Manylion y penderfyniad
Childcare Offer for Wales, Flintshire
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To outline how more families can be supported
to access the 30 hours Childcare Offer and proposals for capital
investment to support this work.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gofal Cymdeithasol) adroddiad yn amlinellu sut y gall rhagor o deuluoedd gael eu cefnogi i gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant 30 awr a’r cynigion am fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi’r gwaith hwn.Darparodd wybodaeth gefndir ac esboniodd mai nod y Cynnig oedd helpu i gefnogi teuluoedd gyda gofal o ansawdd sy’n hyblyg, ac yn fforddiadwy. Roedd yn cefnogi adfywio economaidd ac yn lleihau'r pwysau ar incwm y teulu hefyd, ac yn helpu rhieni i gael gwaith gan leihau perygl y teulu o dlodi.
Adroddodd y Prif Swyddog bod y Cynnig Gofal Plant wedi bod yn llwyddiannus yn Sir y Fflint, a fyddai o fudd i deuluoedd, y sector gofal plant a chymunedau. Oherwydd ei lwyddiant, gofynnwyd am nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, a cafodd hyn ei gymeradwyo yn ddiweddar.Adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad, a cyfeiriodd at y cynnydd wrth ddatblygu a darparu'r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn Sir y Fflint, Cynllun Cyfathrebu Gwybodaeth ac Ymgysylltiad, nawdd grantiau cyfalaf, cytundeb trwyddedu meddalwedd Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint, system cenedlaethol a pheilot Hawl Bore Oes o £4.50 yr awr.
Llongyfarchodd y Cynghorydd Dave Mackie y Prif Swyddog a’i dîm ar lwyddiant Cynnig Gofal Plant Sir y Fflint a gofynnodd bod diolch yn cael ei basio ymlaen i bawb arall a gyfrannodd eu gwaith caled. Cynigodd bod llythyr yn cael ei anfon i’r Cadeirydd gan Swyddogion a staff i fynegi gwerthfawrogiad y Pwyllgor o’r gwaith sy’n cael ei gynnal i gefnogi teuluoedd i gael mynediad i’r cynnig.
PENDERFYNWYD:
(a) Derbyn yr adroddiad; a
(b) Bod llythyr yn cael ei anfon gan y Pwyllgor i’r Rheolwr Blynyddoedd Cynnar a Chefnogaeth i’r Teulua’i thîm, i fynegi gwerthfawrogiad y Pwyllgoro’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefngoi teuluoedd i gael mynediadi’r Cynnig.
Awdur yr adroddiad: Gail Bennett
Dyddiad cyhoeddi: 04/02/2020
Dyddiad y penderfyniad: 03/10/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 03/10/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd
Dogfennau Atodol: