Manylion y penderfyniad
Year-end Council Plan Monitoring Report 2018/19
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To endorse the progress made against the
priorities of the Council Plan 2018/19.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn cyflwyno’r cynnydd sydd wedi’i fonitro yng Nghynllun y Cyngor ar ddiwedd 2018/19.
Roedd yr adroddiad monitro ar gyfer Cynllun y Cyngor 2018/19 yn adroddiad cadarnhaol. Roedd yn dangos bod 92% o’r gweithgareddau a aseswyd wedi gwneud cynnydd da ac 89% ar y trywydd cywir er mwyn cyflawni’r canlyniad a ddymunwyd.
Roedd dangosyddion perfformiad yn dangos cynnydd da gyda 70% ar y trywydd cywir, roedd 20% yn cael eu monitro a 10% wedi gwyro oddi ar y trywydd cywir. Roedd y risgiau hefyd yn cael eu rheoli'n llwyddiannus gyda'r mwyafrif yn cael eu hasesu’n risgiau cymedrol (64%), mân risgiau (14%) neu’n risgiau ansylweddol (11%).
Roedd yr adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a byddai’n sail i’r adroddiad statudol i’r Cyngor Sir ym mis Hydref.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi a chefnogi lefelau cynnydd, perfformiad a risg yn adroddiad monitro Diwedd Blwyddyn Cynllun y Cyngor 2018/19; a
(b) Bod y Cabinet wedi eu sicrhau gan gynlluniau a chamau gweithredu i reoli'r broses o gyflawni Cynllun y Cyngor ar gyfer 2019/20.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 03/10/2019
Dogfennau Atodol: