Manylion y penderfyniad
Council Plan 2019/20 – Mid Year Monitoring Report
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To agree the levels of progress in the
achievement of activities, performance levels and current risk
levels as identified in the Council Plan 2019/20.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Mullin Gynllun y Cyngor 2019/20 – Adroddiad Monitro Canol Blwyddyn a oedd yn darparu crynodeb o berfformiad ar ganol blwyddyn.
Esboniodd y Prif Weithredwr y cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr wythnos flaenorol ac fe’i groesawyd.
Dywedodd y Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol fod yr adroddiad yn dangos bod 88% o weithgareddau yn gwneud cynnydd da gyda 90% yn debygol o gyflawni’r canlyniadau a gynlluniwyd. Roedd 78% o ddangosyddion perfformiad wedi cyrraedd neu ragori ar eu targedau.Roedd risgiau yn cael eu rheoli, gyda 14% yn unig wedi’u hasesu fel rhai sylweddol a 40% wedi gostwng o ran arwyddocâd.
Dywedodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn mynd ar drywydd meysydd risg a fyddai’n cael eu cynnwys yn eu rhaglenni gwaith ar gyfer y dyfodol.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo a nodi'r canlynol:
· Lefelau cynnydd a hyder cyffredinol o ran cyflawni gweithgareddau o fewn Cynllun y Cyngor;
· Y perfformiad cyffredinol yn erbyn dangosyddion perfformiad Cynllun y Cyngor;
· Y lefelau risg presennol o fewn Cynllun y Cyngor;
(b) Bod y Cabinet wedi eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o gyflawni Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 06/01/2020
Dyddiad y penderfyniad: 19/11/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/11/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 28/11/2019
Dogfennau Atodol: