Manylion y penderfyniad
Statement of Accounts 2018/19 and Supplementary Financial Information to Statement of Accounts 2018/19
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cyngor Sir y Fflint
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: No
yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No
Diben:
To present to Council for approval the final
version of the Statement of Accounts for 2018/19 and to note the
supplementary financial information
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol Richard Harries a Mike Whiteley o Swyddfa Archwilio Cymru, a Liz Thomas, Rheolwr Cyllid Strategol, Cyllid Corfforaethol.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2018/19 yn cael ei gyflwyno i’w gymeradwyo yn dilyn ei ystyried gan y Pwyllgor Archwilio cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw. Eglurodd fod Datganiad Cyfrifon 2018/19, sy’n ymgorffori’r diwygiadau hynny a gytunwyd gyda Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) yn ystod yr archwiliad, sydd i’w cymeradwyo gan yr Aelodau, wedi’i atodi fel atodiad 1 i’r adroddiad. Roedd cyflwyniad SAC, mewn perthynas â’r archwiliad o Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 wedi’i atodi fel atodiad 2. Yn ystod yr archwiliad, gwnaed diwygiadau i’r Datganiad Cyfrifon 2018/19 drafft a oedd wedi’u cytuno â SAC, ac mae’r rhai sy’n cael eu hadrodd o dan ISA 260 yn cael eu dangos yn atodiad 3. Atodwyd Llythyr Sylwadau Cyngor Sir y Fflint at SAC yn atodiad 4. Yn atodiad 5, atodwyd gwybodaeth ychwanegol i Ddatganiad Cyfrifon 2018/19 ar gyflog cyfwerth ag amser llawn, sydd dros £60,000, fel y ceisiwyd drwy rybudd o gynnig a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 29 Ionawr 2013.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd unrhyw ddiwygiadau i’r adroddiad i’r Cyngor yn dilyn ystyried y Datganiad Cyfrifon a chanfyddiadau SAC gan y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor heddiw. Roedd nodyn ar gwestiynau blaenorol a godwyd gan Aelodau a’r ymatebion a ddarparwyd wedi ei gylchredeg i Aelodau, a bu cyfle drwy gydol yr haf i Aelodau godi unrhyw faterion neu gwestiynau pellach. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau ychwanegol.
Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod canfyddiadau cyffredinol SAC yn gadarnhaol ac yn adeiladu ar y gwelliannau a gyflawnwyd mewn blynyddoedd blaenorol. Daeth SAC i’r casgliad bod y datganiadau cyllidol wedi’u llunio i safon dda a’u bod yn cael eu hategu gan bapurau gweithio cynhwysfawr. Nid oedd unrhyw gamddatganiadau nas cywirwyd. Yr unig fater a gododd o’r archwiliad oedd hynny ynghylch y broses ar gyfer prisio asedau, ac fe gafodd y camau a gynlluniwyd i fynd i’r afael â hyn, ar y cyd â SAC, eu derbyn gan y Pwyllgor Archwilio yn y cyfarfod a gynhaliwyd yn gynharach heddiw.
Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol y byddai dyddiad cau statudol cynharach ar gyfer y cyfrifon o 2020-21 ar gyfer cyflwyno’r datganiadau ariannol blynyddol drafft. Ar y cyd â SAC, byddai’r Cyngor yn ymgymryd ag ymarfer yn 2019-20 ar gyfer llunio ei ddatganiadau ariannol drafft erbyn 31 Mai 2020 gyda SAC yn dod i gasgliad ar 31 Gorffennaf 2020.
Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod un diwygiad perthnasol ynghylch pensiynau’n codi o’r Archwiliad a’i fod yn ganlyniad i fater cenedlaethol o’r enw dyfarniad achos cyfreithiol ‘McCloud’, a allai effeithio ar bob un o gynlluniau pensiynau’r gwasanaeth cyhoeddus. Eglurodd fod posibilrwydd ar hyn o bryd y bydd cyfraniadau cyflog athrawon yn cael eu heffeithio yn y dyfodol, ac roedd rhaid i’r Cyngor gyfrif am yr amcangyfrif gorau oherwydd y gwerth. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw effaith ar y pryd ar gyllid y Cyngor, a byddid yn delio ag unrhyw effaith actwaraidd dros y tymor hwy drwy amrywiad actwaraidd a oedd yn pennu’r cyfraniadau cyflog dros nifer o flynyddoedd.
Roedd Mr Richard Harries, Arweinydd Ymgysylltu Archwiliad Ariannol Cyngor Sir y Fflint, yn ategu y bu canfyddiadau cyffredinol SAC yn gadarnhaol a dywedodd fod y sefyllfa gorfforaethol yn dda. Soniodd am y gwaith caled a wnaed i gynhyrchu’r Cyfrifon a gwnaeth sylwadau ar safon uchel y papurau gweithio cynhwysfawr a ddarparwyd. Siaradodd hefyd am y berthynas weithio broffesiynol gadarnhaol a’r deialog adeiladol rhwng tîm SAC a’r Cyngor drwy gydol y broses archwilio. Cyflwynodd Mr Harries adroddiad ISA 260 drwy gyflwyniad a oedd yn cynnwys y prif bwyntiau a ganlyn:
· canfyddiadau cyffredinol
· cyfrifoldebau’r Archwilydd Cyffredinol
· sefyllfa’r archwiliad
· materion sy’n codi o’r archwiliad
· annibyniaeth
· edrych i’r dyfodol
Wrth ddod â’i gyflwyniad i ben, diolchodd Mr Harries i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i Dîm am eu gwaith ar y Cyfrifon a’r help a’r cymorth adeiladol a ddarparwyd drwy gydol y broses archwilio.
Diolchodd y Prif Weithredwr i Mr Harries am ei gyflwyniad ac i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i Dîm am eu gwaith. Dywedodd y byddai trafodaeth am sut i fynd i’r afael â’r dyddiad cau statudol cynharach o 2020-21 yn cael ei chynnal gyda Phwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd, a byddai’n cael ei argymell i’r Cyngor y dylai’r gwaith o gymeradwyo’r Datganiad Cyfrifon yn y dyfodol gael ei ddirprwyo i’r Pwyllgor Archwilio, gydag Aelodau’n cael mynediad llawn i’r wybodaeth.
Cymerodd y Prif Weithredwr y cyfle i wneud sylwadau ar adroddiad yn y wasg leol ar rwymedigaeth posibl a oedd yn codi o ddyfarniad ‘McCloud’. Eglurodd mai mater cenedlaethol oedd hwn a rhoddodd sicrwydd, os oedd gan y Cyngor rwymedigaeth fel cyflogwr a oedd yn cyfrannu, yna byddai’n cael ei dalu drwy gyfraniadau cyflogwr i’r gronfa bensiwn dros nifer o flynyddoedd, a byddai’n ychwanegiad cymharol fach at gyfraniadau cyflogwr blynyddol y Cyngor. Dywedodd fod y Cyngor wrthi’n cwblhau’r adolygiad actwaraidd presennol a gynhelir bob 3 blynedd, ac y byddai adroddiad am hyn yn cael ei gyflwyno’n ddiweddarach. I grynhoi, dywedodd na fyddai unrhyw benderfyniad o ran yr achos cyfreithiol yn cael effaith ar gyllideb y Cyngor ar hyn o bryd neu yn y flwyddyn ariannol nesaf.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Tony Sharps y Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i dîm ar y cyflwyniad a safon uchel y Datganiad o Gyfrifon. Diolchodd y Cynghorydd Sharps i’r Prif Weithredwr am yr eglurhad a’r sicrwydd a roddwyd i’r Cyngor o ran goblygiadau posibl dyfarniad ‘McCloud’. Gofynnodd a allai Arweinydd y Cyngor ddarparu datganiad i’r wasg i sicrhau bod preswylwyr Sir y Fflint yn cael gwybodaeth ffeithiol gywir i dawelu unrhyw bryderon a all godi o ganlyniad i’r sylw yn y wasg leol. Cadarnhaodd y Cynghorydd Ian Roberts y byddai datganiad i’r wasg yn cael ei ddarparu i hysbysu’r cyhoedd am sefyllfa’r Cyngor ac i roi sicrwydd.
Diolchodd y Cynghorydd Chris Dolphin i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol, y Rheolwr Cyllid Strategol, a’r Tîm Cyllid am eu gwaith caled ac am lwyddo i gwblhau Datganiad Cyfrifon 2018/19 cyn y dyddiad cau statudol. Diolchodd y Cynghorydd Dolphin hefyd i Mr Harries a Mr Whiteley am eu gwaith ac am gyflwyno canfyddiadau SAC. Adroddodd y Cynghorydd Dolphin fod y Pwyllgor Archwilio wedi ystyried Datganiad Cyfrifon 2018/19 mewn cyfarfod a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw. Roedd swyddogion o SAC yn bresennol ac wedi cyflwyno ac egluro canfyddiadau eu harchwiliad i’r Pwyllgor. Roedd swyddogion cyllid wedi darparu diweddariad ar gynnydd o ran y cyfrifon drafft a oedd wedi’u hystyried yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Archwilio. Adolygwyd y diwygiadau i’r Datganiad Cyfrifon ac nid oedd unrhyw ddiwygiadau pellach ers cytuno ar y drafft. I gloi, cynigiodd y Cynghorydd Dolphin yr argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad.
Wrth eilio’r cynnig, talodd y Cynghorydd Glyn Banks deyrnged i’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’i Dîm am eu gwaith caled, a dymunodd yn dda iddynt gyda llwyddiant yr ymarfer a gynlluniwyd yn 2019-20 ar gyfer llunio’r datganiadau cyllidol drafft erbyn 31 Mai 2020. Diolchodd hefyd i Dîm SAC am eu gwaith caled a’u cymorth.
Mynegodd y Cadeirydd ei diolch i bawb dan sylw am lwyddo i gwblhau’r gwaith ar Ddatganiad Cyfrifon 2018/19. Gofynnodd i Aelodau bleidleisio ar yr argymhellion yn yr adroddiad, ac yn dilyn y bleidlais, fe gafodd yr argymhellion eu derbyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo fersiwn terfynol Datganiad Cyfrifon 2018/19;
(b) Cymeradwyo Llythyr Sylwadau – Cyngor Sir y Fflint; a
(c) Nodi’r Wybodaeth Ariannol Ychwanegol i Ddatganiad Cyfrifon 2018/19.
Awdur yr adroddiad: Gary Ferguson
Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/09/2019 - Cyngor Sir y Fflint
Accompanying Documents:
- Statement of Accounts 2018/19 and Supplementary Financial Information to Statement of Accounts 2018/19 PDF 162 KB
- Enc. 1 for Statement of Accounts 2018/19 PDF 2 MB
- Enc. 2 for Statement of Accounts 2018/19 - WAO ISA 260 presentation PDF 385 KB
- Enc. 3 for Statement of Accounts 2018/19 - table of significant audit issues PDF 77 KB
- Enc. 4 for Statement of Accounts 2018/19 - Flintshire County Council Letter of Representation PDF 143 KB
- Enc. 5 for Statement of Accounts 2018/19 and Supplementary Financial Information to Statement of Accounts 2018/19 PDF 17 KB