Manylion y penderfyniad

Bus Lanes in Flintshire – Limitations on Use

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: Oes

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes

Diben:

To seek approval for the limitations on vehicles utilising the proposed new bus lanes in Deeside.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Cynghorydd Thomas yr adroddiad a oedd yn cadarnhau pa fath o gerbydau fyddai’n cael defnyddio’r lonydd bysiau newydd ar y B5129 rhwng Queensferry a Shotton a’r trefniadau gorfodi fyddai’n cael eu rhoi ar waith i reoli defnydd yr isadeiledd newydd.

 

                        Roedd y Cyngor yn cyflawni mesurau blaenoriaethau bysiau amrywiol fel rhan o’i Strategaeth Trafnidiaeth Integredig, a oedd yn cefnogi dyheadau Llywodraeth Cymru am gael ‘Metro Gogledd Ddwyrain Cymru’ rhanbarthol, gan hyrwyddo datrysiad cludiant cynaliadwy, a fyddai’n llwyddo i integreiddio cludiant o bob math, a chynnal a hyrwyddo gwasanaeth cludiant cyhoeddus cynaliadwy, fforddiadwy ac ecogyfeillgar, gyda chysylltiadau â phob man yn Sir y Fflint a’r rhanbarth ehangach.

 

                        Roedd y gwaith hefyd yn alinio â’r ymyriadau lefel uchel o fewn Cyd-gynllun Cludiant Lleol Gogledd Cymru 2015-2020 a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn cynnwys:

 

·         Annog cludiant cynaliadwy;

·         Cysylltiadau gwell i gyflogaeth a mynediad at wasanaethau;

·         Gwelliannau i isadeiledd cludiant cyhoeddus; a

·         Partneriaethau o safon ar goridorau llwybr bws allweddol.

 

Fel rhan o’r gwaith, bu i’r Cabinet gymeradwyo’r cynllun i adeiladu lonydd bysiau dynodedig a bydd y gwaith ar y cynllun yn dechrau ym mis Ionawr 2020.

 

Ychwanegodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) fod ar y Cyngor angen cymeradwyaeth benodol gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi’r pwerau cyfreithiol i orfodi ar yr isadeiledd bws pwrpasol, yn cynnwys defnydd y lonydd bysiau gan gerbydau nad ydynt wedi’u hawdurdodi. Roedd y Cyngor wedi gwneud cais ffurfiol i Lywodraeth Cymru i gael yr awdurdod angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau gorfodi o’r fath.

                       

PENDERFYNWYD:

           

             (a)      Cymeradwyo’r cyfyngiadau ar gerbydau ag awdurdod i ddefnyddio’r

                      lonydd  bysiau arfaethedig ar y B5129; a

 

 (b)      Chymeradwyo’r trefniadau gorfodi ar yr holl lonydd bysiau eraill a mesurau blaenoriaethau bysiau mewn lleoliadau allweddol ar draws y coridor.

Awdur yr adroddiad: Steve Jones

Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019

Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet

Yn effeithiol o: 03/10/2019

Dogfennau Atodol: