Manylion y penderfyniad
Bus Lanes in Flintshire – Limitations on Use
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To seek a recommendation to Cabinet to approve the limitations on vehicles utilising the proposed new bus lanes in Deeside.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Swyddog Diogelwch y Ffyrdd, Lee Shone adroddiad yn ceisio argymhelliad ar gyfer y Cabinet i gymeradwyo’r cyfyngiadau ar gerbydau sydd wedi cael awdurdod i ddefnyddio'r lonydd bysiau arfaethedig ar y B5129 rhwng Y Fferi Isaf a Shotton er mwyn defnyddio arian Grant Cludiant Llywodraeth Cymru.
Dywedodd bod mesurau blaenoriaeth ychwanegol wedi cael eu hamlygu ym Mharc Diwydiannol Deeside i ddarparu llwybrau mynediad ‘bysiau yn unig’ i mewn i’r parc.
Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai cynllun tymor hir oedd hwn ac yn un rhan o’r jig-so i gael pobl i newid o ddefnyddio eu ceir a defnyddio cludiant cyhoeddus. Roedd hyn yn gofyn am newid mewn diwylliant.
Cododd y Cynghorydd Shotton bryderon am yr amhariadau posib tra bod lonydd newydd yn cael eu creu ond croesawodd y ffaith bod troi i'r dde yn cael eu diddymu yn y cam nesaf. Dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) y byddai bob opsiwn yn cael eu hystyried i wneud yn si?r y byddai'r gwaith yn cael ei wneud i gyfyngu ar amhariadau. Ychwanegodd y byddai’r contractwr fyddai’n cael ei benodi yn hyblyg ac y byddai’r Tîm Strydwedd ar gael i siarad â’r gymuned fusnes a phreswylwyr lleol i liniaru unrhyw effaith.
Cododd y Cynghorwyr Evans a Johnson faterion yn ymwneud â chydnabod rhifau ceir a holodd pwy fyddai’n cynnal y gwaith a sut y byddai'n cael ei reoli. Cadarnhaodd y Swyddog Diogelwch y Ffyrdd y byddai’n cael ei gynnal mewn modd tebyg i'r cosbau tocynnau parcio.. Ychwanegodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) mai cerbydau a awdurdodir gan Sir y Fflint yn unig fyddai’n gallu defnyddio’r lonydd bysiau. Roedd hyn yn cynnwys cerbydau tu hwnt i’r Sir, gyda chofnod o ddefnyddwyr a ganiateir yn cael eu cofnodi.Cododd Aelodau bryderon am led y lonydd, plant ysgol yn defnyddio'r lonydd ar feiciau a bysiau'n goddiweddyd beiciau. Dywedodd y Swyddog Diogelwch y Ffyrdd bod canllawiau teithio’n llym a bod rhaid cadw atynt yn gaeth. Dywedodd bod gwaith yn cael ei wneud gydag ysgolion mewn perthynas â llwybrau beicio a chyrsiau beicio achrededig ar gyfer disgyblion.
Cefnogwyd yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Shotton a chawsant eu heilio gan y Cynghorydd Dunbobbin.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cyfyngiadau ar gerbydau ag awdurdod i ddefnyddio’r lonydd bysiau arfaethedig ar y B5129; a
(b) Bod y Pwyllgor yn nodi'r trefniadau gorfodi ar yr holl lonydd bysiau eraill a mesurau blaenoriaethau bysiau mewn lleoliadau allweddol ar draws y coridor.
Awdur yr adroddiad: Steve Jones
Dyddiad cyhoeddi: 16/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 17/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Dogfennau Atodol: