Manylion y penderfyniad

Waste Strategy Review Consultation

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Yes

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Yes

Diben:

To approve the consultation event on the Council's revised Waste Strategy.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cynnig bod y Cyngor yn cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus eang ar ddarpariaeth y gwasanaeth gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol er mwyn deall disgwyliadau a thueddiadau’r preswylwyr yn well, a gosod y cyfeiriad ar gyfer darparu’r gwasanaeth yn y dyfodol.

 

                        Yn 2011, cyflwynodd y Cyngor wasanaeth Casgliad Wythnosol a Reolir a newidiodd y casgliadau gwastraff yn y Sir o sachau du wythnosol a chasgliadau ger y drws cefn i gasgliadau ailgylchu a gwastraff bwyd wythnosol, gyda chasgliadau gwastraff nad oes modd ei ailgylchu bob pythefnos. Bu i’r newid wella perfformiad ailgylchu’r Cyngor yn sylweddol ac oherwydd ymgysylltiad ac ymdrechion y preswylwyr, parhaodd y Cyngor i berfformio’n dda ac fe gadarnhawyd perfformiad ailgylchu o 69.16% ar gyfer 2018/19. Roedd hynny eisoes yn uwch na’r targed o 64% ar gyfer 2019/20 a’r targed sylweddol nesaf fydd 70% yn 2025.

 

                        Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod angen dathlu’r perfformiad ailgylchu presennol, ond heb newid gweithredol a pholisi, roedd yn debygol y byddai perfformiad yn sefydlogi ac y byddai unrhyw welliant o ran perfformiad yn y dyfodol yn anodd i’w gyflawni. Er nad oedd y strategaeth wastraff bresennol yn dod i ben tan 2025, roedd y targed a osodwyd o fewn y ddogfen o 70% bron â’i gyflawni ac roedd yn bwysig bod y Cyngor yn dechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol, gan ystyried beth yn fwy ellid ei wneud i gynyddu cyfraddau ailgylchu yn y dyfodol a lleihau gwastraff gweddilliol.

 

                        Byddai’r ymgynghoriad yn ystyried sawl agwedd, yn cynnwys:

 

·         Rhoi gwybod i ddefnyddwyr gwasanaeth am lwyddiant presennol y gwasanaeth;

·         Hysbysu defnyddwyr gwasanaeth o’r hyn a ddigwyddodd i’r eitemau ailgylchadwy a gasglwyd;

·         Esbonio’r angen i gynnal adolygiad;

·         Cael  gwybodaeth am dueddiadau ailgylchu cyfredol; a

·         Rhoi ystyriaeth i ddewisiadau newid gwasanaeth yn y dyfodol a fyddai’n gwneud y mwyaf o botensial ailgylchu. 

 

            Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Banks, dywedodd y Prif Swyddog y byddai’r holiaduron ar gael i’w cwblhau ar-lein ond byddai modd cwblhau copi papur ar gais. Roedd llawer o ddigwyddiadau galw heibio cymunedol wedi cael eu trefnu a byddai’r adborth o’r digwyddiadau hynny yn cael ei dderbyn.

 

            PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Bod y Cabinet yn nodi’r perfformiad presennol mewn perthynas ag

                      ailgylchu  ac yn mynegi diolch i’r preswylwyr a’r gweithwyr am eu

                      perfformiad; a

 

 (b)      Bod y Cabinet yn cymeradwyo bwrw ymlaen â’r ymarfer ymgynghori cyhoeddus ar Strategaeth Wastraff y Cyngor a chyfeiriad y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn y dyfodol ac annog preswylwyr i ymgysylltu â’r arolwg.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 03/10/2019

Accompanying Documents: