Manylion y penderfyniad
Capital Programme Monitoring 2019/20 (Month 4)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To present the Month 4 capital programme information for 2019/20.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad a oedd yn crynhoi’r newidiadau a wnaed i’r Rhaglen Gyfalaf 2019/20 ers ei gosod ym mis Chwefror 2019 hyd at ddiwedd Mis 4 (Gorffennaf 2019), ynghyd â’r gwariant hyd yma a’r canlyniadau amcanol.
Roedd y Rhaglen Gyfalaf wedi gweld cynnydd net o £27.844m yn ystod y cyfnod a oedd yn cynnwys:
· Cynnydd net o £15.914m yn y rhaglen (£15.390m yng Nghronfa’r Cyngor a £0.524 yn y Cyfrif Refeniw Tai); a
· Chario cyllid ymlaen o 2018/19, sef swm o £11.930m (£11.930m o Gronfa’r Cyngor a £0.000m o’r Cyfrif Refeniw Tai).
Y gwariant gwirioneddol oedd £15.106m.
Roedd sefyllfa alldro terfynol y Monitro Rhaglen Gyfalaf 2018/19, ar gyfer y gyllideb 3 blynedd a osodwyd ym mis Chwefror 2018 a fydd yn dod i ben yn 2020/21, yn adlewyrchu diffyg o £1.187m.
Sefyllfa ddiffyg bresennol a chyfunol y Rhaglen Gyfalaf, ar gyfer y gyllideb 3 blynedd a osodwyd ym mis Chwefror ac a ddaw i ben yn 2021/22 oedd £1.230m. Roedd hyn cyn unrhyw dderbyniadau cyfalaf ychwanegol neu i unrhyw gyllid arall gael ei gynhyrchu yn ystod y flwyddyn.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r adroddiad cyffredinol;
(b) Cymeradwyo’r addasiadau cario ymlaen ym mharagraff 1.16; a
(c) Chymeradwyo ariannu cynlluniau o’r lle presennol ac ail-broffilio cyllideb y Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd ac, os oes angen, cyllid ar gyfer effaith llifogydd ar y Rhwydwaith Priffyrdd.
Awdur yr adroddiad: Chris Taylor
Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 24/09/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 24/09/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 03/10/2019
Dogfennau Atodol: