Manylion y penderfyniad

Community Safety Partnership Annual Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is AllweddolPenderfyniad?: Nac ydw

Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw

Diben:

To provide Members with assurance and an overview of the activities and progress of the Community Safety Partnership in 2019/20.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad blynyddol y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol a oedd yn rhoi trosolwg weithgareddau’r 12 mis diwethaf. Cafodd dyletswyddau statudol y Bartneriaeth eu cyflawni trwy Fwrdd Y Gwasanaethau Cyhoeddus a arweinir gan Sir y Fflint.

 

 Cafodd yr Aelodau eu cyflwyno i Sian Jones, Rheolwr Gwarchod Cymunedau a Busnes; Richard Powell, Arweinydd Tîm Diogelwch Cymunedol; Rhiannon Edwards, Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; Arolygydd Rhanbarth Gareth Cust o Heddlu Gogledd Cymru; Gerwyn Davies, Cydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol; a Mike White, Rheolwr Partneriaeth Wrecsam a Sir y Fflint, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·         Cyd-destun

·         Grwpiau Cyflawni Diogelwch Cymunedol

·         Cyflawniadau

·         Perfformiad

·         Rhyngweithio gyda’r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel

·         Blaenoriaethau lleol ar gyfer 2018/19

 

Adroddodd Arweinydd y Tîm Diogelwch Cymunedol bod gostyngiad wedi bod mewn lefelau troseddau dioddefwyr yn Sir y Fflint dros y flwyddyn ddiwethaf a bod gostyngiad wedi bod ledled gogledd Cymru mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol. Rhoddodd drosolwg o’r rhyngweithio sydd wedi digwydd gyda’r Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel ar ardaloedd blaenoriaeth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched, oedolion diamddiffyn a phobl ifanc, yn ogystal â gwarchod cymunedau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Johnson am y cysylltiadau rhwng tlodi, anghydraddoldeb a throsedd. Mewn ymateb i sylwadau am droseddau casineb, byddai penodi Swyddog Cydlyniant Cymunedol i Sir y Fflint (gan ddefnyddio cyllid Llywodraeth Cymru) yn helpu i annog cymunedau i adrodd am ddigwyddiadau.

 

Soniodd yr Arolygydd Gareth Cust am y dulliau amrywiol sydd ar gael i adrodd am droseddau a chodi ymwybyddiaeth mewn ysgolion o faterion megis troseddau casineb a Llinellau Sirol. Soniodd hefyd am raglen hyfforddi gyda swyddogion yr heddlu yn Sir y Fflint i adnabod effeithiau Profiadau Niweidiol Yn Ystod Plentyndod (ACE).

 

 Wrth gydnabod y pwysau sydd ar adnoddau’r Heddlu, cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at yr atodiad hwyr i adroddiad Monitro Cynllun y Cyngor a welir yn ddiweddarach yn y Rhaglen, lle'r oedd rhywfaint o ddata perfformiad yr Heddlu ar goll.  Roedd hyn yn cynnwys nifer y digwyddiadau o gam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n cael eu hadrodd a oedd yn faes blaenoriaeth.

 

Wrth sôn am gymhlethdod y pwnc, siaradodd y Prif Weithredwr am yr angen i ddeall uniondeb y data a ddarperir gan Heddlu Gogledd Cymru ac y byddai angen rhannu ffigwr manwl gywir gyda’r Pwyllgor unwaith y byddai ar gael.

 

Cytunodd yr Ymgynghorydd Rhanbarthol Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol bod angen i'r data hwn fod yn fwy clir oherwydd y ffordd y caiff digwyddiadau eu cofnodi. Er mwyn datrys hyn, roedd dadansoddwyr yn adolygu'r dull o gofnodi digwyddiadau er mwyn ymgorffori pob elfen o drais domestig a darparu darlun cywir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y dylai esboniad fod wedi cael ei gynnwys i helpu i ddeall yr adroddiad er mwyn cymharu perfformiad flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cytunodd y Prif Weithredwr a dywedodd mai dim ond y ffigwr yn yr adroddiad gwreiddiol y gallai'r Pwyllgor ei dderbyn ar hyn o bryd gyda'r cafeat ynghylch dadansoddi data parhaus.

 

Cyfeiriodd yr Arolygydd Cust at newidiadau arwyddocaol mewn cofnodi troseddau a chydymffurfio â safonau rheoliadau. Nodwyd ei gynnig i ddarparu ffigyrau’r flwyddyn hyd yma ar ddigwyddiadau cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bateman, rhoddwyd gwybodaeth am wahanol fathau o Gaethwasiaeth Fodern ac am ddatblygu pecyn e-ddysgu i helpu swyddogion i adnabod arwyddion o’r troseddau hyn. Siaradodd y Prif Weithredwr am achosion yn y blynyddoedd diwethaf ac am rannu cudd-wybodaeth ar draws y rhanbarth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Johnson am y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, dywedodd y Prif Weithredwr bod gostyngiad mewn cyllid cenedlaethol wedi arwain at newid i weithio’n fwy rhanbarthol ac mae’r Cyngor wedi cynyddu ei ddyraniad cyllid i wneud iawn am y diffyg er mwyn diogelu’r gwasanaeth.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cynghorydd Wisinger yngl?n ag archwilio ffyrdd newydd o gefnogi pobl ifanc, dywedodd y Prif Weithredwr bod yr adroddiad blynyddol yn darparu trosolwg o’r gwaith ar lefel uchel ac y gellid ystyried rhannu manylion gwaith ar themâu allweddol, o bosibl trwy Drosolwg a Chraffu.

 

Amlygodd y Cynghorydd Bithell enghreifftiau o waith pwysig sy’n digwydd o ddydd i ddydd, megis Wardeiniaid Cymdogaeth yn darparu cefnogaeth a help ymarferol i aelwydydd diamddiffyn sy’n ofni troseddau.

 

Wrth groesawu’r adroddiad positif, cyfeiriodd y Cynghorydd Thomas at rôl allweddol y Cyngor mewn nifer o fentrau troseddol ac at y gwasanaethau ataliol amrywiol.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r ddadl, eu gwneud gan y Cynghorydd Richard Jones ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Cunningham a ganmolodd waith y bartneriaeth.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r cyfranwyr am eu presenoldeb.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi cyflawniadau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol dros y deuddeng mis diwethaf.

Awdur yr adroddiad: Sian Jones (Environment)

Dyddiad cyhoeddi: 24/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Dogfennau Atodol: