Manylion y penderfyniad

Council Plan 2019/20 – Mid Year Monitoring Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To review the levels of progress in the achievement of activities, performance levels and current risk levels as identified in the Council Plan 2019/20

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad i gyflwyno crynodeb o berfformiad ar gyfer sefyllfa diwedd y flwyddyn 2018/19 blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ‘Cyngor Cefnogol’ a ‘Cyngor Uchelgeisiol’ oedd yn berthnasol i’r Pwyllgor.    Roedd yr adroddiad yn adroddiad am eithriadau ac felly’n canolbwyntio ar y meysydd a oedd yn tan-berfformio.  

 

Roedd yr Aelod o’r Cabinet Datblygu Economaidd yn rhoi diweddariad ar y nifer o unigolion a gefnogwyd drwy’r gwasanaeth mentora oedd yn dechrau gweithio, dysgu neu wirfoddoli, gan egluro er bod perfformiad presennol o dan y targed, roedd swyddogion yn hyderus ei bod yn bosibl cyflawni targed blwyddyn lawn.   Roedd y gwasanaeth yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac roedd yn codi pryderon am yr ansicrwydd am lefel cyllid a dderbyniwyd o un flwyddyn i’r llall.   

 

Gofynnodd y Cynghorydd Rosetta Dolphin pam bod y dangosyddion perfformiad ar gyfer canran aelwydydd yn y chwarter lle roedd digartrefedd wedi’i atal a’r lefel boddhad tenant yn dangos yn oren ac nid gwyrdd.    Eglurodd y Prif Swyddog bod y targedau a osodwyd am y flwyddyn yn uwch na’r cyflawniad presennol ond byddent yn parhau i gael eu monitro i sicrhau y cyflawnir targedau. Dywedodd am yr heriau oedd yn ymwneud ag ymgysylltu â’r sector rhentu preifat oedd yn gyndyn i roi llety i bobl oedd yn derbyn Credyd Cynhwysol ond dywedwyd  bod sioe deithiol gyda 40 landlord preifat wedi’i threfnu a chytunodd i roi adborth i’r Pwyllgor maes o law ar lwyddiant y sioe deithiol. 

 

Roedd y Cynghorydd Patrick Heesom yn croesawu’r adroddiad.   Dywedodd am y nifer o fusnesau a gefnogwyd drwy’r ganolfan ranbarthol a mynegodd bryderon nad oedd y ganolfan ar waith ar hyn o bryd.    Hefyd dywedodd y dylai’r prosiectau oedd yn cael eu gweithredu gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar hyn o bryd gynnwys rhanbarth Sir y Fflint cyfan ac nid canolbwyntio ar Lannau Dyfrdwy yn unig.    Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) rôl 6 Swyddog Datblygu Economaidd Awdurdodau Lleol Gogledd Cymru a dywedodd am eu dylanwad ar rôl y ganolfan ranbarthol drwy eu cysylltiadau gyda busnesau lleol.    Drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru byddai yna bedwar Cyd-bwyllgor yn cynnwys Addysg, Cludiant ar lefel ranbarthol, Cynllunio Strategol a Datblygu Economaidd a fyddai’n adeiladu ar waith Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.        

 

Cafodd yr argymhelliad o fewn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Rosetta Dolphin a’i eilio gan y Cynghorydd Ron Davies.    

   

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r adroddiad.

Awdur yr adroddiad: Ceri Shotton

Dyddiad cyhoeddi: 09/01/2020

Dyddiad y penderfyniad: 22/11/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 22/11/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau a Menter

Dogfennau Atodol: