau’r Awdurdod yn rheolaidd ac mewn modd effeithiol. Mae Rheoliad 76 y RISCA yn nodi’r gofynion, fel y nodir yn yr adroddiad. Cyfeirioedd at y gwaith ymgysylltu a gynhaliwyd a’r fethodoleg sy’n tanategu’r gwaith a oedd wedi seilio ar ddull ‘dweud stori’. Darparwyd gynllun cyfathrebu i danategu’r broses gyfan. Eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth bod RISCA wedi gosod ansawdd gwasanaeth a gwelliant yng ngwraidd rheoliad. Bydd y dull hwn yn dangos bod gan gofal a gwasanaethau cynnal y Cyngor ddiwylliant o wella ansawdd, gan ddefnyddio dulliau o gyd-gynhyrchu, gan ffocysu ar ganlyniadau a phrofiad ar gyfer yr unigolyn a thrwy wrando ar newid cadarnhaol.
Roedd yr Aelodau yn cefnogi’r broses ymgysylltu a’r ymgynghoriad, a diolchwyd i'r Uwch Reolwr a’r Rheolwr Gwasanaeth am eu gwaith.
Cynigiodd y Cynghorydd Martin White yr argymhellion yn yr adroddiad ac eilwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y broses ymgysylltu ac ymgynghoriad i fodloni anghenion y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (RISCA) yn cael ei ardystio; a
(b) Bod y cynnydd a cham 2 y gwaith ar y gweill a fydd yn ffurfio rhan o adroddiad blynyddol yr unigolyn cyfrifol, yn cael ei nodi.
Awdur yr adroddiad: Susie Lunt
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2020
Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Accompanying Documents: