Manylion y penderfyniad

Capital Programme 2020/21 - 2022/23

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To present the Capital Programme 2020/21 - 2022/23 for review.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar Raglen Gyfalaf arfaethedig 2020/21 – 2022/23 a nododd fuddsoddiad mewn asedau ar gyfer y tymor hir i alluogi ar gyfer cyflwyno gwasanaethau cyhoeddus ansawdd uchel a gwerth am arian wedi’u rhannu rhwng y tair adran: Statudol/Rheoleiddio, Asedau Cadwedig a Buddsoddiadau.

 

Derbyniwyd cyflwyniad yn cwmpasu’r canlynol:

 

·         Strwythur – Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor

·         Rhaglen Bresennol 2019/20 – 2021/22

·         Cyllid Rhagamcanol 2020/21 – 2022/23

·         Statudol/Rheoliadau – Dyraniadau Arfaethedig

·         Asedau Cadwedig – Dyraniadau Arfaethedig

·         Buddsoddiadau – Dyraniadau Arfaethedig

·         Crynodeb o Raglen a Ariennir yn Gyffredinol

·         Cynlluniau a Ariannwyd yn Benodol

·         Rhaglen Gyfalaf Gryno

·         Cynlluniau Potensial i’r Dyfodol

·         Y Camau Nesaf

 

Ym Mis 6, cafwyd diffyg cyllid bras o £1.502m ar gyfer 2019/20 gyda diffyg ariannu cyffredinol o £0.723m ar gyfer y cyfnod o dair blynedd. Byddai’r diffyg hwn yn cael ei ostwng yn achos ceisiadau llwyddiannus am gyllid grant oedd yn aros am gadarnhad. Roedd y dyraniadau arfaethedig dan yr adran Asedau Cadwedig yn cynnwys swm cynyddol er mwyn rhoi lle i alluogi mwy o hyblygrwydd i ymateb i amgylchiadau na ellid bod wedi’u rhagweld.

 

Wrth ddiolch i’r swyddogion am yr adroddiad, awgrymodd y Cynghorydd Heesom weithdy ar wahân i edrych yn fanylach ar y wybodaeth. Mynegodd bryderon am y diffyg gwybodaeth am wariant a datblygu economaidd yn ardaloedd gorllewinol y Sir, yn enwedig i fynd i’r afael â materion coridorau traffig i Ddociau Mostyn.

 

Cefnogwyd yr awgrym am weithdy gan y Cynghorydd Roberts a gyfeiriodd at waith parhaus i asesu cyflwr adeiladau ysgolion a’r cais i Lywodraeth Cymru am gynllun cyfalaf i adnewyddu ysgolion y tu allan i gwmpas y prif raglenni gwella.

 

Mewn perthynas â buddsoddi ar draws Sir y Fflint, croesawodd y Cynghorydd Johnson y gwelliannau a wnaed yn ardal Treffynnon a gofynnwyd am roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y cynllun arfaethedig yn Llys Gwenffrwd.

 

Yn dilyn cwestiwn gan y Cynghorydd Bateman, dywedodd y Cynghorydd Roberts fod y Cyngor yn aros am ganlyniad cais am grant i Gronfa Dreftadaeth y Loteri i ddatblygu cyfleuster archif ar y cyd newydd a adroddwyd yn ddiweddar i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.

 

Dywedodd y Cynghorydd Banks fod yna nifer o bethau cadarnhaol yn yr adroddiad a thalodd deyrnged i waith y timau oedd yn gyfrifol am gyflwyno ceisiadau am gyllid grant.

 

Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y cyfeiriad yn yr adroddiad at gynnal a chadw cyfleusterau dan Aura Leisure & Libraries lle’r oedd gwaith ar asesu anghenion buddsoddi cyfalaf yn anghyflawn. Mewn ymateb i awgrym y Cynghorydd Heesom, dywedodd y byddai gweithdy ar ariannu cyfalaf i Aelodau’n cael ei drefnu yn y Flwyddyn Newydd. Gofynnodd y Cynghorydd Heesom i hyn ystyried ei bwynt ar ddatblygu economaidd.

 

Cynigiwyd yr argymhellion yn yr adroddiad, a ddiwygiwyd i adlewyrchu’r ddadl, gan y Cynghorydd Cunningham ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer adrannau Statudol/Rheoleiddiol ac Asedau Cadwedig Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2020/21 - 2022/23;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynlluniau a gafodd eu cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.26) ar gyfer adran fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor 2020/21 - 2022/23;

 

(c)       Bod y Pwyllgor yn nodi bod y diffyg wrth ariannu cynlluniau yn 2020/21 a 2021/22 yn Nhabl 5 (paragraff 1.36) yn hyblyg ar yr adeg hon yn y broses gymeradwyo. Ymhlith y dewisiadau mae cyfuniad o dderbynebau cyfalaf i’r dyfodol, grantiau amgen (os oes ar gael), bydd benthyca darbodus neu ailgyflwyno cynlluniau’n cael eu hystyried yn ystod 2020/21, ac yn cael eu cynnwys yn adroddiadau’r Rhaglen Gyfalaf i’r dyfodol;

 

(d)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 (paragraff 1.42) ar gyfer adran a ariennir yn benodol Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor a fydd yn cael eu hariannu yn rhannol trwy fenthyca;

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes pryderon i’w hadrodd i’r Cabinet eu hystyried cyn i adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 gael ei ystyried gan y Cyngor; a

 

(f)        Bod gweithdy ar ariannu cyfalaf yn cael ei drefnu yn gynnar yn 2020.

Awdur yr adroddiad: Chris Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 11/02/2020

Dyddiad y penderfyniad: 14/11/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 14/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: