Manylion y penderfyniad
Council Tax Discount Scheme for Flintshire Foster Carers
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Cabinet
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is AllweddolPenderfyniad?: Oes
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Oes
Diben:
To approve the introduction of a Council Tax discount scheme for local authority foster carers.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Cynghorydd Jones yr adroddiad a oedd yn ceisio cymeradwyaeth ar gyfer Cynllun Disgownt Treth Gyngor ar gyfer Gofalwyr Maeth yr Awdurdod Lleol, a allai ddarparu pecyn mwy cystadleuol yn nhermau lwfansau a buddion a fyddai’n creu arbedion i’r Cyngor yn y pen draw.
Roedd Gofalwyr Maeth yn hollbwysig ar gyfer cefnogi anghenion pobl ifanc mewn gofal ac roeddent yn darparu gofal addas gyda theulu mewn amgylchedd cynnes, diogel, sylwgar a meithringar.
Roedd o leiaf 9 awdurdod lleol yn Lloegr eisoes yn gweithredu Cynlluniau Disgownt Treth Gyngor, gan gynnwys awdurdodau lleol cyfagos megis Dwyrain Swydd Gaer.
Byddai’r gost o gynnig disgownt o 50% i Ofalwyr Maeth yn Sir Fflint yn tua £92,000 a gellir ei adennill pe byddai dim ond tri phlentyn yn cael eu lleoli gyda gofalwyr mewnol am gyfnod o 12 mis, yn hytrach na gydag asiantaethau maethu allanol.
Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) pe byddai’n derbyn cefnogaeth, y gallai’r cynllun ddod i rym o fis Ebrill 2020 gan ddefnyddio pwerau disgresiwn, fel y’u nodir yn Adran 13a (1) (c) Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
Esboniodd Swyddog Marchnata a Recriwtio’r Gwasanaethau Cymdeithasol bod her sylweddol yn bodoli eisoes i geisio canfod preswylwyr lleol oedd â dwy ystafell wely sbâr i ddarparu llety i frodyr a chwiorydd a oedd o oedran lle na fyddai’n briodol iddynt rannu ystafell wely. Gallai Cynllun Disgownt Treth Gyngor annog preswyliwr lleol i ystyried maethu yn hytrach na symud i eiddo llai o faint.
Esboniodd y Rheolwr Refeniw y gallai tua 122 o Ofalwyr Maeth Sir y Fflint fod yn gymwys ar gyfer y cynllun. O’r rhain, roedd 89 yn byw yn y Sir – roedd 33 yn byw y tu allan i’r sir ond er mwyn sicrhau cysondeb, byddai’r cynllun yn cynnwys darpariaeth i wneud dyfarniad ariannol anuniongyrchol ar ffurf cynllun cymorth ariannol yn lle’r disgownt Treth Gyngor.
Diolchodd y Cynghorydd Jones i Swyddog Marchnata a Recriwtio’r Gwasanaethau Cymdeithasol a’i thîm am y gwaith yr oeddent yn ei wneud yn Recriwtio Gofalwyr Maeth.
PENDERFYNWYD:
(a) I gymeradwyo cyflwyno, mewn egwyddor, Cynllun Disgownt Disgresiwn Treth Gyngor i Ofalwyr Maeth, a fyddai’n dod i rym o fis Ebrill 2020; a
(b) Mai disgownt o 50% fyddai’r opsiwn gorau er mwyn alinio’r Cynlluniau Disgownt Treth Gyngor ar gyfer Gofalwyr Maeth sy’n weithredol mewn awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth.
Awdur yr adroddiad: Emma Cater
Dyddiad cyhoeddi: 19/12/2019
Dyddiad y penderfyniad: 16/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 16/07/2019 - Cabinet
Yn effeithiol o: 25/07/2019
Dogfennau Atodol: