Manylion y penderfyniad
Forward Work Programme and Action Tracking
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To consider the Forward Work Programme of the Environment Overview & Scrutiny Committee and to inform the Committee of progress against actions from previous meetings.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd yr Hwylusydd Trosolwg a Chraffu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol cyfredol a rhoddodd fanylion byr am yr Ymweliad â Pharc Adfer ar 7 Ebrill.
Cytunwyd y byddai’r eitemau canlynol oedd wedi’u trefnu ar gyfer y cyfarfod ar 5 Mai yn cael eu gohirio tan 7 Gorffennaf er mwyn gallu cynnal gweithdy ar gynnal a chadw ffosydd a chyrsiau d?r ar 5 Mai.
· Trydaneiddio’r Fflyd
- Rheoli Plâu
Pwysleisiodd y Cynghorydd Wisigner bwysigrwydd clirio ffosydd yn rheolaidd, ac fel enghraifft fe soniodd am sefyllfa yn Sandycrofft y llynedd pan gafwyd llifogydd gan fod ffosydd heb gael eu clirio yn wahanol i eleni, pan gafodd ffosydd eu clirio, ac o ganlyniad ni chafwyd llifogydd.
Wrth ymateb i fater a godwyd o ran newidiadau arfaethedig i lwybrau hedfan Maes Awyr Lerpwl, cytunodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) i rannu dogfen ymgynghori Maes Awyr Lerpwl gyda’r Aelodau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Owen Thomas at newidiadau i wasanaethau bws sydd wedi gadael ardaloedd fel Llys Alyn yn Rhydymwyn heb gludiant cyhoeddus. Cytunodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) i drefnu bod Sarah Blake yn cwrdd â phreswylwyr Rhyd-y-mwyn yngl?n a thrafnidiaeth seiliedig ar alw.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at broblem gyda chebl o dan yr A548 a dywedodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) wrth y Pwyllgor mai’r Cyngor sydd bellach yn gyfrifol am waith atgyweirio gan ei fod y tu allan i’r cyfnod gwarant 2 flynedd a’u bod wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am gyllid gwytnwch.
Cynigiodd y Cynghorydd Dave Wisinger yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol;
(b) Bod yr Hwylusydd, wrth ymgynghori gyda Chadeirydd y Pwyllgor yn derbyn awdurdod i amrywio’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol rhwng cyfarfodydd, yn ôl yr angen; a
(c) Bod y Pwyllgor yn nodi’r cynnydd sydd wedi’i wneud o ran y camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
Awdur yr adroddiad: Margaret Parry-Jones
Dyddiad cyhoeddi: 05/08/2020
Dyddiad y penderfyniad: 10/03/2020
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 10/03/2020 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd
Dogfennau Atodol: