Manylion y penderfyniad
Council Plan 2019/20 Part 2
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Statws y Penderfyniad: Recommendations Approved
Is KeyPenderfyniad?: Nac ydw
Yn amodol ar gael ei alw i mewn?: Nac ydw
Diben:
To present Part 2 of the Council Plan - on performance milestones and measures for the year - and invite feedback for Cabinet which will approve the document later in the month.
Penderfyniadau:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i gyflwyno Rhan 2 o Gynllun y Cyngor. Pwrpas hyn oedd rhannu cerrig milltir perfformiad a mesurau ar gyfer y flwyddyn a gwahodd adborth i’r Cabinet a fyddai’n ystyried y ddogfen yr wythnos ganlynol. Darparodd wybodaeth gefndir a chyd-destun. Roedd Rhan 1 o Gynllun y Cyngor wedi amlinellu bwriad y Cyngor, ac mae Rhan 2 yn cynnwys y mesurau perfformiad, y targedau a’r cerrig milltir ar gyfer mesur a gwerthuso’r hyn a gyflawnir.
Soniodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu am yr wybodaeth yn yr adroddiad. Roedd yr hyn oedd angen ei gyflawni yn ystod 2019/20 yn cael ei ddisgrifio’n glir yn Rhan 1 o Gynllun y Cyngor. Roedd Rhan 2 yn sicrhau y gellid monitro cynnydd ac olrhain y cyflawniadau hynny. Y ddau fath o fesurau a fyddai’n cael eu defnyddio fyddai cerrig milltir ansoddol, pan oedd cynlluniau neu strategaethau i’w cyflawni, a mesurau mheintio a rhifiadol ar gyfer y targedau i’w cyflawni. Roedd Rhan 2 o Gynllun y Cyngor yn nodi dosbarthiad yr holl fesurau rhifiadol. Roedd cerrig milltir neu fesurau wedi’u gosod i fonitro cynnydd yn erbyn bob gweithgaredd neu gynllun. Roedd y risgiau i’w rheoli a’u lliniaru ar hyd yn flwyddyn wrthi’n cael eu hystyried a byddant yn cael sylw yn yr adroddiad monitro cyntaf. Dywedodd Swyddog Gweithredol Busnes Corfforaethol a Chyfathrebu y byddai data cymharu ag awdurdodau eraill yng Nghymru ar gael i gymharu ein sefyllfa yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at yr arddodiad Cylch Cyllid a Chynllunio Busnes a gyflwynwyd i gyfarfod o’r Pwyllgor ar 17 Ionawr 2019, a dywedodd fod y mesurau wedi’u nodi’n dda o ran y portffolio. Dywedodd ei fod yn cefnogi’r adroddiad ond soniodd fod angen i Gynllun y Cyngor gael mwy o ffocws a chael ei flaenoriaethu. Cyfeiriodd at y Cyngor Uchelgeisiol a dwedodd fod diffygion yn y ffordd yr oedd y Cyngor yn gwneud cynnydd gyda’r rhan honno o’r Cynllun. Mynegodd bryderon ynghylch y ffordd yr oedd isadeiledd priffyrdd yn cael ei reoli.
Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Heesom ar y rhwydwaith cludiant, dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod yr Awdurdod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru (LlC) a Thrafnidiaeth Cymru. Gwahoddwyd y Cynghorydd Heesom i gyfarfod i drafod ei bryderon gyda’r Prif Swyddog (Strydoedd a Chludiant) a hithau.
Cydnabu’r Prif Weithredwr y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Heesom ynghylch rôl gyfyngedig y Cyngor mewn datblygiad economaidd ond pwysleisiodd mai dim ond y gwasanaethau hynny oedd yn swyddogaeth i’r Cyngor y gallai’r Cyngor eu cynnwys. Aeth ymlaen i ddweud bod popeth oedd yn y Cynllun yn cael blaenoriaeth gyfartal ac mai ein cydgyfrifoldeb oedd sicrhau’r cerrig milltir a’r mesurau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at Gynllun y Cyngor (Rhan 2) 2019/20, oedd wedi’i atodi i’r adroddiad, a gofynnodd beth oedd nodau ac amcanion y fframwaith gwerth cymdeithasol. Dywedodd y gallai’r fframwaith gwerth cymdeithasol olygu nifer o bethau i wahanol bobl. Dywedodd ei fod yn rhan bwysig o Gynllun y Cyngor a gwnaeth gais i’r gwaith ar werth cymdeithasol gael ei gyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor yn y dyfodol er mwyn ei ystyried a’i ddatblygu. Hefyd awgrymodd sefydlu Gr?p Tasg a Gorffen i ddatblygu hyn, neu gynnal gweithdy i’r holl Aelodau.
Ymatebodd Swyddogion i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Johnson, gan gydnabod y pwyntiau ychwanegol a godwyd o ran caffael. Croesawodd y Prif Weithredwr yr awgrym i gynnal gweithdy. Soniodd y Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Carolyn Thomas am faint o waith a wnaed ar werth cymdeithasol gan y Cyngor, gan ddyfynnu manteision contractau mawr, cludiant cyhoeddus chynlluniau chwarae fel enghreifftiau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at yr angen i roi gwell eglurhad yn yr adroddiad ynghylch pam/sut roedd y Cyngor yn bwriadu rheoli’r gostyngiad mewn meysydd gwasanaeth. Eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd bwriad i leihau gwasanaethau presennol, ond, roedd angen trafod y safonau disgwyliedig mewn gwasanaethau a’r gofynion cyllidebol i’w cyflawni.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones y byddai o gymorth pe byddai copi o Gynllun y Cyngor yn cael ei atodi i adroddiadau yn y dyfodol. Eglurodd y Prif Weithredwr fod matrics gyda’r holl wybodaeth berthnasol wedi’i rannu gydag Aelodau, ond cafwyd ymateb gwael yngl?n â’r wybodaeth am berfformiad oedd ei hangen gan Aelodau.
Yn ystod y drafodaeth gofynnodd y Cynghorydd Jones am eglurhad pellach ynghylch yr wybodaeth yn yr atodiad i’r adroddiad o dan yr is-flaenoriaethau canlynol: gwybodaeth sylfaenol yn ymwneud â Rhwydwaith Priffyrdd (tudalen 76), Bod yn Barod ar gyfer Gwaith (tudalen 53), Rhaglen Ariannu Hyblyg (tudalen 52), data sylfaenol Credyd Cynhwysol/Diwygio Lles (tudalen 51), Anghenion Grwpiau Bregus o ran Tai (tudalen 46) a Byw’n Annibynnol (tudalen 33).
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton ei bod yn bwysig bod gwerth cymdeithasol a gwaith oedd ar y gweill yn Holway fel prosiect peilot yn cael ei fesur. Hefyd dywedodd fod angen darbwyllo partneriaid mewn sectorau eraill o’r gwaith gwerthfawr oedd yn cael ei wneud. Cyfeiriodd at yr awgrym i gynnal gweithdy a gofynnodd a oedd angen ystyried tystiolaeth o’r hyn oedd yn cael ei wneud yng Nghymru. Cyfeiriodd at bolisi LlC ar gaffael. Cytunwyd i gysylltu â Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth maes o law i’w hysbysu o waith y Cyngor ar werth cymdeithasol.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at dudalen 44 o’r adroddiad a gofynnodd a oedd yn bosibl i ffigwr targed 2019/20 gael ei ailystyried oherwydd ei bod yn teimlo ei fod yn rhy isel. Hefyd cyfeiriodd at dudalen 53 o’r adroddiad ac awgrymodd newid geiriad y mesurau cyflawni i ‘Nifer yr unigolion ag angen cymorth arnynt drwy’r gwasanaeth mentora sy’n mynd i fyd cyflogaeth, dysgu neu wirfoddoli’.
Hefyd dywedodd y Cynghorydd McGuill fod angen “buddsoddi i arbed” a gofynnodd a oedd yn bosibl ystyried prynu offer newydd a fyddai’n helpu i sicrhau arbedion i’r Cyngor o ran cost uchel trwsio tyllau ar wyneb ffyrdd yn y dyfodol. Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas nad oedd arian cyfalaf ar gael i brynu offer ond rhoddodd sicrwydd bod mwy o waith trwsio wedi’i wneud eleni.
PENDERFYNWYD:
(a) Cefnogi Rhan 2 o Gynllun y Cyngor – ar gerrig milltir perfformiad a mesurau ar gyfer y flwyddyn, yn amodol ar egluro manylion;
(b) Cynnal gweithdy i’r holl aelodau ar Werthoedd Cymdeithasol maes o law; a
(c) Chysylltu â Lee Waters, AC, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i’w hysbysu o waith y Cyngor ar werth cymdeithasol pan oedd y strategaeth yn barod.
Awdur yr adroddiad: Karen Armstrong
Dyddiad cyhoeddi: 14/10/2019
Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2019
Penderfynwyd yn y cyfarfod: 11/07/2019 - Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol
Dogfennau Atodol: