Manylion y penderfyniad

School Reserve Balances Year Ending 31 March 2019

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide the Committee with details of the closing balances held by Flintshire schools at the end of the financial year

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) adroddiad i roi manylion i’r Pwyllgor o falansau ysgolion Sir y Fflint ar ôl cau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Cyfeiriodd at lefel cyffredinol cronfeydd wrth gefn ysgolion Sir y Fflint a oedd wedi cynyddu o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd diffyg net ysgolion uwchradd yn gyffredinol wedi cynyddu o £0.169m (13.1%). Gosodwyd hyn yn erbyn cynnydd o £0.172m (7.2%) mewn cronfeydd wrth gefn ysgolion cynradd a chynnydd o £0.057m mewn cronfeydd wrth gefn ysgolion arbenigol. Roedd y dadansoddiad o’r balansau wrth gefn ar gyfer bob ysgol ar ddiwedd Mawrth 2019 ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod cyllidebau ysgolion uwchradd yn parhau i fod dan bwysau.  Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd gan 7 o’r 11 ysgol uwchradd yn Sir y Fflint ddiffygion o £1.879m. Roedd lefel y cronfeydd wrth gefn a gynhaliwyd gan ysgolion uwchradd gyda balansau cadarnhaol yn 1% o’r gyllideb a oedd yn amlygu pryderon yngl?n â gwydnwch ariannol y sector ysgol uwchradd yn Sir y Fflint. Eglurodd y Prif Swyddog fod mesurau caledi parhaus a newidiadau i ddemograffeg yn ffactorau a oedd yn cyfrannu at y sefyllfa ariannol ac yn codi’r cwestiwn a oedd y fformiwla ariannu yn darparu adnoddau digonol i ysgolion uwchradd llai allu gweithredu’n gynaliadwy. Roedd y pwysau hyn ar gyllidebau ysgolion uwchradd i’w weld ar draws Cymru a Lloegr.

 

Wrth drafod sefyllfa ysgolion cynradd yn Sir y Fflint, dywedodd y Prif Swyddog bod balansau ysgolion cynradd wedi’u cynnal yn dda er gwaethaf pwysau caledi parhaus, fodd bynnag, rhagwelwyd y byddai niferoedd disgyblion ysgolion cynradd yn gostwng ac y byddai hyn yn creu heriau ar gyfer Penaethiaid Ysgolion Cynradd wrth reoli’r gyllideb yn y dyfodol.  Ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd 6 ysgol gynradd gyda balansau diffygiol, o gymharu â 3 ysgol gynradd yn y flwyddyn flaenorol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar y prif ystyriaethau’n gysylltiedig â balansau ysgolion, fel y manylwyd yn yr adroddiad.  Dywedodd, ar y cyfan, bod gwerth y balansau dros ben yn ysgolion Sir y Fflint yn fwy na’r balansau diffygiol.  Esboniodd, yn ymarferol, bod balansau dros ben eisoes wedi’u hymrwymo gan ysgolion ar gyfer prosiectau penodol, neu ar gyfer ansicrwydd o ran cyllid a newidiadau o ran niferoedd disgyblion. Yn unol â’r Rheoliadau, roedd Cynllun Ariannu Ysgolion yr Awdurdod yn gofyn bod ysgolion yn cyflwyno cynllun gwariant yn dangos yr hyn yr oedd y corff llywodraethu yn bwriadu ei wneud â balans yr ysgol a oedd yn fwy na therfynau penodol.

 

Adroddodd y Prif Swyddog hefyd ar falensau diffygiol a dywedodd wrth i lefelau cyllid i ysgolion leihau oherwydd mesurau caledi a oedd yn wynebu llywodraeth leol roedd perygl y byddai mwy o ysgolion mewn sefyllfa o ddiffyg ariannol.Cyfeiriodd at Argymhelliad 4 yn Adroddiad Arolygu Estyn yn dilyn yr Arolwg diweddar o Wasanaethau Addysg yr Awdurdod a dywedodd bod y Tîm Rheoli Portffolio Addysg ac Ieuenctid a’r Tîm Cyllid Ysgolion wedi cytuno ar ystod o gamau gweithredu a fyddai’n ffurfio rhan o ymateb yr Awdurdod i Estyn i fynd i’r afael â’r argymhelliad i reoli’r lleihad i ddiffygion cyllidebau ysgolion yn fwy effeithiol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ian Roberts i’r Prif Swyddog, y Rheolwr Cyllid Ysgolion a’i thîm, Penaethiaid a Chyrff Llywodraethu, am eu gwaith caled a’u rheolaeth rhagweithiol o gyllidebau ysgolion. Siaradodd am y pwysau o galedi parhaus, yr ansicrwydd yn gysylltiedig â chyllid yn y dyfodol, a’r penderfyniadau anodd a oedd yn cael eu gwneud gan Benaethiaid a Chyrff Llywodraethu’n rheolaidd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dave Mackie ynghylch y fformiwla ariannu ysgolion, cyfeiriodd y Prif Swyddog a’r Rheolwr Cyllid Ysgolion at y gwaith a wnaethpwyd gyda’r Tîm Cyfrif Ysgolion gydag ysgolion ag arian dros ben i graffu ar gynlluniau gwariant ysgolion a darparu arweiniad. Dywedodd y Rheolwr Cyllid Ysgolion fod y cynlluniau gwariant hefyd wedi cael eu hadolygu gan y Tîm Rheoli Portffolio.

 

Cynigodd Mr David Hytch fod y Pwyllgor yn annog yr Awdurdod, er gwaethaf A4 argymhelliad Estyn a chydnabod nad oes gan ysgolion yr hawl i osod diffyg cyllidebol, i barhau i gefnogi ysgolion mewn perygl ariannol gyda’r bwriad o ddatrys diffygion heb amharu ar ddysg disgyblion. Eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

Mewn ymateb i bryder a godwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey, eglurodd y Rheolwr Cyllid Ysgolion fod niferoedd disgyblion yn rhan allweddol o’r fformiwla ariannu ysgolion.

 

Gofynnodd y Cynghorydd David Williams a fyddai modd cynnwys nifer y disgyblion yn ysgolion Sir y Fflint o fewn y tabl a oedd yn dangos balansau terfynol ysgolion. Cytunodd y Rheolwr Cyllid Ysgolion i roi’r wybodaeth hon i’r Pwyllgor a chynnwys y wybodaeth o fewn adroddiadau yn y dyfodol.

 

Soniodd y Cadeirydd am y cynnydd chwyddiant i dâl athrawon a phensiynau ac fe gynigodd bod llythyr yn cael ei anfon at Kirsty Williams, Aelod Cynulliad ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, i amlinellu pryderon y Pwyllgor ynghylch balansau ysgolion, a oedd i’w gweld yn glir ar draws Gymru, a’r diffyg eglurder o ran cyllid ar gyfer dyfarniadau tâl athrawon a chyfraniadau pensiwn cynyddol.

           

Cefnogodd y Cynghorydd Ian Roberts y cynnig ac awgrymodd bod Cyrff Llywodraethu ysgolion Sir y Fflint hefyd yn anfon llythyr at y Gweinidog, Aelodau

Cynulliad ac Aelodau Seneddol, i amlinellu eu pryderon a’u hanawsterau.

 

Awgrymodd y Cynghorydd David Williams y dylid hefyd cynnwys y broblem o ddiffyg ariannol mewn rhai ysgolion yn y llythyr at y Gweinidog.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)     Nodi balansau cronfeydd wrth gefn ysgolion ar 31 Mawrth 2019;

 

 (b)     Bod y Pwyllgor yn annog yr Awdurdod, er gwaethaf A4 argymhelliad Estyn a chydnabod nad oes gan ysgolion yr hawl i osod diffyg cyllidebol, i barhau i gefnogi ysgolion mewn perygl ariannol gyda’r bwriad o ddatrys diffygion heb amharu ar ddysg disgyblion; a

 

(c)       Bod llythyr yn cael ei ysgrifennu, ar ran y Pwyllgor, at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon y Pwyllgor ynghylch balansau ysgolion, a oedd i’w gweld yn glir ar draws Gymru, ac yn ceisio eglurder ynghylch cyllid ar gyfer dyfarniadau tâl athrawon a chyfraniadau pensiwn cynyddol.

Awdur yr adroddiad: Lucy Morris

Dyddiad cyhoeddi: 08/01/2020

Dyddiad y penderfyniad: 26/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 26/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid

Accompanying Documents: