Manylion y penderfyniad

Welsh Language Annual Monitoring Report 2018/19

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To receive and review the Welsh Language Annual Monitoring Report.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd Swyddog Gweithredol Busnes a Chyfathrebu Corfforaethol  Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2018/19 i’w gymeradwyo. Roedd yn cynnwys trosolwg o gydymffurfio â’r Safonau Iaith Gymraeg a meysydd gwella a nodwyd. Roedd cyhoeddi adroddiad blynyddol yn ddyletswydd statudol ac yn rhan o raglen waith ehangach i sicrhau newid sylweddol.

 

Tra bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn Addysg, Gwasanaeth Cymdeithasol a Theatr Clwyd o ran diwylliant Cymreig a defnyddio’r Gymraeg, nodwyd meysydd gwella pellach yn yr adroddiad yn cynnwys deall lefelau sgiliau staff a meithrin hyder i sgwrsio yn Gymraeg.

 

Wrth ddiolch i’r swyddog am yr adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Mullin fod meysydd o ddiffyg cydymffurfio’n deillio’n bellaf o gamgymeriadau gweinyddol yn gysylltiedig â galwadau ffôn ac arwyddion, a bod nod Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg yn cael sylw drwy’r Sir. Cydnabu’r meysydd gwella angenrheidiol, gan nodi’r cynnydd a wnaed eisoes.

 

Wrth ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Peers, eglurodd Prif Swyddog (Llywodraethu) y drefn o ddelio â galwadau ffôn yn Gymraeg yn cynnwys trefniadau yn y Ganolfan Gyswllt. Tra bod y Cynghorydd Peers yn gefnogol i ddwyieithrwydd, dywedodd y dylid cael cysondeb, er enghraifft, diffyg arwyddion Saesneg yn swyddfeydd T? Dewi Sant yn Ewlo. Dywedodd y Prif Swyddog y byddai’n cyfleu’r sylw a dywedodd fod yr adeilad wedi cael enw Cymraeg yn sgil ymgynghori â’r gweithlu. Ychwanegodd mai’r gofyniad oedd sicrhau nad oedd y Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol yn hytrach na bod yn gwbl ddwyieithog.

 

Siaradodd y Cynghorydd Jones am y cyfleoedd cynyddol i ddysgwyr Cymraeg a mynegodd ei siom yn y gostyngiad sylweddol yn nifer y gweithwyr sy’n mynychu hyfforddiant sgiliau Cymraeg o 137 yn 2017/18 i lawr i 64 yn 2018/19.  Roedd y Prif Weithredwr yn rhannu ei bryderon a chyfeiriodd at gynlluniau i ystyried mathau gwahanol o ddysgu i hybu niferoedd ar lefel mynediad.

 

Talwyd teyrnged gan y Cynghorydd Shotton i’r gwaith a wnaed mewn ysgolion, yn arbennig y chwe ysgol cyfrwng Saesneg oedd wedi ennill gwobr Efydd y ‘Campws Cymraeg’.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Jones ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Cymeradwyo cynnwys yr adroddiad blynyddol; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn cael sicrwydd fod y Cyngor wedi gwneud cynnydd o ran bodloni gofynion statudol yr Hysbysiad Cydymffurfio â’r Iaith Gymraeg.

Awdur yr adroddiad: Fiona Mocko

Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2019

Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: