Manylion y penderfyniad
Support building resilient communities by developing social prescriber role within Single Point of Access
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To receive an update
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Uwch Reolwr, Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion adroddiad i ddarparu diweddariad ar y gwaith a gyflawnwyd ar Wasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol sy’n gweithredu o Un Pwynt Mynediad Sir y Fflint (SPOA). Cyflwynodd yr Uwch Gydlynydd Clwstwr ac Arweinydd Partneriaeth, ac Ann Woods, Prif Swyddog Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint i’r cyfarfod.
Cyflwynodd yr Uwch Gydlynydd Clwstwr ac Arweinydd Partneriaeth yr adroddiad. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac eglurodd ei fod yn cael ei ddarparu mewn partneriaeth â Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint, mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i unigolion fel y gallent gael eu cynorthwyo i gyflawni “Beth sydd o Bwys” iddynt lle mae’r datrysiadau o fewn y cymuned neu ddatblygiad o'u sgiliau neu hyder eu hunain. Yn ogystal i'r gwasanaeth ar gael ar gyfer hunanatgyfeiriad, gellir gwneud atgyfeiriadau gan unrhyw un arall sydd â chyswllt gyda’r unigolyn. Maes penodol o ddatblygiad cyfredol ac yn y dyfodol yw annog Meddygon Teulu i atgyfeirio i mewn i’r gwasanaeth i gefnogi cleifion sydd yn dod ger eu bron gyda phryderon nad ydynt yn glinigol.
Rhoddodd y Prif Swyddog Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir Y Fflint drosolwg ar y Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol drwy’r Un Pwynt Mynediad ac eglurodd rôl y Presgripsiynwr Cymdeithasol a sut mae’r Gwasanaeth yn gweithio yn Sir y Fflint.
Llongyfarchwyd y Prif Swyddog a'i dîm gan yr Aelodau ar lwyddiant y Gwasanaeth. Rhoddodd y Prif Swyddog sylw ar yr adborth gadarnhaol ar sut mae’r Gwasanaeth wedi gwella ansawdd bywyd yr unigolion yn arw.
Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod effaith y Presgripsiynu Cymdeithasol ar hyrwyddo annibyniaeth a lles yn cael ei gefnogi; a
(b) Bod yr Aelodau yn cyfeirio preswylwyr Sir y Fflint at y gwasanaeth.
Awdur yr adroddiad: Susie Lunt
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2020
Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Accompanying Documents: