Manylion y penderfyniad
Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To inform the Committee of progress against
actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar gynnydd o gamau gweithredu a ddeilliodd o gyfarfodydd blaenorol a rhoddodd wybod bod disgwyl cael y seminar ar gyllido cyfalaf yn hwyrach ymlaen yn y flwyddyn. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae’r cam gweithredu ar gostau tâl dros ben yswiriant wedi’i gwblhau.
Ar y ddau gam gweithredu sy’n weddill, awgrymwyd bod y Prif Weithredwr ac Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a benodwyd yn ddiweddar, yn cael eu gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol. Ar Fargen Dwf Gogledd Cymru, byddai’r Cyfarwyddwr Rhaglen newydd yn cael ei wahodd i gyfarfod ym Mawrth/Ebrill.
Tynnodd y Cynghorydd Heesom sylw at y pwysigrwydd o gynnwys Cadeiryddion Trosolwg a Chraffu wrth drafod y dull o graffu ar benderfyniadau’r Fargen Dwf. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai trefniadau llywodraethu ac ymgysylltiad â’r chwe chyngor yn cael eu hystyried mewn gweithdy rhanbarthol cyn yr ail Gytundeb Llywodraethu, i’w gyflwyno’n hwyrach. Byddai’r awgrym i Gyfarwyddwr y Rhaglen fynd i gyfarfod y dyfodol yn rhoi cyfle i Aelodau rannu eu disgwyliadau ar y pwnc hwn.
Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Heesom ac fe'i heiliwyd gan y Cynghorydd Cunningham.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi'r cynnydd sydd wedi’i wneud.
Awdur yr adroddiad: Robert Robins
Dyddiad cyhoeddi: 15/04/2020
Dyddiad y penderfyniad: 13/02/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 13/02/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: