Manylion y penderfyniad

Revenue Budget Monitoring 2019/20 Month 4 and Capital Programme Monitoring 2019/20 Month 4 and Significant Variances (Out of County Placements, Children's Services and School Transport)

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved

Is KeyPenderfyniad?: No

yn amodol ar gael ei alw i mewn?: No

Diben:

To provide information on Revenue Budget Monitoring 2019/20 (Month 4) and Quarter 1 of Capital Programme Monitoring 2019/20.

 

To report on the significant overspends within Out of County Placements, Children’s Services and School Transport on the Council fund budget.

Penderfyniadau:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa'r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai a diweddariad am Raglen Gyfalaf 2019/20 ym mis 4.  Yn unol â’r cais, rhannwyd adroddiad am yr amrywiadau arwyddocaol mewn Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant i’r Ysgol hefyd.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

 O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a gwella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd - yn ddiffyg gweithredol o £2.983m, sef gostyngiad o £0.118m ers mis Gorffennaf. Roedd y balans a ragwelir ar gyfer cronfeydd wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn yn £1.886m. Roedd y meysydd gorwariant ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Plant a Chludiant i’r Ysgol yn cael eu gwrthbwyso’n rhannol gan danwariant mewn Cyllid Canolog a Chorfforaethol.   Rhagwelir y byddai cyfanswm terfynol y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gytbwys pe bai'r Cabinet yn cymeradwyo'r argymhelliad i drosglwyddo £0.250m i Wasanaethau Oedolion o’r Gwasanaethau Adnoddau a Rheoleiddio i gyflawni newidiadau yn y galw am wasanaeth. Byddai’r holl feysydd gwario dianghenraid yn parhau i gael eu hadolygu er mwyn gostwng y gorwariant cyffredinol a ragwelir ar ddiwedd y flwyddyn.

 

 Byddi’r gyfradd gyflawni o 90% a ragwelir ar gyfer arbedion a gynllunnir yn ystod y flwyddyn yn cynyddu i 91% pe bai’r Cabinet yn cytuno i ail-osod cyfnodau’r effeithlonrwydd o Gymhorthdal Aura.

 

Yn dilyn newidiadau i fformat yr adroddiad, dangosodd diweddariad am bwysau ysgolion y sefyllfa o ran diffygion mewn ysgolion uwchradd a fyddai’n cael eu monitro’n agos.

 

Ar y Cyfrif Refeniw Tai, rhagwelir y byddai gwariant yn ystod y flwyddyn £0.081m yn uwch na’r gyllideb, gan adael balans o £1.242m ar ddiwedd y flwyddyn sy’n uwch na’r lefel isaf a argymhellir.

 

Wrth groesawu'r newid yn fformat yr adroddiad, holodd y Cynghorydd Heesom pam nad oes cronfeydd wrth gefn a oedd heb eu clustnodi ar gyfer y Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy (SuDS) a’r Tîm Cyswllt Dioddefwyr o dan eu meysydd portffolio. Esboniodd y Prif Weithredwr bod y ddau wedi cael eu cynnwys fel pwysau yng nghyllideb 2019/20 – fel y cytunwyd gan Aelodau – ac y byddai’r symiau ychwanegol hyn yn ateb gofynion deddfwriaethol newydd ac yn cynyddu capasiti i ddiwallu anghenion pobl ifanc ddiamddiffyn. Cadarnhaodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y symiau’n cael eu dyrannu i’r Gwasanaethau Cymdeithasol o’r Gronfa Arian at Raid yn ystod y flwyddyn. Cytunodd Swyddogion ddarparu adroddiad ar y costau sy’n gysylltiedig â SuDS yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Jones ar fformat yr adroddiad, eglurwyd bod y tabl yn gosod allan y sefyllfa gyffredinol ac y byddai’r naratif yn canolbwyntio ar amrywiadau arwyddocaol uwchben lefel a gytunwyd o £0.100m, gyda manylion llawn yr holl amrywiadau yn yr atodiad. Siaradodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) am wneud llai o ddefnydd o weithwyr asiantaeth yn ei bortffolio a oedd yn aml yn anochel.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Heesom.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd y rhaglen ddiwygiedig yn cynnwys dau swm a gymeradwywyd ac a ddygwyd ymlaen o 2018/19 a nifer o newidiadau ynghyd â dyraniadau cyllid a gadarnhawyd. Roedd dau gais i ddwyn ymlaen i 2020/21 ac roedd dyraniadau ychwanegol yn bennaf oherwydd newidiadau i raglenni presennol. Arhoswyd am gadarnhad gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar gynnig cyllid grant mewn perthynas â’r pwysau o £0.350m i fynd i’r afael ag effaith llifogydd ar y rhwydwaith priffyrdd. Pe bai’n cael ei dderbyn, byddai hyn yn gadael diffyg o £1.230m mewn cyllid ar gyfer cynlluniau a gymeradwywyd yn 2019/20.

 

O ran buddsoddiad yn nhrefi'r sir, rhoddwyd esboniad i'r Cynghorydd Jones am ddosbarthiad trefi fel y cytunwyd yn flaenorol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Heesom y gwaith a oedd wedi’i wneud gan dimau mewn ymateb i lifogydd lleol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Heesom yr argymhellion, ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Bateman.

 

Amrywiadau arwyddocaol mewn Cludiant I'r Ysgol

 

Cyflwynwyd Aelodau i’r Rheolwr Cyflawni Gwasanaeth, Priffyrdd a Gwastraff (Katie Wilby) a gyflwynodd yr adroddiad ar amrywiadau arwyddocaol mewn Cludiant I'r Ysgol. Ymunwyd â hi gan Reolwr yr Uned Trafnidiaeth Integredig (Ceri Hansom); a’r Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio (Ruth Cartwright).

 

Roedd nifer o resymau dros y gorwariant gan gynnwys trefniadau cludiant i'r ysgol anstatudol yn y gorffennol a oedd yn cael eu terfynu’n raddol ar ôl cael cymeradwyaeth gan y Cabinet yn 2018.  Nid oedd yr incwm o docynnau teithio rhatach a gynigir dros dro yn talu’r gost lawn ac roedd y cynnydd mewn prisiau contract ers colli gweithredwr bysiau wedi cael effaith bellach. Roedd goblygiadau ariannol hefyd yn gysylltiedig ag amseriad y flwyddyn ysgol a chynnydd mewn niferoedd disgyblion. Roedd cynnydd yn y galw am gludiant i Leoliadau y Tu Allan i’r Sir hefyd yn ffactor, gan gynnwys rhai unigolion ag anghenion cymhleth a oedd yn gorfod teithio ar eu pennau eu hunain neu mewn cerbydau arbenigol.

 

Rhoddodd swyddogion grynodeb o gynnydd ar amrywiaeth o gamau gweithredu lliniaru, fel y manylir yn yr adroddiad, gan gynnwys ailasesu contractau gwerth uwch a threfniadau contract i gyflawni gwerth am arian.  Roedd camau gweithredu eraill yn cynnwys archwilio opsiynau cludiant mewnol a chysylltu â chydweithwyr Addysg i ragweld newidiadau yn y galw.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd unrhyw fesurau lliniaru eraill y tu hwnt i’r camau gweithredu ac y byddai gorwariant sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn. Byddai’r pwysau hwn yn cael ei gynnwys fel ffactor yng nghyllideb 2020/21 a byddai gwaith gyda thimau Addysg yn helpu i ragweld y sefyllfa hirdymor.

 

Mewn ymateb i sylwadau gan y Cynghorydd Heesom, darparodd Rheolwr yr Uned Trafnidiaeth Integredig drosolwg o waith i fynd i’r afael â’r anomaleddau hanesyddol. Roedd y diffyg galw am docynnau teithio rhatach yn golygu bod nifer o aelwydydd yn canfod datrysiadau eraill er mwyn cludo plant i’r ysgol a byddai capasiti ar y gwasanaethau hynny sy’n derbyn chymhorthdal yn cael eu hadolygu.  Talodd y Cynghorydd Thomas deyrnged i’r Rheolwr am ei waith ar hyn.

 

Wrth ddiolch i swyddogion am yr adroddiad manwl, cydnabyddodd y Cynghorydd Jones y camau gweithredu a oedd mewn lle i fynd i’r afael â’r problemau, ac ni fyddai wedi bod yn bosibl rhagweld y rhan fwyaf ohonynt.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod angen mwy o hyblygrwydd ar gyllidebau i reoli newidiadau yn y galw am wasanaeth. Gan nad oedd unrhyw fesurau lliniaru pellach, byddai angen i'r gorwariant gael ei ddatrys yn gorfforaethol. Diolchodd i’r tîm a oedd wedi gweithio trwy’r anomaleddau.

 

Amrywiadau arwyddocaol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad ar amrywiadau arwyddocaol mewn Gwasanaethau Cymdeithasol a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir a oedd wedi cael eu hystyried yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar y cyd.

 

Roedd y cynnydd o 30% yn y galw am Wasanaethau Plant dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn adlewyrchu cynnydd o 57% yn nifer y plant sy'n derbyn gofal dros yr wyth mlynedd diwethaf.  Y ffactor mwyaf arwyddocaol oedd bod lefelau camddefnyddio sylweddau/alcohol ymysg rhieni, salwch meddwl a cham-drin domestig ymysg rhieni yn y Sir (y tri sbardun a gydnabyddir) i gyd yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer Cymru. Dylanwad arall oedd camfanteisio ar bobl ifanc trwy Linellau Sirol, ac er ei bod yn broblem genedlaethol, roedd yn risg arbennig i Sir y Fflint oherwydd ei lleoliad daearyddol.

 

Roedd gweithio ar y cyd rhwng Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg wedi helpu i ostwng niferoedd y Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir dros y flwyddyn ddiwethaf, fodd bynnag roedd goblygiadau ariannol yn deillio o nifer gynyddol o achosion cymhleth.

 

Nid oedd un datrysiad i’r pwysau ariannol oherwydd nifer y ffactorau allanol sydd y tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Rhoddodd y Prif Swyddog grynodeb o rai o’r gweithgareddau sy’n digwydd i gael rhywfaint o effaith: roedd y rhain yn cynnwys fforwm amlasiantaeth i dargedu camfanteisio, cyflwyno mentrau newydd i ddenu gofalwyr maeth newydd ac archwilio opsiynau ar gyfer lleoliadau lleol ychwanegol. Wrth amlygu bod Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn fater cenedlaethol, siaradodd am y dull gweithredu a ddefnyddir gan y Cyngor i reoli hyn gan gynnal safon yr arlwy i bobl ifanc ar yr un pryd.

 

Cytunodd y Cynghorydd Richard Jones fod Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir yn broblem i bob cyngor ac roedd angen cymorth ariannol gan LlC. Awgrymodd y gellid rhoi mwy o ffocws ar y ‘tri sbardun’ i dargedu’r hyn sy’n ei achosi.

 

Wrth amlygu maint yr her, siaradodd y Prif Weithredwr am ehangder y gwaith megis chwilio am opsiynau llety lleol ac ymestyn y rhwydwaith maethu, gan gydnabod costau darparu gwasanaethau o safon a bregusrwydd lleoliad Sir y Fflint.

 

 Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones i sylwadau gael eu cyflwyno i LlC a dywedwyd wrtho fod Y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi canmol dull gweithredu’r Cyngor i fynd i’r afael â’r materion arwyddocaol hyn yn ystod ymweliad diweddar. Dywedodd y Prif Weithredwr bod hyn yn ffurfio rhan o’r achos ar gymorth i wasanaethau galw uchel ac y dylai ymgorffori opsiynau cyfalaf / refeniw sy’n cael eu harchwilio gan swyddogion ar hyn o bryd i ddangos datrysiadau arloesol.

 

 Croesawodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) drafodaethau gyda chydweithwyr Iechyd ar newid y dull o roi diagnosis i ymddygiad pobl ifanc er mwyn darparu cefnogaeth mewn ffordd wahanol. Mewn ymateb i sylwadau am gostau amrywiol darpariaeth gofalwyr maeth, cyfeiriodd at ffyrdd newydd o ddenu gofalwyr maeth a datblygu fframwaith cenedlaethol yng Nghymru.

 

Siaradodd y Cynghorydd Heesom yngl?n â chydnabod safle Sir y Fflint fel Sir ffiniol.

 

Fel Aelod Cabinet, dywedodd y Cynghorydd Christine Jones bod Sir y Fflint – fel Cyngor sy’n croesawu maethu – yn cyflwyno mentrau i annog gofalwyr maeth newydd. Aeth ymlaen i gyfeirio at effaith Llinellau Sirol a Chredyd Cynhwysol dros ardal eang, a’r gwaith ataliol sy’n cael ei wneud gan y Cyngor a’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.

 

Canmolodd y Cynghorydd Cunningham waith y timau yng nghyd-destun yr heriau ariannol. Er ei fod yn cefnogi mentrau i fynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi’r galw cynyddol am y gwasanaethau, tynnodd sylw at bwysigrwydd cyfrifoldeb yr unigolyn.

 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones yngl?n â pha mor bwysig yw deall y data. Cynigodd argymhelliad ychwanegol i gydnabod y dylid rhoi mwy o ffocws ar yr hyn sy'n achosi problemau iechyd meddwl.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod buddsoddiad mewn gwaith ataliol yn flaenoriaeth ynghyd â datblygu datrysiadau mwy lleol a chost effeithiol. Cafodd pwysau cyllidebol ar gyfer y ddau faes eu cynnwys yn y rhagolwg ar gyfer 2020/21 a byddent yn cael eu monitro. Roedd gwariant dianghenraid ym mhob portffolio yn cael ei ailasesu i bennu’r effaith ar arian wrth gefn ar ddiwedd y flwyddyn.

 

Wrth roi diweddariad i’r Pwyllgor am drafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dywedodd y Prif Weithredwr ei fod yn aros am eglurhad yngl?n â p’un a yw costau cyflog a phensiynau athrawon eisoes wedi’u cynnwys yn y gyllideb sylfaenol ac felly heb ei gynnwys yn y refeniw ychwanegol o £593m a roddwyd i LlC o'r adolygiad gwariant. Byddai diweddariad yn cael ei roi i’r Pwyllgor ar sefyllfa’r gyllideb.

 

Talodd y Cynghorydd Banks deyrnged i bob swyddog am eu gwaith caled ar y ddau adroddiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Richard Jones bod yr argymhellion yn adlewyrchu’r ddadl a’r pwyntiau a godwyd. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Heesom.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad monitro Cyllideb Refeniw 2019/20 Mis 4 a chadarnhau, ar yr achlysur hwn, nad oes unrhyw faterion penodol i’w cyflwyno gerbron y Cabinet;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2019/20 Mis 4 a chadarnhau, ar yr achlysur hwn, nad oes unrhyw faterion penodol i’w cyflwyno gerbron y Cabinet;

 

(c)       Ar ôl adolygu dadansoddiad pwysau ariannol y portffolio Strydwedd a Thrafnidiaeth, bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i liniaru’r pwysau hynny ac yn diolch i bawb dan sylw am eu gwaith caled a'u hymrwymiad;

 

(d)       Ar ôl adolygu dadansoddiad pwysau ariannol y portffolio Gwasanaethau Plant a Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, bod y Pwyllgor yn cefnogi’r gwaith parhaus i liniaru’r pwysau hynny ac yn diolch i bawb dan sylw am eu gwaith caled a'u hymrwymiad;

 

(e)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi gwneud achos i Lywodraeth Cymru am gymorth i dalu costau uchel gofal preswyl i blant ag anghenion cymhleth tra bo’r Cyngor yn datblygu opsiynau lleoliadau lleol mwy cost effeithiol i ymateb i’r galw cynyddol;

 

(e)       Bod y swyddogion yn cael y dasg o ymchwilio i ddatrysiadau 'buddsoddi i arbed’ i ostwng costau cyffredinol yn y meysydd hyn sy’n peri pryder; a

 

(g)       Bod y swyddogion yn cynnal dadansoddiad o’r ystadegau ar gyfer nifer uwch o achosion o gamddefnyddio sylweddau neu alcohol ymysg rhieni, salwch meddwl a cham-drin domestig ymysg rhieni sy'n cael eu cofnodi yn Sir y Fflint, ac adrodd yn ôl faes o law.

Awdur yr adroddiad: Chris Taylor

Dyddiad cyhoeddi: 24/10/2019

Dyddiad y penderfyniad: 19/09/2019

Penderfynwyd yn y cyfarfod: 19/09/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Accompanying Documents: